JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Cwestiynau Cyffredinol Perllan Gymunedol

Mae pob pecyn wedi ei bennu ymlaen llaw felly byddwch yn derbyn yr HOLL eitemau sydd wedi eu rhestru isod. Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o le i roi a storio’r holl eitemau angenrheidiol cyn gwneud cais.

Bydd eich swyddog Cadwch Gymru’n Daclus lleol yn cytuno ar gynllun gwaith ac amserlen ddosbarthu gyda chi, ond bydd angen eich bod ar gael i dderbyn yr holl eitemau isod yn unol â’r hyn a gytunwyd.

Darllenwch ymlaen am ein gofynion hanfodol eraill.

Cysylltu â'r tîm Gwnewch gais nawr
Person ar ei liniau yn gwisgo siaced dywyll, yn plannu coeden ffrwythau.

Cwestiynau Cyffredinol

Darllenwch y canlynol cyn cyflwyno'ch cais.

Gallai cynnwys pecynnau newid.

  • 15x coeden gan gynnwys stanciau, gwarchodwyr ac ati wedi’u danfon gan gludwr.
  • 320x bylbiau brodorol wedi’u danfon drwy’r post.
  • Blwch cynefin wedi’i ddanfon mewn blwch mawr gan gludwr.
  • 2x mainc plastig wedi’i ailgylchu wedi’u danfon mewn paled.
    2x llif tocio, tociwr estynadwy, 5x trywel llaw, 2x siswrn gwallt, can dyfrio, 10x pâr o fenig wedi’u danfon mewn blwch mawr gan gludwr.
  • Casgen ddŵr wedi’i danfon gan gludwr.
  • Llyfr canllaw wedi’i ddanfon drwy’r post.

Cyn ymgeisio, darllenwch y gofynion hanfodol canlynol i ymgeiswyr:

  • Rhaid i ymgeiswyr weithio gyda staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth gynllunio’r gwaith o osod pecynnau.
  • Rhaid i becynnau sicrhau twf amgylcheddol y gellir ei weld ‘ar garreg eich drws’. Mae hyn yn golygu y dylid eu lleoli lle mae pobl yn byw, yn gweithio, yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, yn teithio (gall hyn gynnwys lleiniau ymyl ffordd, cylchfannau) ac yn treulio eu hamser hamdden (e.e. mannau agored cyhoeddus).
  • Mae’n rhaid cyflwyno pecynnau a ddyfernir rhwng Hydref 2026 a diwedd Chwefror 2027 (oherwydd y tymor plannu coed)
  • Rhaid i ymgeiswyr gytuno i gynnal y safle am bum mlynedd o leiaf a chael cynllun yn ei le ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol (mae’n bosib y bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn gallu eich helpu i lunio hwn).
  • Gofynnir i ymgeiswyr roi cyhoeddusrwydd i’r gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddatganiadau i’r wasg, gan ddefnyddio’r templedi a ddarperir.
  • Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw bod ar y safle i dderbyn nwyddau gan gyflenwyr.

Pwy all ymgeisio am becynnau?

Mae ein Pecynnau Perllan wedi eu dylunio ar gyfer sefydliadau sydd eisiau creu perllannau cymunedol bach ar dir sydd â ‘pherchnogaeth ddielw’.

Mae’r broses o wneud cais yn agored i grwpiau cymunedol o bob math a maint, a sefydliadau eraill gan gynnwys y GIG, llywodraeth Leol a Chenedlaethol (gan gynnwys cynghorau Tref a Chymuned), ysgolion a meithrinfeydd cyhoeddus, sefydliadau’r trydydd sector, sefydliadau crefyddol, mentrau cymdeithasol, prifysgolion, cymdeithasau tai a’r Sector Cyhoeddus ehangach yng Nghymru, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru.

