JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Eco-Sgolion: Ein Daear; Ein Dyfodol

Cynhadledd i bobl ifanc Blynyddoedd 10-13 sy’n angerddol o blaid creu dyfodol cynaliadwy ac arwain y newid yn eu hysgol. 

Ydych chi’n barod i wneud rhywbeth mwy na siarad yn unig am yr hinsawdd? Hoffai Eco-Sgolion Cymru, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor eich gwahodd i’r ‘Gynhadledd Ein Daear; Ein Dyfodol’.

Bydd y gynhadledd yn cael ei  hysbrydoli gan bobl ifanc o bob cwr o Gymru sy’n frwd dros newid, er mwyn ysbrydoli a grymuso cyfranogwyr i greu newid cynaliadwy yn eu hysgol. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cipolwg gwerthfawr ar gyfleoedd gwaith sy’n dod i’r amlwg mewn swyddi gwyrdd.   

Bydd y siaradwyr, ynghyd â’r gweithdai, yn arfogi dysgwyr â’r offer, y syniadau a’r hyder i gyflawni newid yn eu hysgol a’u cymuned.   

Bydd y bore yn canolbwyntio ar 5 thema:  

  • Adfywio ac Adfer Natur 
  • Glanhau Ein Haer 
  • Adfywio Ein Cefnforoedd 
  • Adeiladu Byd Diwastraff 
  • Trwsio Ein Hinsawdd     

Yn y prynhawn, rydym yn ystyried ‘swyddi gwyrdd’ – beth ydyn nhw a pha fath o ddewisiadau gyrfaoedd allai ein harwain at ‘swydd werdd’? Bydd hyn yn cynnwys digwyddiad panel gyda siaradwyr o ystod eang o sectorau.   

Rydym yn annog ysgolion i ddod â hyd at 10 o ddysgwyr i’r digwyddiad.

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Abertawe a Bangor
Cofrestrwch eich diddordeb
Rhannu
Ein hysgolion

Gallwch ganfod sut mae ysgolion yn eich ardal chi’n ei wneud ar y rhaglen Eco-Sgolion.

Darganfod mwy
Her Hinsawdd Cymru
Golygfa o'r Ddaear o'r gofod yn y nos, gyda goleuadau dinas i'w gweld ar ochr dywyll y blaned.

Mae'r her arloesi ysgol hon yn gwahodd dysgwyr 5–18 oed i arddangos syniadau ar gyfer planed well.

Darganfod mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13