JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Hyfforddiant Cydlynwyr Newydd – Cynradd

Grŵp o blant ysgol gynradd ifanc yn sefyll gyda'u dwylo yn yr awyr, o flaen baner werdd Eco-Sgolion.

Helo Eco-Gydlynwyr!

Croeso i Hyfforddiant Cydlynwyr Newydd – gweithdy arbenigol sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer Athrawon Eco-Sgolion mewn Ysgolion Cynradd.

P’un a ydych chi’n camu i’r rôl hon am y tro cyntaf neu eisiau rhaglen loywi, bydd yr hyfforddiant rhithwir hwn yn rhoi’r wybodaeth i’ch helpu i feistroli llwyddiant Eco-Sgolion yn eich ysgol. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y rhaglen Eco-Sgolion Rhyngwladol yn ystod y sesiwn gan eich arwain drwy strategaethau i’w llywio’n effeithiol yn eich ysgol. Dewch i gael eich ysbrydoli wrth i ni ddangos sut mae cyfleoedd dysgu’r rhaglen yn alinio’n ddi-drafferth â Chwricwlwm i Gymru, gyda llawer o esiamplau go iawn o Eco-Sgolion blaengar ar draws y wlad.

Ac mae mwy! Rydym yma i’ch tywys drwy’r broses o wneud ceisiadau am wobrau a byddwn yn rhoi gwybodaeth o’r radd flaenaf i’ch helpu i ragori yn eich asesiadau Eco-Sgolion.

Mae Hyfforddiant i Gydlynwyr Newydd yn cael ei gynnal dros ddau sesiwn. Bydd pob sesiwn rhithwir yn para dwy awr ac mae ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â ni drwy e-bostio Eco-Schools@keepwalestidy.cymru

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Ar-lein
Cofrestrwch eich diddordeb
Rhannu
Cymryd rhan

Cofrestrwch eich ysgol gydag Eco-Sgolion Cymru a dechreuwch eich taith gynaliadwyedd.

Darganfod mwy
Mwy am sut mae’n gweithio

Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio drwy saith cam. Ar ôl i ysgol roi hyn ar waith a chasglu tystiolaeth o’i chynnydd, mae’n gallu gwneud cais am wobr Eco-Sgolion.

Sut mae'n gweithio
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13