Rhoddir blaenoriaeth i’r prosiectau hynny sy’n cyflawni holl ofynion y broses o wneud cais ac sydd wedi’u lleoli mewn lleoliadau trefol/lled-drefol neu drefi gwledig, sy’n cynnwys aelodau difreintiedig y gymuned, sydd â chyfranogiad cymunedol neu wirfoddol cadarn, sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd â’r lefel uchaf o amddifadedd (a nodwyd gan Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru), a mynediad isel iawn, os o gwbl, i fyd natur.

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n cynnwys cyfranogwyr Du, Asiaidd, Ethnig Lleiafrifol a/neu anabl.

A all ysgolion ymgeisio?

Na. Yn hytrach, gall ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol wneud cais am Becyn Perllan Ysgol. Mae’n cynnwys yr un eitemau, ond mae’r cymorth y bydd ysgolion yn ei gael gan Cadwch Gymru’n Daclus fawr ychydig yn wahanol. Cliciwch yma i ddarganfod mwy a gwneud cais am Becyn Perllan Ysgol.

Pwy sydd ddim yn cael ymgeisio?

  • Unigolion / gerddi preifat
  • Sefydliadau’r sector preifat

Noder, os ydych eisoes yn derbyn cyllid ar gyfer eich gweithgarwch neu safle gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol neu eich Partneriaeth Natur Leol, mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau a allai effeithio ar eich cais. Cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Rydym wedi derbyn pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur gan Cadwch Gymru’n Daclus yn y gorffennol, allwn ni wneud cais eto?

Os ydych chi eisoes wedi llwyddo i osod pecyn dechreuol a nawr yn dymuno ehangu i becyn datblygu, gallwch chi wneud hynny.

Os ydych chi wedi derbyn pecyn, eich bod yn bodloni’r holl feini prawf eleni a’ch bod eisiau gwneud cais am becyn arall, yna mae’n bosibl y gallwch wneud cais. Byddem yn awgrymu eich bod yn gwneud cais ar gyfer safle gwahanol. Nodwch, y bydd yn debygol y rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr nad ydynt wedi gwneud cais o’r blaen.

Pwy ydych yn ystyried yn grŵp difreintiedig/grŵp wedi ymddieithrio?

Rydym yn croesawu ac yn cefnogi ceisiadau gan grwpiau difreintiedig/wedi’u tangynrychioli a’r rhai â gallu cyfyngedig i gymryd rhan mewn prosiectau fel Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.  Bydd ceisiadau yn derbyn sgôr uchel os ydynt yn cynnwys cyfranogwyr o’r grwpiau canlynol:

  • Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol
  • Anabl
  • Digartref
  • Pobl sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau
  • Ffoaduriaid a cheiswyr lloches
  • Sipsiwn / teithwyr
  • Pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl / yn dioddef anhwylder personoliaeth
  • Plant / plant mewn gofal / pobl ifanc
  • Gofalwyr
  • Pobl hŷn
  • Rhieni yn eu harddegau / rhieni sengl
  • Dioddefwyr cam-drin domestig
  • Troseddwyr
  • Pobl o gymunedau rhywiol lleiafrifol
  • Dan anfantais economaidd-gymdeithasol
  • Y rheiny na all ddarllen, ysgrifennu na siarad Cymraeg neu Saesneg
  • Grwpiau ffydd nad ydynt yn Gristnogion
  • Pobl â nodweddion gwarchodedig

Nid ydym yn grŵp o dan anfantais, allwn ni barhau i wneud cais?

Gallwch. Mae gan y cynllun feini prawf eraill y bydd angen i ymgeiswyr arddangos eu bod yn eu cyflawni (gweler uchod).  Wedi dweud hynny, rydym yn annog pob ymgeisydd i esbonio sut maen nhw wedi ymgynghori ag aelodau o’u cymuned leol sy’n ddifreintiedig/wedi’u tangynrychioli, a sut y byddan nhw’n cymryd rhan yn y prosiect, oherwydd rydym yn awyddus i’r prosiectau fod mor gynhwysol â phosibl.  Bydd cynnwys grwpiau difreintiedig yn atgyfnerthu eich cais, gan roi siawns uwch o lwyddiant i chi.

