JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Cwestiynau Cyffredinol Pecynnau Enfawr

Bydd pob pecyn wedi’i baratoi ymlaen llaw felly byddwch yn derbyn POB UN o’r eitemau a restrir isod.

Bydd eich swyddog prosiect lleol Cadwch Gymru’n Daclus yn cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen gyflawni gyda chi, ond bydd angen i chi fod ar gael i dderbyn cyflenwadau o’r holl eitemau isod fel y cytunwyd.

Darllenwch ymlaen am ein gofynion hanfodol eraill.

Cysylltu â'r tîm Gwnewch gais nawr
Mae person yn gwthio berfa sy'n llawn planhigion gwyrdd i lawr llwybr gardd.

Cwestiynau Cyffredinol

Darllenwch y canlynol cyn cyflwyno'ch cais.

Gallai cynnwys pecynnau newid.

  • 60 metr sgwâr o laswellt blodau gwyllt a gorffenwr danfon gan gludwr paled.
  • 15x coed ffrwythau, clymau, powdr Rootgrow, matiau tomwellt wedi’u danfon mewn bag mawr gan gludwr.
  • Planhigion dringo mewn potiau wedi’u danfon mewn blychau mawr gan gludwr.
  • Llwyni ffrwythau mewn potiau wedi’u danfon mewn blychau mawr gan gludwr.
  • Plygiau blodau gwyllt brodorol wedi’u danfon mewn blychau mawr gan gludwr.
  • Bylbiau brodorol wedi’u danfon mewn blychau mawr gan gludwr.
  • Planhigion llysiau tymhorol wedi’u danfon mewn blychau gan gludwr.
  • 3 bin compost plastig wedi’u hailgylchu wedi’u danfon mewn blychau mawr gan gludwr.
  • Llawlyfrau wedi’u danfon drwy’r post.
  • Casgliad o hadau llysiau wedi’u danfon drwy’r post.
  • Blychau cynefin wedi’u danfon mewn blwch mawr gan gludwr.
  • Twnnel polythen 8 troedfedd x 8 troedfedd wedi’i ddanfon gan gludwr paled.
  • Sied fetel Flexistore 5m x 2.1m gyda chloi tair pwynt wedi’i ddanfon gan gludwr paled.
  • Mainc a bwrdd picnic wedi’u danfon gan gludwr paled.
  • Compost di-fawn – wedi’i ddanfon gan fasnachwr adeiladwyr lleol ar lori.
  • Pilen chwyn wedi’i danfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • Berfa, rhaca, rhawiau, rhaw, siswrn tocio, tryweli, llif docio, peiriant torri bylbiau, can dyfrio wedi’i ddanfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • 15 pâr o fenig garddio wedi’u danfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • Trellis a pholion wedi’u danfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • Cynhwysydd dŵr wedi’i ddanfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • Bag swmp o agregau wedi’i ddanfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • Leinin pwll wedi’i ddanfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • 56x o drawstiau pren wedi’u danfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • 14x bag swmp o bridd uchaf wedi’i ddanfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.
  • Sach o risgl addurnol wedi’i ddanfon gan fasnachwr adeiladu lleol ar lori.

Cyn ymgeisio, darllenwch y gofynion hanfodol canlynol i ymgeiswyr:

  • Rhaid i ymgeiswyr weithio gyda staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth gynllunio’r gwaith o osod pecynnau.
  • Rhaid i becynnau sicrhau twf amgylcheddol y gellir ei weld ‘ar garreg eich drws’. Mae hyn yn golygu y dylid eu lleoli lle mae pobl yn byw, yn gweithio, yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yn teithio (gall hyn gynnwys lleiniau ymyl ffordd, cylchfannau) ac yn treulio eu hamser hamdden (e.e. mannau agored cyhoeddus).
  • Mae’n rhaid cyflwyno pecynnau a ddyfernir rhwng 1 Ebrill 2026 a diwedd Chwefror 2027.
  • Oherwydd y gwaith sydd yn gysylltiedig â gosod Pecyn Enfawr, bydd angen gallu ei osod trwy gydol y flwyddyn; ni wneir unrhyw eithriad ar gyfer gwyliau ysgol.
  • Rhaid i ymgeiswyr gytuno i gynnal y safle am bum mlynedd o leiaf a chael cynllun yn ei le ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol (mae’n bosib y bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn gallu eich helpu i lunio hwn).
  • Gofynnir i ymgeiswyr roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddatganiadau i’r wasg, gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir.
  • Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw bod ar y safle i dderbyn nwyddau gan gyflenwyr.
  • Rhaid i gerbydau allu cael mynediad i safleoedd oherwydd mae llawer o’r eitemau yn fawr ac yn drwm iawn, a bydd angen lorïau ABS uchel i ddadlwytho deunyddiau.
  • Mae’n rhaid i grwpiau sicrhau bod ganddynt gyfleuster storio diogel ar gyfer eitemau sy’n cael eu cyflenwi wrth i’r gwaith gosod gael ei wneud.

