JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Pecynnau Enfawr

Mae ein Pecynnau Enfawr wedi eu cynllunio ar gyfer sefydliadau cymunedol sydd ag ardal enfawr o ofod gwag wedi ei esgeuluso (tua maint dau gwrt tennis a hanner yn fras) i’w drawsnewid yn ardd gymunedol sy’n fynnu, gyda pherllan, ardal tyfu bwyd a phwll.

Bydd swyddog wedi ei neilltuo gan Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio a chreu eich gardd ‘enfawr’, ond mae’n rhaid i chi ymrwymo i ofalu amdani am flynyddoedd i ddod.

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu gan banel o arbenigwyr a bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i brosiectau â chyfranogiad cryf yn y gymuned, y rhai sydd mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau heb lawer o le na mynediad at natur.

Gwenynen yn eistedd ar flodyn porffor mewn dôl.
Person yn dal can dyfrio, yn gwisgo cot hir ddu, yn dyfrio planhigion.

Bydd y pecyn yn cynnwys

  • Chwe gwely uchel
  • Planhigion Pwll bywyd gwyllt gyda phlanhigion dyfrol cynhenid
  • Gwely perlysiau
  • Planhigion perlysiau
  • Hadau llysiau
  • 15 o goed ffrwythau
  • 210 o goed ifanc
  • Bylbiau
  • Planhigion blodau gwyllt cynhenid
  • Tyweirch blodau gwyllt
  • Mainc bicnic
  • Twnnel polythen
  • Llyfrau ac adnoddau
  • Llwyni ffrwythau
  • Planhigion mefus
  • Blychau cynefin
  • Sied
  • Compostiwr
  • Offer
  • Mainc safonol
  • Casgen/cynhwysydd dŵr

Gallai cynnwys pecynnau newid

Llun agos o wely uchel gyda dail yn ymddangos ar ei ben.

Gwybodaeth bwysig

Mae isafswm yr ardal sydd ei hangen ar gyfer Pecyn Enfawr yn agos at 700 metr sgwâr.

Ddim yn siŵr a yw eich safle’n ddigon mawr? Gall y Canfyddwr Cyfeirnod Grid fod yn offeryn defnyddiol. Mae’n eich galluogi i ddod o hyd i’ch lleoliad a thynnu llun polygon, gan roi’r ardal mewn metrau sgwâr i chi. Cliciwch yma i fynd i’r Canfyddwr Cyfeirnod Grid (safle allanol)

Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion a gyflenwir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr iawn, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd eu hangen arnoch cyn i chi ddechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o roi hwb i’ch cyfle o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar Becyn Enfawr.

Cwestiynau Cyffredinol Pecyn Enfawr Gwnewch gais nawr
Angen cymorth gyda’ch cais?

Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.

Cysylltwch â'r tîm
Dim lle ar gyfer Pecyn Enfawr?

Mae ein Pecynnau Gardd yn dal yn brosiectau mawr, ond dim ond yn 215-240 metr sgwâr (ychydig yn llai na maint un cwrt tennis).

Darganfod mwy

Gerddi ar waith

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13