Sefydlwyd Hope St Mellons yng Nghanolfan Beacon, Caerdydd yn 2018 pan ddaeth preswylwyr lleol ynghyd i greu prosiectau a gweithgareddau â’r nod o gryfhau’r gymuned a meithrin cyfleoedd newydd.
Mae’r ganolfan yn derbyn atgyfeiriadau o blith preswylwyr Llaneirwg sy’n wyneb tlodi bwyd, ac mae hefyd wedi datblygu gardd i helpu i wella lles cymdeithasol, corfforol ac ariannol y gymuned.
Mae’r ymroddiad y mae gwirfoddolwyr Hope St Mellons wedi dangos i’w gardd wedi arwain atynt yn ennill y Wobr Tyfu Bwyd Cymunedol yng Ngwobrau Cymru Daclus 2024.
Dewch i ni ganfod mwy am ardd fwyd Hope St Mellons.
Ers 2021, mae Hope St Mellons wedi datblygu dros 100m2 o dir diffaith o amgylch Canolfan Beacon yn ardd tyfu bwyd sy’n dda i fywyd gwyllt sy’n cyflenwi Pantri Llaneirwg. Mae’r prosiect hwn, sy’n cael ei arwain gan y gymuned, yn mynd i’r afael ag ansicrwydd bwyd mewn ardal sy’n cael ei disgrifio fel un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o ran bwyd.
Dechreuodd y trawsnewidiad gyda Phecyn Datblygu Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a ddarparwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus. Ers hynny, mae tîm Hope St Mellons wedi gweithio’n galed i godi arian ar gyfer datblygiadau pellach, yn cynnwys gwelyau uchel, gwelliannau i balmentydd, llwybrau graean a phlanwyr. Mae’r tîm hefyd wedi gweithio gyda gwirfoddolwyr i dreblu’r ardal tyfu bwyd a ddarperir gan Cadwch Gymru’n Daclus a datblygu cynefin pellach ar gyfer bywyd gwyllt. Fe wnaethant wedyn ehangu i greu micro-berllan frodorol – sydd bellach yn cynnwys 18 o goed ffrwythau.
Mae Hope St Mellons wedi cefnogi datblygu cymunedol yn y gofod trwy Bantri Llaneirwg, y Clwb Natur a’r Clwb Garddio. Gyda’i gilydd, mae’r grwpiau hyn, sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, wedi meithrin perchnogaeth ar draws y gymuned ehangach, sydd wedi sicrhau bod yr ardd yn parhau’n fan agored i’r cyhoedd ei mwynhau bob dydd.
Mae’r datblygiad wedi creu ecosystem amrywiol ar gyfer bywyd gwyllt, yn cynnwys llwyni brodorol, dôl blodau gwyllt brodorol, a 26 math gwahanol o ffrwythau, perlysiau a llysiau organig. Mae’r gwirfoddolwyr wedi gweld cynnydd yn yr amrywiaeth o wenyn a glöynnod byw sy’n ymweld â’r ardd, ac yn y micro-berllan, er bod llwybrau’n cael eu torri ar gyfer mynediad, mae’r glaswellt wedi cael ei adael i dyfu’n hir. Mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn adar, pryfed ac amffibiaid yn yr ardal.
Mae’r Clwb Garddio’n defnyddio egwyddorion permaddiwylliant i gefnogi bywyd gwyllt ac i weithio mewn cytgord â natur, gan gynnwys plannu gyda’i gilydd i fynd i’r afael â phlâu yn hytrach na defnyddio plaladdwyr. Mae creu amgylchedd o’r fath wedi arwain at ddatblygu grwpiau pellach, fel y Clwb Natur sydd wedi datblygu cynefinoedd ar y safle, yn cynnwys gwesty trychfilod mawr, ac wedi annog amgylcheddaeth trwy raglen fisol o weithgareddau, fel creu bocsys adar a phlannu bylbiau.
Mae’r gofod wedi galluogi datblygiad dros 20 o gyfleoedd gwirfoddoli trwy’r Clwb Garddio, y Pantri a’r Clwb Natur, gyda gwirfoddolwyr yn dweud, “Mae cymryd rhan a gweld y cynnydd yn rhagorol” a “Y clwb garddio yw’r peth yr wyf wedi bod yn edrych ymlaen ato bob wythnos. Rwy’n credu dylai pawb ddod i roi cynnig arno.”
Roedd 100% o’r ymatebwyr yn teimlo bod yr ardd wedi gwella ymddangosiad Canolfan Beacon
Roedd 96% o’r ymatebwyr yn teimlo bod yr ardd yn cyfrannu at les corfforol a meddyliol y gymuned leol
Roedd 75% o’r ymatebwyr yn teimlo bod yr ardd yn cyfrannu at deimlad o ddiogelwch cymunedol
Roedd 96% o’r ymatebwyr yn teimlo bod yr ardd yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli gwerthfawr
Roedd 89% o’r ymatebwyr yn teimlo bod yr ardd yn cyfrannu at gynefin lleol i fywyd gwyllt