Dysgwch sut i gyfleu a rhannu straeon y Goedwig Hir Drefol trwy sesiwn hyfforddi ymarferol wedi ei chyflwyno gan Gasgliad y Werin Cymru.
Bydd y bore ymarferol hwn yn rhoi cyflwyniad i chi o lwyfan Casgliad y Werin Cymru a dangos sut rydych yn casglu, yn cofnodi ac yn cyhoeddi deunydd yn cofnodi’r bobl, y lleoedd a’r gweithgareddau sy’n ffurfio prosiect y Goedwig Hir Drefol.
Byddwch yn dysgu sut i rannu ffotograffau,straeon, atgofion, dogfennau a deunydd arall a gasglwyd trwy’r prosiect. Gallai hyn gynnwys diwrnodau plannu, digwyddiadau cymunedol, gweithgareddau gwirfoddoli, bywyd gwyllt lleol, bioamrywiaeth, hanes gwrychoedd a datblygiad safleoedd y Goedwig Hir Drefol dros amser.
Trwy gyfrannu, byddwch yn helpu i greu cofnod digidol parhaol, gan warchod profiadau a chyflawniadau y cymunedau cysylltiedig trwy gydol ei gyfod cyflwyno o dair blynedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol, dim ond diddordeb yn dweud stori y Goedwig Hir Drefol a’r cymunedau sy’n ei helpu i ddigwydd.
Mae’r lleoedd wedi eu cyfyngu i 10 cyfranogwr fesul sesiwn, felly archebwch yn gynnar er mwyn sicrhau lle!
Manylion y digwyddiad
Mae dwy sesiwn hyfforddi ar gael:
Wrecsam
Dyddiad: Dydd Mercher 11 Tachwedd 2026
Amser: 10.00 – 13.00
Lleoliad: I’w gadarnhau
Caerdydd
Dyddiad: Dydd Mercher 18 Tachwedd 2026
Amser: 10.00 – 13.00
Lleoliad: I’w gadarnhau
Darperir te a choffi.
Dewch draw a dysgu sut i gofnodi, rhannu a gwarchod straeon y Goedwig Hir Drefol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Lleoliad
- Lleoliadau lluosog







