English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Tyfu Dan Orchudd a Gwrthsefyll yr Hinsawdd

Meadow Street Community Garden and Woodland

Ymunwch â ni am weithdy ymarferol, am ddim wedi ei gynllunio ar gyfer grwpiau cymunedol sydd eisiau ymestyn eu tymor tyfu, datblygu gallu i wrthsefyll yr hinsawdd a chysylltu â gwirfoddolwyr eraill.

Wedi ei gynnal gan Ardd Gymunedol a Choetir Meadow Street, Trefforest, bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan gydlynydd y prosiect, Holly Usher, ac yn cyfuno dysgu ymarferol gyda chyfleoedd i rannu syniadau a phrofiadau.

Manylion y digwyddiad

Dyddiad: Dydd Mawrth 20 Hydref
Amser: 9.30am – 1.00pm
Lleoliad: Gardd Gymunedol a Choetir Meadow Street, Trefforest, CF37 1UD

Yn ystod y sesiwn, byddwch:

  • Yn cymryd rhan mewn gweithdy ymarferol yn archwilio sut i dyfu bwyd o dan orchudd a gwneud y gorau o’ch lle tyfu trwy gydol y flwyddyn.
  • Dysgu sut i gadw gardd fwyd yn gynhyrchiol yn ystod misoedd y gaeaf.
  • Cymryd rhan mewn trafodaeth anffurfiol a sesiwn Holi ac Ateb yn cynnwys testunau fel gwrthsefyll yr hinsawdd, addasu i dywydd sy’n newid, recriwtio gwirfoddolwyr ac ysgogi gwirfoddolwyr.
  • Rhwydweithio gyda grwpiau tyfu cymunedol eraill a rhannu profiadau mewn amgylchedd cefnogol a hamddenol.

Beth sy’n cael ei gynnwys?

  • Mynychu am ddim
  • Lluniaeth
  • Ad-dalu costau teithio
  • Cyfleoedd i rwydweithio gyda gwirfoddolwyr eraill

Cofrestrwch nawr

Mae’r lleoedd yn gyfyngedig i 20 o gyfranogwyr yn unig, felly cliciwch y botwm ‘Cofrestrwch eich diddordeb’ a llenwch y ffurflen i sicrhau eich lle.

P’un ai eich bod eisoes yn rhedeg gardd gymunedol neu eisiau syniadau newydd i gryfhau eich prosiect, mae’r gweithdy hwn yn gyfle gwych i gael sgiliau ymarferol, cysylltu ag eraill a pharatoi eich gardd ar gyfer y tymhorau i ddod.

Gwnaed y digwyddiad yn bosibl diolch i gefnogaeth Sefydliad Moondance.

Mwy am Ardd Gymunedol a Choetir Meadow Street

Mae Gardd Meadow Street wedi cael ei thrawsnewid o fod yn safle oedd wedi gordyfu ac wedi’i niweidio gan lifogydd i fod yn lle rhagorol ar gyfer natur ac i dyfu bwyd. Er gwaethaf heriau parhaus, yn cynnwys llifogydd dro ar ôl tro, mae grŵp craidd o wirfoddolwyr ymroddedig wedi gweithio’n ddiflino i ddarparu lle croesawgar i’r gymuned ehangach. I ganfod mwy, ewch i’w gwefan neu dilynwch nhw ar Facebook neu Instagram.

Manylion y digwyddiad

DateDyddiad
LocationLleoliad
Gardd Gymunedol a Choetir Meadow Street, Trefforest, CF37 1UD
Cofrestrwch eich diddordeb
Rhannu
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13