A oes angen i ni fod yn grŵp cyfansoddiadol i ymgeisio am Becyn Perllan?

Oes. Gall swyddogion Cadwch Gymru’n Daclus eich cefnogi i ddod yn grŵp cyfansoddiadol. Mae gennym gyfansoddiadau templed ar gael, a gall ein tîm o swyddogion cymunedol eich helpu drwy’r broses syml. Ewch i’n tudalen tîm am fanylion ynglŷn â’ch swyddog prosiect lleol neu gofynnwch i’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur am gyngor.

Bydd angen i fentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol ddarparu copi o’u cyfansoddiad a bydd angen i elusennau ddarparu ein rhif elusen i ni.

Sut ydw i’n ymgeisio?

Dylech gyflwyno’r ffurflen gwneud cais berthnasol drwy wefan Cadwch Gymru’n Daclus.  Nid yw’n ofyniad i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i wneud cais, ond dylech nodi, ar ôl i chi ddechrau eich cais, na allwch arbed eich gwybodaeth a dychwelyd ati’n ddiweddarach.

Dylech ateb pob cwestiwn o fewn yr uchafswm geiriau a argymhellir.

Sut mae ceisiadau yn cael eu hasesu a’u dewis?

Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel grantiau a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Cadwch Gymru’n Daclus, Llywodraeth Cymru, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt ac arbenigwyr natur lleol.

Bydd y ceisiadau’n cael eu barnu yn erbyn meini prawf y rhaglen, a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sy’n cyflawni o leiaf tri o feini prawf allweddol canlynol y cynllun:

  • Lleoedd heb lawer o fynediad at natur, os o gwbl – Rhoddir blaenoriaeth i safleoedd heb unrhyw fannau gwyrdd o gwbl a’r rhai ar arwynebeddau artiffisial (e.e. tarmac, concrid).
  • Trefol / lled-drefol a threfi gwledig
  • Lleoedd â’r lefelau uchaf o amddifadedd – rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr yn y 50% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, yn ôl ardaloedd cynnyrch ehangach.
  • Ceisiadau sy’n cynnwys grwpiau difreintiedig, wedi ymddieithrio neu wedi’u tangynrychioli, cyfranogwyr Du, Asiaidd, Ethnig Lleiafrifol (nam corfforol a dysgu, gan gynnwys nam gweledol, nam ar y clyw a nam ar y lleferydd).
  • Dylai ymgeiswyr arddangos cyfranogiad cymunedol eang gydag o leiaf deg gwirfoddolwr rheolaidd ac ystod o sefydliadau sy’n gallu cael mynediad at natur ar ôl creu’r ardd.

Wrth ystyried y ceisiadau, bydd y panel yn dyfarnu pecynnau ar draws ystod eang o leoliadau/ partneriaid/ sefydliadau er mwyn gallu treialu a monitro gwahanol ddulliau gweithredu.

Bydd y panel yn penderfynu a yw cais yn:

  • Llwyddiannus
  • Aflwyddiannus
  • Ar y rhestr ‘wrth gefn’

Os bydd pob un o’r blaenoriaethau uchod yn derbyn sgôr gyfartal, yna dyfernir y pecyn i’r ymgeisydd yn yr ardal â’r lefel gyffredinol uchaf o amddifadedd yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Beth yw Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a lle gallaf ddysgu mwy?

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.  Cafodd ei gynllunio i nodi’r ardaloedd bychan hynny sydd â’r crynodiad uchaf o wahanol fathau o amddifadedd.  Mae MALlC yn cynnwys wyth math gwahanol o amddifadedd ar hyn o bryd.

Cliciwch yma i weld map rhyngweithiol MALlC o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau yn y 50% ardal fwyaf difreintiedig o unrhyw ystadegau amddifadedd (e.e. corfforol, addysg, incwm).

Pryd byddwn yn clywed a ydym wedi bod yn llwyddiannus?