Pwy all ymgeisio am becynnau?

Mae ein Pecynnau Enfawr wedi’u cynllunio ar gyfer sefydliadau sy’n awyddus i greu prosiectau ar raddfa fwy ar dir â ‘pherchnogaeth nid-er-elw’.

Mae’r broses o wneud cais yn agored i grwpiau cymunedol o bob math a maint, a sefydliadau eraill gan gynnwys y GIG, llywodraeth Leol a Chenedlaethol (gan gynnwys cynghorau Tref a Chymuned), ysgolion a meithrinfeydd cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, sefydliadau crefyddol, mentrau cymdeithasol, prifysgolion, cymdeithasau tai a’r Sector Cyhoeddus ehangach yng Nghymru, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru.

Rhoddir blaenoriaeth i’r prosiectau hynny sy’n cyflawni holl ofynion y broses o wneud cais ac sydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau trefol/lled-drefol neu drefi gwledig, sy’n cynnwys aelodau difreintiedig y gymuned, sydd â chyfranogiad cymunedol neu wirfoddol cadarn, sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd â’r lefel uchaf o amddifadedd (a nodwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) gydag ychydig neu ddim mynediad at natur.

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n cynnwys cyfranogwyr Du, Asiaidd, Ethnig Lleiafrifol a/neu anabl. Gellir rhoi blaenoriaeth hefyd i safleoedd y mae’r panel yn nodi eu bod a) yn darparu cysylltedd addas â gardd Lleoedd Lleol ar gyfer Natur arall, gwarchodfa natur leol neu safle arall sy’n cael ei warchod (e.e. SSSI, SPA ac ati) o fewn 500m, neu b) yn fwy na 200m o unrhyw fan gwyrdd neu gwrs dŵr.

A all ysgolion ymgeisio?

Gall unrhyw ysgol wneud cais am becyn gardd os byddant yn cynnwys y gymuned ehangach neu grwpiau cymunedol eraill.

Bydd angen i ysgolion ddangos hefyd eu bod yn gallu rheoli’r safle drwy’r flwyddyn, yn cynnwys gwyliau’r ysgol. Bydd angen i ysgolion ddangos hefyd eu bod yn gallu rheoli’r safle drwy’r flwyddyn, yn cynnwys gwyliau’r ysgol.

Pwy sydd ddim yn cael ymgeisio?

  • Unigolion / gerddi preifat
  • Sefydliadau’r sector preifat

Noder, os ydych eisoes yn derbyn cyllid ar gyfer eich gweithgarwch neu safle gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol neu eich Partneriaeth Natur Leol, mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau a allai effeithio ar eich cais. Cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus yn y gorffennol; allwn ni wneud cais eto?

Os ydych eisoes wedi gosod Pecyn Bach neu Ddechreuol yn llwyddiannus a nawr yn dymuno ehangu i Becyn Gardd, gallwch wneud hynny.

Os ydych eisoes wedi derbyn Pecyn Gardd neu Becyn Datblygu, yn bodloni’r holl feini prawf allweddol eleni ac eisiau gwneud cais am becyn arall, efallai y gallwch wneud cais, ond rydym yn awgrymu eich bod yn gwneud cais am safle gwahanol neu ar gyfer grŵp gwirfoddoli gwahanol.

Pwy ydych yn ystyried yn grŵp difreintiedig/grŵp wedi ymddieithrio?

