Menter Ail-Garu, Ysgol Gynradd Bryn Awel
Trefnodd Pwyllgor Eco Ysgol Gynradd Bryn Awel siop ‘dros dro’ i ail-garu hen wisg ysgol!
Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan?
Gofynnodd yr Eco-Bwyllgor i gymuned yr ysgol ddylunio posteri i hybu ail-ddefnyddio gwisg ysgol. Gwnaeth yr ysgol gyfan gwblhau tasg cartref/ysgol gyda’u teuluoedd i ddylunio poster i hysbysebu siop ‘dros dro’. Dewisodd yr Eco-Bwyllgor nifer o ddyluniadau a’u rhoi o gwmpas yr ysgol. Cynhalion nhw arolwg ar y dechrau ac ar ôl gwerthu eitemau yn y siop a gwneud gwaith ar draws y cwricwlwm.
Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn?
Cafodd ganlyniadau o’n adolygiad amgylcheddol eu hysgrifennu i’n Cynllun Gweithredu Eco. Un o’r meysydd ffocws oedd ‘lleihau gwastraff,’ a hybu ‘gwrthod, lleihau, ailddefnyddio, ailwerthu, ailgylchu.’
Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?
Cafodd drawstoriad o 54 o ddisgyblion eu harolygu cyn ac ar ôl y camau ar ‘leihau gwastraff’ gan gynnwys y fenter ‘siop dros dro’. Roedd effaith fesuradwy ar ymddygiad, agweddau, gwybodaeth a dealltwriaeth:
- Ydy hi’n iawn i wisgo gwisg ysgol sydd wedi cael ei wisgo o’r blaen: Ydy 87% àYdy 100%
- Ydych chi’n gwybod pan ydyn ni’n ceisio lleihau gwastraff o ddillad? Ydw 46% à Ydw 81%
- Gwnaeth y disgyblion wella’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ble mae deunydd ar gyfer dillad yn dod a sut mae dillad yn cael eu gwneud.
- Mae 100% o blant yn ymwybodol nawr fod ailddefnyddio gwisg ysgol yn gallu arbed arian a helpu’r amgylchedd.
- Roedd dros 115 darn o wisg ysgol wedi’u hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
Mae Siop dillad ysgol ‘dros dro’ yn syniad hynod gynaliadwy y dylai pawb roi cynnig arni!
Depindeer Blwyddyn 6 Eco-Bwyllgor
Mae’r syniad eco menter ail-garu gwych hwn wedi anfon neges bositif i’r ysgol a’r gymuned ehangach!
Mrs. Pascoe Prifathro
Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.
Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.
Sut mae’n gweithioCael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Grŵp Afonydd Caerdydd
Darllen rhagor
Ysgol Bassaleg
Darllen rhagor
Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Powys
Darllen rhagor








