Am y wobr
Mae beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o weithgareddau glanhau rheolaidd a gwelliannau amlwg. Maen nhw eisiau clywed sut mae’r gymuned wedi cymryd rhan, faint o sbwriel a gwastraff gafodd ei symud, unrhyw gamau ychwanegol a gymerwyd i atal sbwriel rhag ail-gronni, a’r newid cadarnhaol y mae’r gwaith wedi ei gyflwyno i wirfoddolwyr a’r ardal ehangach.
Gallai’r enwebiadau gynnwys:
- Digwyddiadau codi sbwriel rheolaidd mewn cymdogaeth gan grŵp cymunedol.
- Digwyddiadau penodol i lanhau traethau neu afonydd i ddiogelu ein harfordir a’n dyfrffyrdd.
- Digwyddiadau mewn ysgolion neu sefydliadau i lanhau eu hardaloedd lleol.
- Clirio tipio anghyfreithlon.
Gwybodaeth ofynnol
Mae’r categori hwn yn agored i unrhyw sefydliad (e.e. ysgolion, busnesau, grwpiau cymunedol) a / neu unigolion.
Dylai’r enwebiadau gynnwys gweithgareddau ar dir sydd yn hygyrch i’r cyhoedd. Nid yw gwaith gan berchnogion tir i glirio tir preifat yn gymwys.
Ar gyfer y Wobr Cymunedau Glanach, bydd y beirniaid yn chwilio am y wybodaeth ganlynol:
- Pa ardal(oedd) a ddewiswyd i’w glanhau a pham?
- Faint o sbwriel / gwastraff sydd wedi cael ei godi?
- Faint o weithgareddau sydd wedi cael eu cynnal?
- Faint o bobl / sefydliadau sydd wedi bod yn gysylltiedig?
- A oes unrhyw weithgareddau wedi cael eu cynnal i atal sbwriel rhag dychwelyd?
- Pa wahaniaeth y mae’r gwaith glanhau wedi ei wneud?
Dylai eich cais gynnwys tystiolaeth fideo a / neu ffotograffig.
Cyflwyno'ch enwebiad
Llenwch y ffurflen enwebu isod. Noder, nid oes gan y ffurflen hon swyddogaeth ‘arbed’. Byddwch yn gallu mynd yn ôl a diwygio gwybodaeth cyn cyflwyno eich ffurflen, ond dylech osgoi adfywio eich porwr.
Os yw’n haws, gallwn lawrlwytho fersiwn Microsoft Word o’r ffurflen a’i hanfon yn ôl atom drwy e-bost neu’r post. Darperir y manylion ar y ffurflen.
Os na allwch gyfleu yn ysgrifenedig pam yr hoffech enwebu rhywun am wobr, gallwch hefyd anfon nodyn llais neu enwebiad fideo atom. Ni ddylai’r nodyn llais neu’r fideo fod yn fwy na phum munud ac mae’n rhaid cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol.
Gellir anfon nodiadau llais ar WhatsApp i 07469 118914 neu eu hanfon ar ebost i twa@keepwalestidy.cymru. Rydym yn gofyn i chi ddilyn hyn gyda lluniau i ddangos effaith gadarnhaol yr unigolyn, grŵp, ysgol neu fusnes – unwaith eto, gellir anfon y rhain ar WhatsApp neu ar ebost.
Gellir ebostio enwebiadau fideo i twa@keepwalestidy.cymru.
Croesewir enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’n rhaid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 18.00 ddydd Mawrth 30 Mehefin. Ni fydd enwebiadau a dderbynnir ar ôl hyn yn cael eu hystyried.
Gwobrau Cymru Daclus 2026 ffurflen enwebu
Cysylltwch â ni
Angen help gyda’ch enwebiad? Mae croeso i chi gysylltu â’r tîm.