Rydym yn croesawu ac yn cefnogi ceisiadau gan grwpiau difreintiedig/wedi’u tangynrychioli a’r rhai â gallu cyfyngedig i gymryd rhan mewn prosiectau fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Bydd ceisiadau yn derbyn sgôr uchel os ydynt yn cynnwys cyfranogwyr o’r grwpiau canlynol:

  • Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol
  • Anabl
  • Digartref
  • Pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Sipsiwn / teithwyr
  • Pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl / yn dioddef anhwylder personoliaeth
  • Plant / plant mewn gofal / pobl ifanc
  • Gofalwyr
  • Pobl hŷn
  • Rhieni yn eu harddegau / rhieni sengl
  • Dioddefwyr cam-drin domestig
  • Troseddwyr
  • Pobl o gymunedau rhywiol lleiafrifol
  • Dan anfantais economaidd-gymdeithasol
  • Y rheiny na all ddarllen, ysgrifennu na siarad Cymraeg neu Saesneg
  • Grwpiau ffydd nad ydynt yn Gristnogion
  • Pobl â nodweddion gwarchodedig

Nid ydym yn grŵp difreintiedig, oes modd i ni ymgeisio o hyd?

Oes. Mae tri maen prawf hanfodol arall y mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn eu bodloni (gweler uchod). Fodd bynnag, rydym yn annog pob ymgeisydd i amlinellu sut maent wedi ymgynghori ag aelodau difreintiedig / heb gynrychiolaeth ddigonol o’u cymuned leol a sut y byddant yn ymwneud â’r prosiect wrth symud ymlaen, gan ein bod eisiau i’r prosiectau fod mor gynhwysol â phosib. Bydd cynnwys grwpiau difreintiedig yn cryfhau eich cais, gan roi cyfle uwch o lwyddiant i chi.

A oes angen i ni fod yn grŵp cyfansoddiadol i ymgeisio am Becyn Enfawr?

Oes. Gall swyddogion Cadwch Gymru’n Daclus eich cefnogi i ddod yn grŵp cyfansoddiadol. Mae gennym gyfansoddiadau templed ar gael, a gall ein tîm o swyddogion cymunedol eich helpu drwy’r broses syml. Ewch i’n tudalen tîm am fanylion ynglŷn â’ch swyddog prosiect lleol neu gofynnwch i’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am gyngor.

Bydd angen i fentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol ddarparu copi o’u cyfansoddiad a bydd angen i elusennau ddarparu ein rhif elusen i ni.

Ar gyfer sefydliadau eraill sy’n cynnwys ysgolion, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, byrddau iechyd ac yn y blaen, bydd angen cydsyniad gan y cyfarwyddwr, pennaeth, clerc neu’r unigolyn ag awdurdod eu bod yn fodlon i’r cais gael ei gyflwyno.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Dylech gyflwyno’r ffurflen gwneud cais berthnasol drwy wefan Cadwch Gymru’n Daclus.  Nid yw’n ofyniad i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i wneud cais, ond dylech nodi, ar ôl i chi ddechrau eich cais, na allwch arbed eich gwybodaeth a dychwelyd ati’n ddiweddarach.

Nid oes unrhyw ddyddiadau cau penodol, ond bydd pecynnau’n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, nes y bydd pob pecyn wedi’u dyrannu.  Dylech ateb pob cwestiwn o fewn yr uchafswm geiriau a argymhellir.

Sut mae ceisiadau yn cael eu hasesu a’u dewis?

Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel grantiau a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus, Llywodraeth Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac arbenigwyr natur lleol.

Bydd y ceisiadau’n cael eu barnu yn erbyn meini prawf y rhaglen, a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n cyflawni o leiaf tri o feini prawf allweddol canlynol y cynllun:

  • Lleoedd heb lawer o fynediad at natur, os o gwbl – Rhoddir blaenoriaeth i safleoedd heb unrhyw fannau gwyrdd o gwbl a’r rhai ar arwynebeddau artiffisial (e.e. tarmac, concrid).
  • Trefol / lled-drefol a threfi gwledig
  • Lleoedd â’r lefelau uchaf o amddifadedd – rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr yn y 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, yn ôl ardaloedd cynnyrch ehangach.
  • Ceisiadau sy’n cynnwys grwpiau difreintiedig, wedi ymddieithrio neu wedi’u tangynrychioli, cyfranogwyr Du, Asiaidd, Ethnig Lleiafrifol (nam corfforol a dysgu, gan gynnwys nam gweledol, nam ar y clyw a nam ar y lleferydd).
  • Dylai ymgeiswyr arddangos cyfranogiad cymunedol eang gydag o leiaf deg gwirfoddolwr rheolaidd ac ystod o sefydliadau sy’n gallu cael mynediad at natur ar ôl creu’r ardd.

Wrth ystyried y ceisiadau, bydd y panel yn dyfarnu pecynnau ar draws ystod eang o leoliadau/ partneriaid/ sefydliadau er mwyn gallu treialu a monitro gwahanol ddulliau gweithredu.

