Ymunwch â phrosiect y Goedwig Hir Drefol am ddiwrnod o hwyl ym Mharc Ystrad Mynach a chymerwch ran yn ein Bioblitz Coedwrych, cyfle i archwilio, adnabod a chofnodi’r bywyd gwyllt anhygoel sy’n byw yn ein coedwrych lleol. P’un ai eich bod yn newydd i natur neu eisoes yn caru bywyd gwyllt, mae croeso i bawb.
Dewch draw a:
- Gwneud eich gwesty trychfilod bach eich hun i fynd gartref gyda chi.
- Helpwch ni i ddarganfod a chofnodi’r bywyd gwyllt anhygoel sy’n byw mewn coedwrych fel rhan o’n Bioblitz Coedwrych.
- Darganfyddwch fwy am brosiect y Goedwig Hir Drefol a darganfod sut gallwch gymryd rhan trwy wirfoddoli, hyfforddiant a digwyddiadau cymunedol.
P’un ai bod gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt, yn chwilio am rywbeth i’w wneud, neu’n chwilfrydig am natur ar drothwy’r drws, byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno.
Mae’r lleoedd yn gyfyngedig, felly peidiwch â cholli’r cyfle!
Mae prosiect y Goedwig Hir Drefol yn diogelu, yn adfer ac yn dathlu coedwrych a choed hynafol ac aeddfed ledled Caerffili. Trwy wirfoddoli, hyfforddiant a digwyddiadau cymunedol, rydym yn gweithio gya phobl leol i helpu i ddiogelu a gwella’r cynefinoedd pwysig hyn ar gyfer bywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r prosiect, a wnaed yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen o addysg, hyfforddiant a chadwraeth ymarferol.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Parc Ystrad Mynach, Heol Caerffili, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7EP