Cynhelir cyfarfod panel grantiau ddechrau mis Hydref ar gyfer pob cais am Berllan Gymunedol. Hysbysir pob ymgeisydd drwy e-bost o fewn pum niwrnod gwaith i’n cyfarfod panel a gynhelir.

Mae’r ffurflen gais yn cyfeirio at what3words. Beth yw what3words a pham mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio?

Gwefan ac ap yw what3words sydd wedi rhannu’r byd yn sgwariau tri metr a rhoi cyfuniad unigryw o dri gair i bob sgwâr. Dyma’r ffordd hawsaf o ddod o hyd i leoliadau penodol a’u rhannu. Mae mwy a mwy o gwmnïau danfon yn mynnu defnyddio what3words wrth gynllunio danfoniadau. Dyma’r ffordd orau o sicrhau bod eitemau yn cael eu danfon i’r union leoliad.

Ewch i www.what3words.com i nodi union leoliad eich gardd a’r lleoliad danfon.

Beth yw’r gost?

Dim byd

A fydd angen yswiriant arnom ni?

Bydd. Bydd angen i chi gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y safle. Siaradwch â’r tirfeddiannwr i weld pa lefel yswiriant sydd ei hangen. Efallai fod yswiriant ar waith yn barod.

Os yw swyddog Cadwch Gymru’n Daclus yn bresennol yn ystod gweithgaredd, yna bydd cyfranogwyr wedi’u hyswirio ar gyfer damweiniau personol. Fodd bynnag, nid fydd yr yswiriant hwn ar waith os nad yw’r swyddog yn bresennol, felly bydd angen i chi gael yswiriant digonol ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol.

Ble gallwn ni gael yswiriant?

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn rhedeg cynllun yswiriant grwpiau cymunedol er mwyn darparu yswiriant fforddiadwy i grwpiau cymunedol. Mae’n darparu yswiriant AM DDIM i grwpiau sydd wedi ffurfio a chyfansoddi yn ystod y 12 mis diwethaf i’r rhai sy’n cyflwyno eu cais am y tro cyntaf. Felly, os ydych yn grŵp newydd gallech gael hyd at un flwyddyn o yswiriant am ddim. Noder, gall Cadwch Gymru’n Daclus eich helpu i ddod yn gyfansoddiadol (gweler yr adran grŵp cyfansoddiadol isod).

I grwpiau sydd wedi bodoli am fwy na 12 mis, mae’r pris yn dechrau ar £75 am gost yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a damwain bersonol y flwyddyn. Gellir sicrhau yswiriannau eraill hefyd e.e. defnyddio offer pŵer, offer a cholli offer. I gael mwy o wybodaeth am gostau a’r broses ymgeisio, ewch i’n tudalen yswiriant grŵp neu anfonwch e-bost at groupfunding@keepwalestidy.cymru

Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu costau yswiriant, cysylltwch â’r tîm Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Rydym yn aros am ganiatâd y tirfeddiannwr, oes modd i ni ymgeisio?

Nac oes, mae’n rhaid i chi gael tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y tirfeddiannwr cyn cyflwyno eich cais. Ni fydd eich cais yn mynd i’r panel hyd nes y bydd wedi’i gwblhau’n llawn, yn cynnwys tystiolaeth o ganiatâd, lluniau, mapiau etc.

Rydym wedi bod yn gweithio ar ein safle ers blynyddoedd o dan gytundeb geiriol gan y tirfeddiannwr. A yw hyn yn ddigonol?

Nac ydy, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatâd y tirfeddiannwr.

Nid yw ein safle yn agor i’r cyhoedd am resymau diogelwch (e.e. gweithio gydag oedolion agored i niwed / plant ysgol) – a ydym yn dal i allu gwneud cais?

O bosibl, gallwch. Mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau penodol ac a ydych yn cyflawni meini prawf eraill y cynllun.  Cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru i ofyn am gyngor.

Unigolyn preifat sy’n berchen ar y tir, ond mae gennym brydles 10 mlynedd, allwn ni wneud cais?

