JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Gardd Fwyd

Gallwch gynnwys y gymuned gyfan yn y gwaith o dyfu a chynaeafu ffrwythau a llysiau.

Rydym yn awyddus i gefnogi cymunedau sy’n dymuno creu neu adfer mannau tyfu bwyd. Ein nod yw sefydlu prosiectau cynaliadwy a fydd yn elwa byd natur dros y tymor hir, ac yn galluogi pobl i gymryd perchnogaeth o dyfu a dosbarthu eu cynnyrch eu hunain.

Nôl i Becynnau Gardd
Dwylo person yn dal tomatos aeddfed o goeden mewn twnnel polythen.
Gwely gardd gyda phlanhigion ifanc, wedi'u labelu â marcwyr planhigion pren.

Bydd y pecyn yn cynnwys

  • 20 metr sgwâr o dywyrch blodau gwyllt
  • Coed ffrwythau cynhenid
  • Gwelyau uchel wedi’u gwneud o drawstiau pren
  • Hadau llysiau
  • Llwyni blodeuol a ffrwythau
  • Planhigion dringo
  • Planhigion perlysiau
  • Planhigion plwg blodau gwyllt
  • Bylbiau cynhenid
  • Bocsys cynefin
  • Compost ac uwchbridd di-fawn
  • Pilen chwyn
  • Mainc wedi ei gwneud o blastig wedi ei ailgylchu
  • Twnnel polythen
  • Delltwaith a physt delltwaith
  • Storfa offer metel
  • Berfa
  • Llawlyfrau / llyfrau gwybodaeth
  • Offer llaw

Gallai cynnwys pecynnau newid

Mae chwech o bobl yn edrych dros flwch planhigion pren o flaen ffens las.

Gwybodaeth bwysig

Gwyddom efallai na fydd gennych unrhyw brofiad blaenorol o dyfu bwyd, felly byddwn yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu ardaloedd tyfu, a’ch cynorthwyo i blannu, gofalu ar ôl a chynaeafu eich cnydau newydd.

Isafswm yr ardal sydd yn angenrheidiol ar gyfer y pecyn hwn yw 215 metr sgwâr. Mae pob eitem yn cael ei darparu fel pecyn – nid yw’n bosibl mynd ag eitemau oddi yno.

Bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion a gyflenwir yn dibynnu ar y tymor ac argaeledd.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen gan wirfoddolwyr. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd angen i chi eu rhoi cyn dechrau eich cais. Dyma’r ffordd orau o roi hwb i’ch cyfle i fod yn llwyddiannus a chael gafael ar Becyn Gardd Fwyd.

Cwestiynau Cyffredinol Pecyn Gardd Gwnewch gais nawr
Angen cymorth gyda’ch cais?

Mae gennym dri cydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cynorthwyo chi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch ebost atynt.

Cysylltwch â'r tîm
Chwilio am brosiect llai?

Mae angen llawer llai o le ar ein Pecynnau Gardd Fach a gall unrhyw grŵp cymunedol neu wirfoddol wneud cais.

Darganfod mwy
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13