Cwestiynau cyffredin
- Mae’n darparu safon ansawdd genedlaethol ynghyd â fframwaith ar gyfer mannau gwyrdd.
- Gallwch arddangos baner adnabyddus Gwobr y Faner Werdd yn eich parc.
- Bydd eich safle yn cael ei hysbysebu ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus a gwefan Gwobr y Faner Werdd y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chael ei gynnwys yn y wasg ac mewn cyhoeddusrwydd.
- Mae sawl safle a lwyddai i gael y Faner Werdd wedi gweld cynnydd yn y nifer o ymwelwyr.
- Bydd pob parc yn derbyn adborth ac argymhellion, yn cynnwys arfer da a phethau i’w gwella.
- Gall enillwyr elwa o gyllid a grantiau allanol sy’n cydnabod y wobr, er enghraifft, Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Mae’r gost yn amrywio yn dibynnu ar faint eich safle. Y costau ymgeisio ar gyfer y flwyddyn yma yw:
- Safle Gwobr y Faner Werdd <20 hectar = £389 + TAW
- Safle Gwobr y Faner Werdd >20 hectar = £445 + TAW
- Safle Gwobr Dreftadaeth y Faner Werdd = £135 + TAW (yn ychwanegol i’r ffi lawn uchod)
Gall amrywiaeth eang o fannau gwyrdd ymgeisio am Wobr y Faner Werdd, o barciau bach trefol i barciau gwledig anferth, campysau prifysgol, ystadau tai a hyd yn oed mynwentydd.
Os hoffech mwy o wybodaeth mae croeso i chi ofyn am lawlyfr y Faner Werdd.
Map rhyngweithiol yn dangos yr holl safleoedd sydd wedi ennill y wobr.
Green Flag ManualGwobrwyi’r parciau yn flynyddol, felly bydd angen i enillwyr ymgeisio pob blwyddyn er mwyn adnewyddu eu statws fel parc neu fan gwyrdd Y Faner Werdd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw’r 31ain o Ionawr.
Cynhelir y beirniadu yn ystod tymor y gwanwyn, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Bydd beirniaid annibynnol, profiadol sydd wedi eu hyfforddi i feirniadu ceisiadau Gwobr y Faner Werdd yn trefnu i ddod i ymweld â’ch safle ac i fynd drwy eich cais.
Beirniadir eich safle yn ôl wyth maen prawf allweddol:
- Man croesawus
- Iach, diogel a sicr
- Cynnal yn dda ac yn lân
- Rheoli amgylcheddol
- Bioamrywiaeth, tirwedd a threftadaeth
- Ymglymiad cymunedol
- Marchnata a chyfathrebu
- Rheolaeth
Mae’n hawdd gwneud cais. Cofrestrwch eich parc ac uwchlwythwch eich cynllun rheoli drwy’r ddolen gofrestru isod.
Oes! Mae Achrediad Safle Treftadaeth Werdd yn cael ei roi i fannau gwyrdd sy’n cyflawni safonau Gwobr y Faner Werdd ac sydd hefyd yn hyrwyddo elfennau o’u treftadaeth sy’n eu gwneud yn unigryw.
Mae’n rhaid i Safle Treftadaeth Werdd feddu ar Wobr y Faner Werdd (er ei fod yn bosibl gwneud cais am y ddau hyd yn oed yn y flwyddyn gyntaf).
Y gost yw £100 + TAW i wneud cais am Achrediad Treftadaeth y Faner Werdd.
Yn barod i wneud cais?
Mae cymhwyso yn hawdd, cofrestru eich parc a llwytho eich cynllun rheoli.
Cwmhwyso nawr
Gwobr Gymunedol y Faner Werdd
A ydych eich safle wedi ei redeg gan wirfoddolwyr? Cymerwch olwg ar ein Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.
Dysgu mwyCysylltwch