O bosibl, gallwch. Anfonwch gopi o’ch prydles drwy e-bost i nature@keepwalestidy.cymru er mwyn iddynt wirio i weld a ydych yn gymwys.

A oes ‘ffurflen’ caniatâd perchennog tir i’w chwblhau?  

Nid oes ffurflen swyddogol i’w chwblhau, y cyfan sydd ei angen arnom yw tystiolaeth gan berchennog y tir sy’n dangos caniatâd i osod y safle a’i gynnal a’i gadw am bum mlynedd. Gallai hyn fod yn gytundeb ffurfiol rydych wedi’i lofnodi, trwydded neu e-bost gan berchennog y tir sy’n rhoi caniatâd i waith ddechrau ar y safle arfaethedig.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â’r tîm Natur am gyngor.

Nid wyf yn sicr o werth cynefin/natur y safle ac nid wyf yn gwybod pwy yw fy ecolegydd neu arbenigwr bywyd gwyllt lleol. Allwch chi helpu?

Mae rhestr o holl arweinwyr y partneriaethau natur lleol (staff awdurdod lleol) ar gael yma a fydd yn gallu eich helpu. Cysylltwch â’r arweinydd ar gyfer eich awdurdod chi (neu arbenigwr cymwys arall) a gofyn iddynt ddarparu cyngor ar eich safle ac a yw’n addas ar gyfer y pecyn rydych wedi’i ddewis.  Mae’n rhaid i ni sicrhau na fydd y pecyn yn gwneud unrhyw niwed drwy ddifrodi/disodli cynefin presennol, felly mae’n hollbwysig eich bod yn ceisio cyngor a darparu cadarnhad o’ch cais.

Sut ydym ni’n gwybod bod y rhywogaethau planhigion a ddarparwyd yn addas ar gyfer ein hardal?

Mae’r cymysgedd o rywogaethau a ddewisir yn rhai cyffredinol, brodorol i’r DU ac maent yn addas ar gyfer ystod eang o gynefinoedd.  Bydd cynrychiolwyr y Bartneriaeth Natur Leol a’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn mynychu pob cyfarfod o’r panel grantiau i asesu’r ceisiadau.  Bydd angen i bob ymgeisydd siarad ag ecolegydd eu Hawdurdod Lleol neu arbenigwr lleol arall er mwyn sicrhau bod y pecyn yn addas cyn gwneud cais.

Faint o le sydd ei angen arnom i osod holl eitemau’r pecyn? 

Isafswm yr ardal sydd yn ofynnol yw 400m2.

A oes unrhyw leoliadau nad ydynt yn addas ar gyfer pecyn? 

Mae’r pecynnau wedi eu dylunio yn bennaf ar gyfer mannau lle nad oes llawer o fynediad, os o gwbl, at natur. Felly, ni fydd rhai lleoliadau yn addas ee Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Lleol, ardaloedd cyfoethog eu rhywogaethau neu leoliadau sydd yn cynnwys rhywogaethau a warchodir. Gall fod ffyrdd eraill y gall partneriaid eraill gefnogi eich prosiect, felly cysylltwch â nature@keepwalestidy.cymru am gyngor.

Nid oes gennym gynllun cynnal a chadw nac unrhyw offer i gynnal y safle yn y dyfodol, oes modd i ni gael pecyn?

Mae cynnal a chadw’r safle yn barhaus yn un o’r meini prawf asesu hanfodol. Bydd Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid yn eich helpu i baratoi cynllun cynnal a chadw a ynglŷn â sut mae gofalu am y safle yn yr hirdymor.  Yn anffodus, os nad ydych yn cytuno i gynnal a chadw’r safle am bum mlynedd bydd eich cais yn aflwyddiannus.

Faint o wirfoddolwyr sydd eu hangen arnom i adeiladu a rheoli’r lleoedd natur?

