Cwestiynau Cyffredinol
Darllenwch y canlynol cyn cyflwyno'ch cais
Gallai cynnwys pecynnau newid.
- 15x coeden gan gynnwys stanciau, gwarchodwyr ac ati wedi’u danfon gan gludwr.
- 320x bylbiau brodorol wedi’u danfon drwy’r post.
- Blwch cynefin wedi’i ddanfon mewn blwch mawr gan gludwr.
- 2x mainc plastig wedi’u danfon ar baled.
- Detholiad o offer a menig i ddiwallu anghenion yr ysgol wedi’u danfon mewn blwch mawr gan gludwr.
- Casgen ddŵr wedi’i danfon gan gludwr.
- Llyfr canllaw wedi’i ddanfon drwy’r post.
Cyn ymgeisio, darllenwch y gofynion hanfodol canlynol i ymgeiswyr:
- Rhaid i ymgeiswyr weithio gyda staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth gynllunio’r gwaith o osod pecynnau.
- Rhaid i becynnau sicrhau twf amgylcheddol y gellir ei weld ‘ar garreg eich drws’. Mae hyn yn golygu y dylid eu lleoli lle mae pobl yn byw, yn gweithio, yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yn teithio (gall hyn gynnwys lleiniau ymyl ffordd, cylchfannau) ac yn treulio eu hamser hamdden (e.e. mannau agored cyhoeddus).
- Mae’n rhaid cyflwyno pecynnau a ddyfernir rhwng 1 Hydref 2026 a diwedd Chwefror 2027 (oherwydd y tymor plannu coed)
- Rhaid i ymgeiswyr gytuno i gynnal y safle am bum mlynedd o leiaf a chael cynllun yn ei le ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol (mae’n bosib y bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn gallu eich helpu i lunio hwn).
- Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ffotograffig a data monitro i Cadwch Gymru’n Daclus, fel nifer y cyfranogwyr, dyfyniadau gan fuddiolwyr a llofnodi cofrestr asedau i nodi eu bod wedi derbyn holl eitemau’r pecyn.
- Gofynnir i ymgeiswyr roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddatganiadau i’r wasg, gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir.
- Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw bod ar y safle i dderbyn nwyddau gan gyflenwyr.
Pwy all ymgeisio am becynnau?
Mae ein Pecynnau Perllan Ysgol wedi’u cynllunio ar gyfer ysgolion sydd am greu perllannau cymunedol bach ar dir sydd â ‘pherchnogaeth ddielw’. Mae ceisiadau ar agor i bob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod lleol.
Rhoddir blaenoriaeth i’r prosiectau hynny sy’n cyflawni holl ofynion y broses o wneud cais ac sydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau trefol/lled-drefol neu drefi gwledig, sy’n cynnwys aelodau difreintiedig y gymuned, sydd â chyfranogiad cymunedol neu wirfoddol cadarn, sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd â’r lefel uchaf o amddifadedd (a nodwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru), a mynediad isel iawn, os o gwbl, i fyd natur.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sydd yn cynnwys cyfranogwyr Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig a / neu anabl.
Pwy sydd ddim yn cael ymgeisio?
Meithrinfeydd, colegau a phrifysgolion.
Noder, os ydych eisoes yn derbyn cyllid ar gyfer eich gweithgarwch neu safle gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol neu eich Partneriaeth Natur Leol, mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau a allai effeithio ar eich cais. Cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus yn y gorffennol, allwn ni wneud cais eto?
Os ydych chi wedi derbyn pecyn, eich bod yn bodloni’r holl feini prawf eleni a’ch bod eisiau gwneud cais am becyn arall, yna mae’n bosibl y gallwch wneud cais. Byddem yn awgrymu eich bod yn gwneud cais ar gyfer safle gwahanol. Nodwch, y bydd yn debygol y rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr nad ydynt wedi gwneud cais o’r blaen.
Pwy ydych yn ystyried yn grŵp difreintiedig / grŵp wedi ymddieithrio?
Rydym yn croesawu ac yn cefnogi ceisiadau gan grwpiau difreintiedig/wedi’u tangynrychioli a’r rhai â gallu cyfyngedig i gymryd rhan mewn prosiectau fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Bydd ceisiadau yn derbyn sgôr uchel os ydynt yn cynnwys cyfranogwyr o’r grwpiau canlynol:
- Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol
- Anabl
- Digartref
- Pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau
- Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
- Sipsiwn / teithwyr
- Pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl / yn dioddef anhwylder personoliaeth
- Plant / plant mewn gofal / pobl ifanc
- Gofalwyr
- Pobl hŷn
- Rhieni yn eu harddegau / rhieni sengl
- Dioddefwyr cam-drin domestig
- Troseddwyr
- Pobl o gymunedau rhywiol lleiafrifol
- Dan anfantais economaidd-gymdeithasol
- Y rheiny na all ddarllen, ysgrifennu na siarad Cymraeg neu Saesneg
- Grwpiau ffydd nad ydynt yn Gristnogion
- Pobl â nodweddion gwarchodedig
Nid ydym yn ymwneud â grwpiau o dan anfantais, allwn ni wneud cais o hyd?
