JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gwobr Gymunedol y Faner Werdd

Ar gyfer lleoedd a reolir gan y gymuned.

Gwobr Gymunedol y Faner Werdd yw’r meincnod ar gyfer parciau a mannau gwyrdd a gaiff eu rheoli gan wirfoddolwyr. Ble bynnag y byddwch yn gweld y Faner Werdd, gallwch fod yn siŵr eich bod yn ymweld â lleoliad eithriadol o’r safon uchaf posib.

Nôl i Y Faner Werdd ar gyfer Parciau

Cwestiynau cyffredin

Gall unrhyw fan gwyrdd cymunedol ymgeisio, cyhyd ag y bod y safle yn agored i’r cyhoedd mor aml â phosib (er rydyn ni yn deall nad yw’n bosib i bob parc/man gwyrdd fod ar agor drwy’r dydd, a bod rhai yn gyfyngedig i ddiwrnodau agored penodedig wedi eu hysbysebu).

Map rhyngweithiol yn dangos yr holl safleoedd sydd wedi ennill y wobr.

Ydy, y newyddion da yw nad oes cost i chi ymgeisio am Wobr Gymunedol y Faner Werdd!

  • Gallwch chi hedfan baner adnabyddus Gwobr y Faner Werdd yn eich parc ac arddangos y plac
  • Bydd eich safle yn cael ei hysbysebu ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus a gwefan Gwobr y Faner Werdd y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chael ei gynnwys yn y wasg ac mewn cyhoeddusrwydd.
  • Mae sawl safle a lwyddai i gael y Faner Werdd wedi gweld cynnydd yn y nifer o ymwelwyr.
  • Bydd pob parc yn derbyn adborth ac argymhellion, yn cynnwys arfer da a phethau i’w gwella.
  • Gall enillwyr elwa o gyllid a grantiau allanol sy’n cydnabod y wobr, er enghraifft, Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Gwobrwyi’r parciau yn flynyddol, felly bydd angen i enillwyr ymgeisio pob blwyddyn er mwyn adnewyddu eu statws fel parc neu fan gwyrdd Y Faner Werdd.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw’r 31 Ionawr.

Cynhelir y beirniadu yn ystod tymor y gwanwyn, ac fel rheol, cyhoeddir holl enillwyr Gwobr y Faner Werdd ym mis Gorffennaf.

Bydd beirniaid annibynnol, profiadol sydd wedi eu hyfforddi i feirniadu ceisiadau Gwobr y Faner Werdd yn trefnu i ddod i ymweld â’ch safle ac i fynd drwy eich cais.

Beirniadir eich safle yn ôl wyth maen prawf allweddol:

  • Man croesawus
  • Iach a diogel
  • Glân ac yn cael ei gynnal yn dda
  • Cynaladwyedd
  • Cadwraeth a Threftadaeth
  • Cynnwys y gymuned
  • Marchnata
  • Rheolaeth

Mae gwneud cais am y wobr yn broses hawdd ac yn rhad am ddim! Cofrestrwch eich parc ac uwch-lwytho’r dogfenni canlynol:

  • Cyfansoddiad y Grŵp
  • Yswiriant y Grŵp
  • Les neu fanylion cytundeb ar gyfer defnydd y tir lle leolir y safle
  • Map o’r safle
  • Lluniau o’r safle

Am ganllaw manwl, lawrlwythwch ein canllaw cam wrth gam.

Canllawiau ar Gymhwyso'r Faner Werdd

Yn barod i wneud cais?

Mae gwneud cais yn hawdd ac mae’n rhad ac am ddim!

Cofrestrwch eich safle
Cennin Pedr ym Mharc Bute, Caerdydd

Dysgu am Gwobr y Faner Werdd

Ydych chi yn aelod o staff sy’n rheoli parc neud fan gwyrdd? Darganfyddwch fwy am Wobr y Faner Werdd. Marc ansawdd rhyngwladol parc neu fan gwyrdd.

Learn more
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13