Bydd y panel yn penderfynu a yw cais yn:

  • Llwyddiannus
  • Aflwyddiannus
  • Ar y rhestr ‘wrth gefn’

Os bydd pob un o’r blaenoriaethau uchod yn derbyn sgôr gyfartal, yna dyfernir y pecyn i’r ymgeisydd yn yr ardal â’r lefel gyffredinol uchaf o amddifadedd yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a lle gallaf ddysgu mwy?

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.  Cafodd ei gynllunio i nodi’r ardaloedd bychan hynny sydd â’r crynodiad uchaf o wahanol fathau o amddifadedd.  Mae MALlC yn cynnwys wyth math gwahanol o amddifadedd ar hyn o bryd.

Cliciwch yma i weld map rhyngweithiol MALlC o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau yn y 50% ardal fwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegau amddifadedd (e.e. corfforol, addysg, incwm).

Pryd byddwn yn clywed a ydym wedi bod yn llwyddiannus?

Hysbysir pob ymgeisydd drwy e-bost o fewn pum niwrnod gwaith i’n cyfarfod panel a gynhelir bob pythefnos.

Beth yw what3words a pham mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio?

Gwefan ac ap yw what3words sydd wedi rhannu’r byd yn sgwariau tri metr a rhoi cyfuniad unigryw o dri gair i bob sgwâr. Dyma’r ffordd hawsaf o ddod o hyd i leoliadau penodol a’u rhannu. Mae mwy a mwy o gwmnïau danfon yn mynnu defnyddio what3words wrth gynllunio danfoniadau. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod eitemau yn cael eu danfon i’r union leoliad.

Ewch i www.what3words.com i nodi union leoliad eich gardd a’r lleoliad danfon.

Beth yw’r gost?

Dim byd

A fydd angen yswiriant arnom ni?

Bydd. Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y safle. Siaradwch â’r tirfeddiannwr i weld pa lefel yswiriant sydd ei hangen. Efallai fod yswiriant ar waith yn barod.

Os yw swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn bresennol yn ystod gweithgaredd, yna bydd cyfranogwyr wedi’u hyswirio ar gyfer damweiniau personol. Fodd bynnag, nid fydd yr yswiriant hwn ar waith os nad yw’r swyddog yn bresennol, felly bydd angen i chi gael yswiriant digonol ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.

Os ydych yn cael anhawster i dalu cost yr yswiriant, cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru

Rydym yn aros am ganiatâd y tirfeddiannwr, oes modd i ni ymgeisio?

Na, bydd angen tystiolaeth ysgrifenedig arnoch o ganiatâd perchennog y tir am bum mlynedd o’r cam gosod cyn i chi gyflwyno eich cais. Ni chyflwynir eich cais i’r panel nes y bydd yn gyflawn, gan gynnwys tystiolaeth, ffotograffau, mapiau ac yn y blaen.

Rydym wedi bod yn gweithio ar ein safle ers blynyddoedd o dan gytundeb geiriol gan y tirfeddiannwr. A yw hyn yn ddigonol?

Na, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd perchennog y tir.

Nid yw ein safle yn agor i’r cyhoedd am resymau diogelwch (e.e. gweithio gydag oedolion agored i niwed / plant ysgol) – a ydym yn dal i allu gwneud cais?

Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau penodol ac a ydych yn cyflawni meini prawf eraill y cynllun. Cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru i ofyn am gyngor.

Unigolyn preifat sy’n berchen ar y tir, ond mae gennym brydles 10 mlynedd, allwn ni wneud cais?

O bosibl, gallwch. Anfonwch gopi o’ch prydles drwy e-bost i nature@keepwalestidy.cymruer mwyn iddynt wirio i weld a ydych yn gymwys.

A oes ‘ffurflen’ caniatâd perchennog tir i’w chwblhau?

Nid oes ffurflen swyddogol i’w chwblhau, y cyfan sydd ei angen arnom yw tystiolaeth gan berchennog y tir sy’n dangos caniatâd i osod y safle a’i gynnal a’i gadw am bum mlynedd. Gallai hyn fod yn gytundeb ffurfiol rydych wedi’i lofnodi, trwydded neu e-bost gan berchennog y tir sy’n rhoi caniatâd i waith ddechrau ar y safle arfaethedig. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â’r tîm Natur am gyngor.

Nid wyf yn sicr o werth cynefin/natur y safle ac nid wyf yn gwybod pwy yw fy ecolegydd neu arbenigwr bywyd gwyllt lleol. Allwch chi helpu?