Gallwch. Mae gan y cynllun feini prawf eraill y bydd angen i ymgeiswyr arddangos eu bod yn eu cyflawni (gweler uchod). Wedi dweud hynny, rydym yn annog pob ymgeisydd i esbonio sut maen nhw wedi ymgynghori ag aelodau o’u cymuned leol sy’n ddifreintiedig/wedi’u tangynrychioli, a sut y byddan nhw’n cymryd rhan yn y prosiect, oherwydd rydym yn awyddus i’r prosiectau fod mor gynhwysol â phosibl. Bydd cynnwys grwpiau difreintiedig yn atgyfnerthu eich cais, gan roi siawns uwch o lwyddiant i chi.
Sut ydw i’n ymgeisio?
Dylech gyflwyno’r ffurflen gwneud cais berthnasol drwy wefan Cadwch Gymru’n Daclus. Nid yw’n ofyniad i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i wneud cais, ond dylech nodi, ar ôl i chi ddechrau eich cais, na allwch arbed eich gwybodaeth a dychwelyd ati’n ddiweddarach.
Dylech ateb pob cwestiwn o fewn yr uchafswm geiriau a argymhellir.
Sut mae ceisiadau yn cael eu hasesu a’u dewis?
Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel grantiau a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus, Llywodraeth Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac arbenigwyr natur lleol.
Bydd y ceisiadau’n cael eu barnu yn erbyn meini prawf y rhaglen, a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n cyflawni o leiaf tri o feini prawf allweddol canlynol y cynllun:
- Lleoedd heb lawer o fynediad at natur, os o gwbl – Rhoddir blaenoriaeth i safleoedd heb unrhyw fannau gwyrdd o gwbl a’r rhai ar arwynebeddau artiffisial (e.e. tarmac, concrid).
- Trefol / lled-drefol a threfi gwledig
- Lleoedd â’r lefelau uchaf o amddifadedd – rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr yn y 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, yn ôl ardaloedd cynnyrch ehangach.
- Ceisiadau sy’n cynnwys grwpiau difreintiedig, wedi ymddieithrio neu wedi’u tangynrychioli, cyfranogwyr Du, Asiaidd, Ethnig Lleiafrifol (nam corfforol a dysgu, gan gynnwys nam gweledol, nam ar y clyw a nam ar y lleferydd).
- Dylai ymgeiswyr arddangos cyfranogiad cymunedol eang gydag o leiaf deg gwirfoddolwr rheolaidd ac ystod o sefydliadau sy’n gallu cael mynediad at natur ar ôl creu’r ardd.
Wrth ystyried y ceisiadau, bydd y panel yn dyfarnu pecynnau ar draws ystod eang o leoliadau/ partneriaid/ sefydliadau er mwyn gallu treialu a monitro gwahanol ddulliau gweithredu.
Bydd y panel yn penderfynu a yw cais yn:
A. Llwyddiannus
B. Aflwyddiannus
C. Ar y rhestr ‘wrth gefn’Os bydd pob un o’r blaenoriaethau uchod yn derbyn sgôr gyfartal, yna dyfernir y pecyn i’r ymgeisydd yn yr ardal â’r lefel gyffredinol uchaf o amddifadedd yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a lle gallaf ddysgu mwy?
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Cafodd ei gynllunio i nodi’r ardaloedd bychan hynny sydd â’r crynodiad uchaf o wahanol fathau o amddifadedd. Mae MALlC yn cynnwys wyth math gwahanol o amddifadedd ar hyn o bryd.
Cliciwch yma i weld map rhyngweithiol MALlC o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau yn y 50% ardal fwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegau amddifadedd (e.e. corfforol, addysg, incwm).
Pryd byddwn yn clywed a ydym wedi bod yn llwyddiannus?
Hysbysir pob ymgeisydd drwy e-bost o fewn pum niwrnod gwaith i’n cyfarfod panel a gynhelir bob pythefnos.
Mae’r ffurflen gais yn cyfeirio at what3words. Beth yw what3words a pham mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio?
Gwefan ac ap yw what3words sydd wedi rhannu’r byd yn sgwariau tri metr a rhoi cyfuniad unigryw o dri gair i bob sgwâr. Dyma’r ffordd hawsaf o ddod o hyd i leoliadau penodol a’u rhannu. Mae mwy a mwy o gwmnïau danfon yn mynnu defnyddio what3words wrth gynllunio danfoniadau. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod eitemau yn cael eu danfon i’r union leoliad.
