Ffurfiodd Grŵp Cymunedol Cyfarthfa ym Merthyr Tudful yn 2017 i fynd i’r afael â chynnydd mewn sbwriel ar draws y ward.
Nhw bellach yw un o’r grwpiau cymunedol mwyaf gweithgar yng Nghymru, yn cofnodi dros ddeg gweithgaredd y mis yn rheolaidd ar eCyfrif Cymru.
Yma mae’r grŵp yn sôn am y ffordd y gwnaethant ffurfio a sut mae eu gwaith wedi datblygu.
Sut dechreuodd Grŵp Cymunedol Cyfarthfa?
Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 2017 yn dilyn pryderon a fynegwyd gan ein cynghorwyr lleol am y broblem sbwriel yn ward Cyfarthfa.
Ar ôl cysylltu â Cadwch Gymru’n Daclus, roedd y broses o sefydlu grŵp ffurfiol yn eithaf didrafferth. Mae tafarn leol yn Heolgerrig, oedd yn barod iawn i gynnal cyfarfod, felly rhoddwyd posteri allan yn y ward – mewn siopau amrywiol, eglwysi, y swyddfa bost a’r clwb cymdeithasol.
Daeth tua 20 o bobl i’r cyfarfod cyntaf, oedd yn galonogol. Roedd brwdfrydedd amlwg, oedd yn golygu ei fod yn benderfyniad hawdd dod yn grŵp ffurfiol.
Cawsom ein cefnogi gan ein Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus lleol, a esboniodd yr angen am ymgynghoriad, pwyllgor o dri aelod o leiaf – Cadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd – a’r angen i sefydlu cyfrif banc ar gyfer y grŵp.
Cawsom gyfansoddiad safonol Cadwch Gymru’n Daclus a gwnaethom ei fabwysiadu ac yn dal i’w ddefnyddio. Mae hwn yn hanfodol os yw grŵp eisiau gwneud cais am gyllid grant.
Pa gymorth wnaethoch chi ei dderbyn gan y gymuned leol?
Mae Cyngor Merthyr yn gefnogol iawn o’n gweithgareddau a bob amser yn awyddus i helpu. Fe wnaethom weithio’n agos iawn gyda’n cynghorwyr lleol o’r dechau. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth yr ydym yn eich chael gan yr unigolion etholedig hyn a’u cysylltiadau â’r cyngor ehangach.
Fe wnaethom hefyd gysylltiadau defnyddiol â busnesau lleol. Er enghraifft:
Sut mae eich gwaith wedi datblygu dros y blynyddoedd?
Er i ni sefydlu fel grŵp codi sbwriel i ddechrau, fe wnaethom ehangu’n gyflym i weithgareddau amgylcheddol eraill.
Roedd gan sawl aelod sgiliau mewn meysydd eraill a allai fod o fudd i’r gymuned. Roedd y rhain yn cynnwys plannu bylbiau’r gwanwyn, plannu blodau’r haf, tocio gwrychoedd a thorri gwair. Roeddem yn ffodus i gael arian grant wnaeth ein galluogi i brynu offer a chyfarpar i’n helpu gyda hyn.
Fe wnaethom hefyd fabwysiadu’r parc ar ben uchaf Heolgerrig oedd wedi ei esgeuluso braidd a gosod pecyn gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yma ac yn Twyncarmel.
Ar ôl y pandemig, rhoddwyd y gorau i grwpiau codi sbwriel ac yn lle hynny penderfynwyd rhannu’r ward yn ardaloedd amrywiol – mae tua wyth – y mae aelodau unigol yn eu glanhau yn fwy ad hoc.
Ond, nid ydym wedi colli golwg ar yr ethos o grŵp. Rydym yn cyfarfod bob dau fis ac yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd trwy’r cyfryngau cymdeithasol – mae gennym grŵp WhatsApp a thudalen Facebook gweithredol iawn.
Rydym yn dal i gynnal o leiaf pum digwyddiad cymunedol bob blwyddyn lle mae ein niferoedd yn cynyddu gyda phobl eraill o’r gymuned.
Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu wrth ddod yn grŵp cymunedol sefydledig?
Fel grŵp gwirfoddol mae denu gwirfoddolwyr yn heriol – gallem bob amser wneud tro â mwy o ddwylo!
Rydym hefyd yn ariannu ein hunain ac yn dibynnu ar grantiau a rhoddion.
Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyllid yr ydym wedi ei dderbyn gan sefydliadau fel Ffos y Fran ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm. Heb y cymorth hwn ni fyddem yn gallu gwneud y gweithgareddau a’r gwaith yr ydym yn ei wneud.
Pa fuddion sydd i fod yn grŵp cymunedol?
Mae llawer o fuddion i fod yn grŵp cymunedol. Mae rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned yn rhoi boddhad, er ei fod yn rhwystredig pan fyddwn yn gweld sbwriel yn ailymddangos.
Mae ein haelodau yn gymdeithasol iawn ac yn mwynhau cwrdd, cydweithio a dysgu oddi wrth ein gilydd.
Gall rhedeg grŵp cymunedol fod yn waith caled, ond mae’n rhoi boddhad mawr hefyd. Ac rydym yn credu ein bod yn rhoi rhywbeth yn ôl i’n cymuned. Phil Star Cadeirydd, Grŵp Cymunedol Cyfarthfa
Phil Star Cadeirydd, Grŵp Cymunedol Cyfarthfa
I ganfod mwy am Grŵp Cymunedol Cyfarthfa, dilynwch nhw ar Facebook.
Gall ein swyddogion arbenigol eich tywys drwy’r broses.