Mae rhestr o holl arweinwyr y partneriaethau natur lleol (staff awdurdod lleol) ar gael yma a fydd yn gallu eich helpu. Cysylltwch â’r arweinydd ar gyfer eich awdurdod chi (neu arbenigwr cymwys arall) a gofyn iddynt ddarparu cyngor ar eich safle ac a yw’n addas ar gyfer y pecyn rydych wedi’i ddewis.  Mae’n rhaid i ni sicrhau na fydd y pecyn yn gwneud unrhyw niwed drwy ddifrodi/disodli cynefin presennol, felly mae’n hollbwysig eich bod yn ceisio cyngor a darparu cadarnhad o’ch cais.

Sut ydym ni’n gwybod bod y rhywogaethau planhigion a ddarparwyd yn addas ar gyfer ein hardal?

Mae’r cymysgedd o rywogaethau a ddewisir yn rhai cyffredinol, brodorol i’r DU ac maent yn addas ar gyfer ystod eang o gynefinoedd.  Bydd cynrychiolwyr y bartneriaeth Natur Leol a’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn mynychu pob cyfarfod o’r panel grantiau i asesu’r ceisiadau.  Bydd angen i bob ymgeisydd siarad ag ecolegydd eu Hawdurdod Lleol neu arbenigwr lleol arall er mwyn sicrhau bod y pecyn yn addas cyn gwneud cais.

Faint o le sydd ei angen arnom i osod holl eitemau’r pecyn?

Isafswm y safle sydd ei angen ar gyfer Pecyn Enfawr yw bron 700 metr sgwâr.  

Er hynny, os yw eich safle ychydig yn llai, mae opsiwn i beidio cynnwys y sied, tŷ gwydr neu’r pwll.  Cysylltwch â ni i drafod hyn os ydych yn poeni na fydd y pecyn yn ffitio ar y safle.

A oes unrhyw leoliadau nad ydynt yn addas ar gyfer pecyn?

Mae’r pecynnau wedi eu dylunio yn bennaf ar gyfer mannau lle nad oes llawer o fynediad, os o gwbl, at natur. Felly, ni fydd rhai lleoliadau yn addas ee Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, ardaloedd cyfoethog eu rhywogaethau neu leoliadau sydd yn cynnwys rhywogaethau a warchodir. Gall fod ffyrdd eraill y gall partneriaid eraill gefnogi eich prosiect, felly cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru am gyngor.

Nid oes gennym gynllun cynnal a chadw nac unrhyw offer i gynnal y safle yn y dyfodol, oes modd i ni gael pecyn?

Mae cynnal a chadw’r safle yn barhaus yn un o’r meini prawf asesu hanfodol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid yn eich helpu i baratoi cynllun cynnal a chadw a ynglŷn â sut mae gofalu am y safle yn yr hirdymor.  Yn anffodus, os nad ydych yn cytuno i gynnal a chadw’r safle am bum mlynedd bydd eich cais yn aflwyddiannus.

Faint o wirfoddolwyr sydd eu hangen arnom i adeiladu a rheoli’r lleoedd natur?

Er y bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i osod eich gardd, fel yr ymgeisydd mae’n rhaid i chi ddarparu digon o wirfoddolwyr i sicrhau bod yr ardd yn cael ei gosod yn ddiogel. Rydym yn argymell deg gwirfoddolwr craidd o leiaf i adeiladu’r safle er po fwyaf o bobl leol sydd ynghlwm, y gorau. Bydd gwirfoddolwyr ychwanegol yn lledaenu’r llwyth gwaith a gallant ddarparu cefnogaeth foesol drwy ymgymryd â rolau megis lluniaeth, hyrwyddo’r safle drwy’r cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth.  Rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i 150 awr yn ystod y flwyddyn gyntaf i osod a rheoli’r ardd.

Os na allwch ddarparu cymorth gwirfoddolwyr, mae’n annhebygol iawn y bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo.  Bydd angen i chi ddarparu llythyrau o gefnogaeth gan unrhyw sefydliadau a fydd yn cymryd rhan. Mae angen i’r panel deimlo’n hyderus bod gennych graidd o wirfoddolwyr a fydd yn adeiladu’r ardd a diddordeb cymunedol ymroddedig i reoli’r safle yn y tymor hir.

Oes angen i chi fod yn heini? Pa mor gorfforol fydd y gwaith?