Ewch i www.what3words.com i nodi union leoliad eich gardd a’r lleoliad danfon.
Beth yw’r gost?
Dim byd
A fydd angen yswiriant arnom ni?
Bydd. Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y safle. Siaradwch â’r tirfeddiannwr i weld pa lefel yswiriant sydd ei hangen. Efallai fod yswiriant ar waith yn barod. Os yw swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn bresennol yn ystod gweithgaredd, yna bydd cyfranogwyr wedi’u hyswirio ar gyfer damweiniau personol. Fodd bynnag, nid fydd yr yswiriant hwn ar waith os nad yw’r swyddog yn bresennol, felly bydd angen i chi gael yswiriant digonol ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.
Nid yw ein safle yn agor i’r cyhoedd am resymau diogelwch – a ydym yn dal i allu gwneud cais?
O bosibl, gallwch. Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau penodol ac a ydych yn cyflawni meini prawf eraill y cynllun. Cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru i ofyn am gyngor.
Pa ganiatâd tirfeddiannwr sydd angen i mi ei ddarparu?
Ar gyfer Pecyn Perllan Ysgol, byddwn yn derbyn llythyr o gefnogaeth gan y pennaeth fel tystiolaeth o ganiatâd tirfeddiannwr.
Nid wyf yn sicr o werth cynefin/natur y safle ac nid wyf yn gwybod pwy yw fy ecolegydd neu arbenigwr bywyd gwyllt lleol. Allwch chi helpu?
Mae rhestr o holl arweinwyr y partneriaethau natur lleol (staff awdurdod lleol) ar gael yma a fydd yn gallu eich helpu. Cysylltwch â’r arweinydd ar gyfer eich awdurdod chi (neu arbenigwr cymwys arall) a gofyn iddynt ddarparu cyngor ar eich safle ac a yw’n addas ar gyfer y pecyn rydych wedi’i ddewis. Mae’n rhaid i ni sicrhau na fydd y pecyn yn gwneud unrhyw niwed drwy ddifrodi/disodli cynefin presennol, felly mae’n hollbwysig eich bod yn ceisio cyngor a darparu cadarnhad o’ch cais.
Sut ydym ni’n gwybod bod y rhywogaethau planhigion a ddarparwyd yn addas ar gyfer ein hardal?
Mae’r cymysgedd o rywogaethau a ddewisir yn rhai cyffredinol, brodorol i’r DU ac maent yn addas ar gyfer ystod eang o gynefinoedd. Bydd cynrychiolwyr y bartneriaeth Natur Leol a’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn mynychu pob cyfarfod o’r panel grantiau i asesu’r ceisiadau. Bydd angen i bob ymgeisydd siarad ag ecolegydd eu Hawdurdod Lleol neu arbenigwr lleol arall er mwyn sicrhau bod y pecyn yn addas cyn gwneud cais.
Faint o le sydd ei angen arnom i osod holl eitemau’r pecyn?
Isafswm yr ardal sydd yn ofynnol yw 400m2.
A oes unrhyw leoliadau nad ydynt yn addas ar gyfer pecyn?
Mae’r pecynnau wedi eu dylunio yn bennaf ar gyfer mannau lle nad oes llawer o fynediad, os o gwbl, at natur. Felly, ni fydd rhai lleoliadau yn addas ee Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, ardaloedd cyfoethog eu rhywogaethau neu leoliadau sydd yn cynnwys rhywogaethau a warchodir. Gall fod ffyrdd eraill y gall partneriaid eraill gefnogi eich prosiect, felly cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru am gyngor.
Nid oes gennym gynllun cynnal a chadw nac unrhyw offer i gynnal y safle yn y dyfodol, oes modd i ni gael pecyn?
Mae cynnal a chadw’r safle yn barhaus yn un o’r meini prawf asesu hanfodol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid yn eich helpu i baratoi cynllun cynnal a chadw a ynglŷn â sut mae gofalu am y safle yn yr hirdymor. Yn anffodus, os nad ydych yn cytuno i gynnal a chadw’r safle am bum mlynedd bydd eich cais yn aflwyddiannus.
Faint o wirfoddolwyr sydd eu hangen arnom i adeiladu a rheoli’r lleoedd natur?
Er y bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i osod eich gardd, fel yr ymgeisydd mae’n rhaid i chi ddarparu digon o wirfoddolwyr i sicrhau bod yr ardd yn cael ei gosod yn ddiogel. Rydym yn argymell pum gwirfoddolwr craidd o leiaf i adeiladu’r safle er po fwyaf o bobl leol sydd ynghlwm, y gorau. Bydd gwirfoddolwyr ychwanegol yn lledaenu’r llwyth gwaith a gallant ddarparu cefnogaeth foesol drwy ymgymryd â rolau megis lluniaeth, hyrwyddo’r safle drwy’r cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth. Rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i 25 awr yn ystod 2026-27 i osod a rheoli’r ardd.
