Mae Partneriaeth CoStar yn elusen llawr gwlad wedi ei lleoli yng Nghwmbrân, sydd wedi ymroi i gefnogi a gwella’r gymuned leol. Gydag amrywiaeth o wasanaethau wedi eu hanelu at breswylwyr ar incwm cyfyngedig, mae Partneriaeth CoStar yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol, cyrsiau creadigol, ac adnoddau hanfodol fel banciau bwyd a dillad – i gyd yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lleol ymroddedig gyda chysylltiadau cryf â’r gymuned.
Un o’n mentrau blaenllaw yw’r Diwrnodau Ailgylchu Gwastraff Cymunedol, sydd â’r nod o leihau tipio anghyfreithlon, hyrwyddo ailgylchu ac ailddefnyddio, a chefnog byw’n gynaliadwy.
Dewch i ni ganfod mwy am fentrau lleihau gwastraff Partneriaeth CoStar…
Ers iddynt ddechrau’r Diwrnodau Ailgylchu Gwastraff Cymunedol – diwrnodau lle mae sgipiau’n cael eu darparu i breswylwyr lleol eu defnyddio – mae arferion gwaredu gwastraff yng Nghwmbrân wedi newid er gwell. Mae gwirfoddolwyr yn didoli eitemau sy’n cael eu rhoi yn y sgipiau, gan sicrhau bod eitemau y gellir eu hailddefnyddio yn cael cartrefi newydd, bod eitemau y gellir eu hailgylchu yn cael eu prosesu’n briodol, ac mai dim ond gwastraff na ellir ei adfer sy’n cael ei daflu.
Mae’r fenter hon nid yn unig wedi lleihau amlygrwydd tipio anghyfreithlon mewn mannau gwyrdd lleol ond mae hefyd wedi meithrin diwylliant o ailddefnyddio a rhannu yn y gymuned. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rôl allweddol yn ailddosbarthu eitemau dymunol neu hanfodol, yn cynnwys dodrefn, offer a nwyddau cartref i breswylwyr mewn angen, yn arbennig y rhai mewn llety â chymorth.
Mae’r prosiect yn cefnogi ymdrechion elusennol lleol eraill hefyd:
Mae cynllun cymunedol ailddefnyddio paent – menter arall Partneriaeth CoStar, yn cynnig paent dros ben am gost gostyngol i breswylwyr a sefydliadau lleol, gan annog arferion cynaliadwyedd pellach.
I gydnabod eu dull arloesol o leihau gwastraff a chymorth cymunedol, enillodd partneriaeth CoStar Wobr Arloesedd yr Economi Gylchol yng Ngwobrau Cymru Daclus 2024.
Mae’r diwrnodau ailgylchu wedi casglu gwerthfawrogiad cymunedol eang. Mae preswylwyr yn nodi mwy o ddealltwriaeth o gyfleoedd ailgartrefu ar gyfer eitemau diangen ac wedi mynegi eu diolchgarwch am y gwelliannau uniongyrchol y mae’r rhaglenni hyn yn eu gwneud i’w bywydau.
Wrth fyw mewn llety â chymorth a rennir, nid oes llawer o ddodrefn ac offer… Mae’r eitemau hyn yn golygu y gallwn i gyd eistedd yn yr ardd fel aelwyd a mwynhau’r awyr agored yn hytrach na chymryd tro! Terry “TJ” Jones, gwirfoddolwr CoStar
Terry “TJ” Jones, gwirfoddolwr CoStar
Mae’r incwm o offer wedi ei adnewyddu yn helpu i sicrhau ein bod yn ariannu ein hunain yn bennaf. Mae’n hyfryd gweld eitemau’n cael eu hailddefnyddio a’u gwerthfawrogi’n lleol cyn iddynt gael eu hanfon dramor. Jeff Thomas, ymddiriedolwr Tools for Self-Reliance Cymru
Jeff Thomas, ymddiriedolwr Tools for Self-Reliance Cymru
Mae Partneriaeth CoStar hefyd wedi datblygu cysylltiadau cymunedol cryf trwy fod yn un o Hybiau Codi Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus, gan hyrwyddo codi sbwriel a lleihau gwastraff, ynghyd â’n Banc Bwyd a Dillad, sydd yn cynnig cymorth hanfodol i breswylwyr sy’n wynebu caledi ariannol.
Wrth feithrin diwylliant o ailgylchu, ailbwrpasu, ac ymgysylltu cymunedol, mae ymdrechion Partneriaeth CoStar yn dangos y gall sefydliadau bach sy’n cael eu sbarduno gan wirfoddolwyr gael effaith fawr ar gynaliadwyedd a lles cymunedol.