Bydd tasgau sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu. Bydd rhai gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau corfforol megis codi, plygu a phalu ond bydd llawer o dasgau mwy ysgafn hefyd megis plannu, chwynnu a dyfrio. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i weithgareddau addas i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.

Oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad arnom?

Nac oes, bydd swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i egluro gweithgareddau’r prosiect yn fanwl a darparu hyfforddiant a chefnogaeth anffurfiol. Byddant yn cynnal asesiad risg ac yn mynd drwy sesiwn friffio iechyd a diogelwch gyda’r holl gyfranogwyr. Bydd dogfennau canllaw a chyfarwyddiadau syml yn cael eu darparu i wirfoddolwyr eu dilyn.

Beth sydd angen i wirfoddolwyr ddod gyda nhw?

Byddwch yn gweithio ar safle’r tu allan, efallai heb ddim lloches ac rydych yn debygol o faeddu. Rydym yn gofyn i wirfoddolwyr wisgo dillad addas ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir ac esgidiau trwm. Gofynnir i wirfoddolwyr ddod â’u menig garddio neu weithio eu hunain. Bydd rhai offer yn cael eu darparu, ond yn dibynnu ar y niferoedd disgwyliedig a math o becyn, gall fod yn syniad da i wirfoddolwyr / grwpiau ddod â rhawiau, tryweli ychwanegol etc.

A all plant gymryd rhan?

Gallant, ond mae angen i oedolion oruchwylio plant o dan 16 oed.

A all y pecynnau gael eu rhannu dros fwy nag un safle?

Mae’r holl becynnau wedi cael eu dylunio i fynd ar un safle, felly dyna’r opsiwn dewisol a’r un fydd yn cael yr effaith orau.

Ar gyfer y pecynnau mwyaf, os nad oes gennych safle lle gall hynny weithio, gallai’r panel ystyried rhaniad, ond rydym yn awgrymu eich bod yn anfon e-bost eglurhaol gyda’ch cais yn esbonio’r rhesymeg/rheswm dros y cais a map clir o’r safle yn nodi’r ardaloedd a’r pellteroedd gwahanol.

Ym mha ffordd fydd staff Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’n cefnogi i osod y pecynnau?

Bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu eich gardd newydd. Byddant yn cytuno ar amserlen waith gyda chi yn ystod yr ymweliad cychwynnol i’r safle.  Po gynted y byddwch yn archebu eich diwrnodau gweithgaredd gyda’ch swyddog lleol, y mwyaf tebygol y byddwch o gael y dyddiadau sydd orau gennych, yn enwedig os ydych am i waith gael ei wneud ar y penwythnos. Byddwn yn darparu cyngor ac arweiniad hefyd ar gyfer cynnal a chadw’r safle yn y dyfodol.

Oes modd i ni newid cynnwys ein pecyn dewisol?

Na. Mae’r pecynnau wedi eu pennu o flaen llaw. Os oes angen eitemau gwahanol arnoch i ddatblygu eich gofod natur lleol, cysylltwch â’ch Partneriaeth Natur Lleol www.lnp.cymru/Hafan.

Oes modd i ni gadw’r offer ar ôl adeiladu’r prosiect?

Oes.

Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cael pecyn, ond yn methu ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2027?

Rhaid cwblhau’r holl waith erbyn yr amser hwnnw. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad oes modd i chi gadw at yr amserlen hon mwyach, RHAID i chi roi gwybod i Cadwch Gymru’n Daclus cyn gynted â phosib er mwyn iddo allu dyrannu’r pecyn i rywun arall.

Os byddwn yn cael prosiect, a fydd Cadwch Gymru’n Daclus yn atgyweirio neu’n adnewyddu eitemau yn y pecyn sydd yn cael eu treulio, eu torri, eu niweidio neu eu dwyn ar ôl hynny?

Na, bydd y cyllid ond yn cynnwys yr eitemau a’r gwaith o’u gosod unwaith. Cydweithiwch gyda’n tîm i ystyried lleoliad eitemau wrth blannu eich gardd e.e. cysgodi gwrthrychau fel siediau / tai gwydr / delltweithiau rhag gwyntoedd cryf os yn bosibl.

Sut bydd fy mhecyn yn cael ei ddosbarthu?

Bydd yn gyfuniad o eitemau mewn bocsys wedi’u cyflenwi gan gludwr a phaledi mwy ar lorïau.

Mae’r lluniau isod wedi eu dylunio i roi syniad o faint rhai o’r eitemau fydd yn cael eu dosbarthu.

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13