Os na allwch ddarparu cymorth gwirfoddol, mae’n annhebygol y caiff eich cais ei gymeradwyo. Bydd angen i chi ddarparu llythyrau o gefnogaeth gan unrhyw sefydliadau a fydd yn cymryd rhan. Mae angen i’r panel deimlo’n hyderus bod gennych graidd o wirfoddolwyr a fydd yn adeiladu’r ardd a diddordeb cymunedol ymroddedig i reoli’r safle yn y tymor hir.
Oes angen i chi fod yn heini? Pa mor gorfforol fydd y gwaith?
Bydd tasgau sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu. Bydd rhai gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau corfforol megis codi, plygu a phalu ond bydd llawer o dasgau mwy ysgafn hefyd megis plannu, chwynnu a dyfrio. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i weithgareddau addas i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.
Oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad arnom?
Nac oes, bydd swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i egluro gweithgareddau’r prosiect yn fanwl a darparu hyfforddiant a chefnogaeth anffurfiol. Byddant yn cynnal asesiad risg ac yn mynd drwy sesiwn friffio iechyd a diogelwch gyda’r holl gyfranogwyr. Bydd dogfennau canllaw a chyfarwyddiadau syml yn cael eu darparu i wirfoddolwyr eu dilyn.
Beth sydd angen i wirfoddolwyr ddod gyda nhw?
Byddwch yn gweithio ar safle’r tu allan, efallai heb ddim lloches ac rydych yn debygol o faeddu. Rydym yn gofyn i wirfoddolwyr wisgo dillad addas ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir ac esgidiau trwm. Gofynnir i wirfoddolwyr ddod â’u menig garddio neu weithio eu hunain. Bydd rhai offer yn cael eu darparu, ond yn dibynnu ar y niferoedd disgwyliedig a math o becyn, gall fod yn syniad da i wirfoddolwyr / grwpiau ddod â rhawiau, tryweli ychwanegol etc.
A all plant gymryd rhan?
Gallant, ond bydd angen i blant dan 16 oed gael eu goruchwylio gan oedolion.
A all y pecynnau gael eu rhannu dros fwy nag un safle?
Mae’r becyn perllan wedi cael eu dewis i fynd ar un safle, felly dyna’r dewis dewisol a’r un fydd yn cael yr effaith orau.
Oes modd i ni newid cynnwys ein pecyn dewisol?
Na. Mae’r pecynnau wedi eu pennu o flaen llaw. Os oes angen eitemau gwahanol arnoch i ddatblygu eich gofod natur lleol, cysylltwch â’ch Partneriaeth Natur lleol www.lnp.cymru/Hafan.
Ym mha ffordd fydd staff Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’n cefnogi i osod y pecynnau?
Bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu eich gardd newydd. Po gyntaf yr ydych yn archebu eich dyddiau gweithgaredd gyda’ch swyddog lleol, po fwyaf tebygol ydych o gael y dyddiadau sydd orau gennych, yn enwedig os ydych eisiau i’r gwaith ddigwydd ar y penwythnos. Byddwn hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer cynnal a chadw’r safle yn y dyfodol.
Oes modd i ni gadw’r offer ar ôl adeiladu’r prosiect?
Oes.
Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cael pecyn, ond yn methu ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2027?
Rhaid cwblhau’r holl waith erbyn yr amser hwnnw. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad oes modd i chi gadw at yr amserlen hon mwyach, RHAID i chi roi gwybod i Cadwch Gymru’n Daclus cyn gynted â phosib er mwyn iddo allu dyrannu’r pecyn i rywun arall.
Os byddwn yn cael prosiect, a fydd Cadwch Gymru’n Daclus yn atgyweirio neu’n adnewyddu eitemau yn y pecyn sydd yn cael eu treulio, eu torri, eu niweidio neu eu dwyn ar ôl hynny?
Na, bydd y cyllid ond yn cynnwys yr eitemau a’r gwaith o’u gosod unwaith. Cydweithiwch gyda’n tîm i ystyried lleoliad eitemau wrth blannu eich gardd e.e. cysgodi gwrthrychau fel siediau / tai gwydr / delltweithiau rhag gwyntoedd cryf os yn bosibl.
Sut bydd fy mhecyn yn cael ei ddosbarthu?
Bydd eitemau lluosog, mawr iawn yn cael eu dosbarthu ar lori. Bydd y rhain yn cynnwys paledi a bagiau crynswth. Bydd eitemau llai yn cael eu dosbarthu drwy’r post neu gan gludydd.
Mae’r lluniau isod wedi eu dylunio i roi syniad o faint rhai o’r eitemau fydd yn cael eu dosbarthu.







