JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Pecynnau Perllan

Crëwch hyb awyr agored sy’n llawn coed ffrwythau, bylbiau a bocsys cynefin!

Mae gennym ni ddwy fath o berllan ar gael: gall grwpiau a sefydliadau cymunedol wneud cais am ein Pecynnau Perllannau Cymunedol, a gall ysgolion wneud cais am ein Pecynnau Perllan Ysgol.

Mae ein perllannau i gyd yn cynnwys yr un eitemau ond mae’r gefnogaeth y byddwch chi’n ei derbyn gan Cadwch Gymru’n Daclus ychydig yn wahanol yn dibynnu ar p’un a ydych chi’n sefydliad cymunedol neu’n ysgol.

Darllenwch ymlaen am yr holl fanylion.

Perllannau Cymunedol Perllannau Ysgol
Mae gwesty pryfed pren ynghlwm wrth foncyff coeden wedi'i orchuddio ag eiddew, gyda thŷ i'w weld yn y cefndir.
Dau berson yn plannu coeden fach ar ochr bryn glaswelltog gyda phot glas o bridd wrth eu hymyl.

Mae'r pecynnau'n cynnwys

  • 15 coed ffrwythau cynhenid
  • Bylbiau cynhenid
  • Mainc blastig wedi ei hailgylchu (grwpiau cymunedol) neu un mainc bicnic (ysgolion)
  • Blychau cynefinoedd
  • Menig
  • Casgen dŵr
  • Offer llaw
  • Llawlyfrau / llyfrau gwybodaeth

Noder, bydd yr amrywiaeth o goed a phlanhigion sy’n cael eu darparu yn dibynnu ar y tymor a beth sydd ar gael. Efallai y bydd eitemau eraill yn cael eu newid hefyd.

Yr ardal leiaf sydd ei hangen ar gyfer ein perllannau yw 400 metr sgwâr.

Perllannau Cymunedol Perllannau Ysgol
Person ar ei liniau yn gwisgo siaced dywyll, yn plannu coeden ffrwythau.

Gwybodaeth bwysig i Berllannau Cymunedol

Mae ein Pecyn Perllannau Cymunedol wedi’i gynllunio ar gyfer sefydliadau sydd am greu perllan gymunedol fach, lle gall pobl o bob oed ddod at ei gilydd, ar dir sydd â ‘pherchnogaeth ddielw’.

Rydym yn gwybod na fydd gennych brofiad o dyfu bwyd o bosib, felly bydd ein swyddogion prosiect arbenigol yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu mannau tyfu, a’ch helpu i blannu eich cnydau newydd, i ofalu amdanynt a’u cynaeafu.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd ei angen gan wirfoddolwyr. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth sydd angen i chi eu darparu cyn dechrau eich cais.  Dyma’r ffordd orau o gynyddu eich siawns o fod yn llwyddiannus a chael gafael ar becyn Perllan Gymunedol.

Cwestiynau Cyffredinol Perllannau Gymunedol Gwnewch gais nawr
Mae grŵp o blant mewn cotiau a gwisgoedd ysgol yn sefyll mewn cae glaswelltog, gydag un plentyn yn codi llaw. Mae oedolyn yn dal rhaw i'w weld ar y dde.

Gwybodaeth bwysig i Berllannau Ysgol

Mae ein Pecyn Perllannau Ysgol ar gyfer unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol sydd am wella eu tiroedd a chreu gofod ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.

Byddwn yn gweithio gyda chi i ddylunio perllan eich ysgol a’ch cefnogi i blannu a gofalu am eich cnydau. Bydd ein tîm Eco-Sgolion hefyd yn cyflwyno gweithdy rhyngweithiol arbennig a gynlluniwyd i helpu disgyblion i ddeall pwysigrwydd coed brodorol a diogelu cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ein cwestiynau cyffredin cyn gwneud cais. Mae hwn yn brosiect ar raddfa fawr, felly mae’n hanfodol eich bod yn deall y gofod a’r ymrwymiad sydd eu hangen. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn gwybod pa wybodaeth a thystiolaeth y mae angen i chi eu darparu cyn dechrau eich cais.

Cwestiynau Cyffredinol Perllannau Ysgol Gwnewch gais nawr
Angen help gyda'ch cais?

Mae gennym dri chydlynydd rhanbarthol wrth law i’ch cefnogi gyda’ch cais Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Anfonwch e-bost atynt.

Cysylltwch â'r tîm
Chwilio am brosiect llai?

Mae ein Pecynnau Gardd Fach yn brosiectau garddio llai ar gyfer unrhyw grwpiau cymunedol neu wirfoddol.

Darganfod mwy

Mae Pecyn Berllan wedi galluogi Cyfeillion Parc Nant-y-Waun i drawsnewid ardal nas defnyddir yn ddigon o werth ecolegol isel yn amwynder deniadol. Mae’r meinciau yn galluogi defnyddwyr niferus y Parc i oedi a mwynhau’r coed ffrwythau ynghyd â’n golygfeydd godidog. Bydd blodau’r coed o fudd i’n peillwyr tra bydd eu ffrwythau’n cael eu gwerthfawrogi gan fodau dynol a bywyd gwyllt fel ei gilydd.

Parc Nant Y Waun Blaenau Gwent

Rydw i wedi mwynhau plannu’r berllan a dysgu am yr holl goed a phlanhigion sy’n dod o Gymru. Rwy'n mwynhau bywyd gwyllt a bydd hyn yn helpu'r holl adar, chwilod a phlanhigion eraill.

Disgybl blwyddyn 6 Hafod Wennog, Sir Gaerfyrddin

Gerddi ar waith

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13