Er y bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i osod eich gardd, fel yr ymgeisydd mae’n rhaid i chi ddarparu digon o wirfoddolwyr i sicrhau bod yr ardd yn cael ei gosod yn ddiogel. Rydym yn argymell pum gwirfoddolwr craidd o leiaf i adeiladu’r safle er po fwyaf o bobl leol sydd ynghlwm, y gorau. Bydd gwirfoddolwyr ychwanegol yn lledaenu’r llwyth gwaith a gallant ddarparu cefnogaeth foesol drwy ymgymryd â rolau megis lluniaeth, hyrwyddo’r safle drwy’r cyfryngau cymdeithasol a ffotograffiaeth.  Rhaid i ymgeiswyr ymrwymo i 25 awr yn ystod 2024-25 i osod a rheoli’r ardd.

Os na allwch ddarparu cymorth gwirfoddol, mae’n annhebygol y caiff eich cais ei gymeradwyo. Bydd angen i chi ddarparu llythyrau o gefnogaeth gan unrhyw sefydliadau a fydd yn cymryd rhan. Mae angen i’r panel deimlo’n hyderus bod gennych graidd o wirfoddolwyr a fydd yn adeiladu’r ardd a diddordeb cymunedol ymroddedig i reoli’r safle yn y tymor hir.

Oes angen i chi fod yn heini? Pa mor gorfforol fydd y gwaith?

Bydd tasgau sy’n addas ar gyfer pob oed a gallu. Bydd rhai gweithgareddau yn cynnwys gweithgareddau corfforol megis codi, plygu a phalu ond bydd llawer o dasgau mwy ysgafn hefyd megis plannu, chwynnu a dyfrio. Byddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i weithgareddau addas i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan.

Oes angen unrhyw sgiliau neu brofiad arnom?

Nac oes, bydd swyddog prosiect Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i egluro gweithgareddau’r prosiect yn fanwl a darparu hyfforddiant a chefnogaeth anffurfiol. Byddant yn cynnal asesiad risg ac yn mynd drwy sesiwn friffio iechyd a diogelwch gyda’r holl gyfranogwyr. Bydd dogfennau canllaw a chyfarwyddiadau syml yn cael eu darparu i wirfoddolwyr eu dilyn.

Beth sydd angen i wirfoddolwyr ddod gyda nhw?

Byddwch yn gweithio ar safle’r tu allan, efallai heb ddim lloches ac rydych yn debygol o faeddu. Rydym yn gofyn i wirfoddolwyr wisgo dillad addas ar gyfer yr amodau tywydd a ragwelir ac esgidiau trwm. Gofynnir i wirfoddolwyr ddod â’u menig garddio neu weithio eu hunain. Bydd rhai offer yn cael eu darparu, ond yn dibynnu ar y niferoedd disgwyliedig a math o becyn, gall fod yn syniad da i wirfoddolwyr / grwpiau ddod â rhawiau, tryweli ychwanegol etc.

A all plant gymryd rhan?

Gallant, ond bydd angen i blant dan 16 oed gael eu goruchwylio gan oedolion.

A all y pecynnau gael eu rhannu dros fwy nag un safle?

Mae’r becyn perllan wedi cael eu dewis i fynd ar un safle, felly dyna’r dewis dewisol a’r un fydd yn cael yr effaith orau.

Allwn ni ddiwygio cynnwys y pecyn rwyf wedi’i ddewis?

Na. Mae’r pecynnau wedi’u paratoi ymlaen llaw. Os oes angen eitemau gwahanol arnoch i ddatblygu eich gofod natur lleol, cysylltwch â’ch Partneriaeth Natur Lleol https://lnp.cymru/.

Ym mha ffordd fydd staff Cadwch Gymru’n Daclus ar gael i’n cefnogi i osod y pecynnau?

Bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus yn eich helpu i gynllunio ac adeiladu eich gardd newydd. Po gyntaf yr ydych yn archebu eich dyddiau gweithgaredd gyda’ch swyddog lleol, po fwyaf tebygol ydych o gael y dyddiadau sydd orau gennych, yn enwedig os ydych eisiau i’r gwaith ddigwydd ar y penwythnos. Byddwn hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar gyfer cynnal a chadw’r safle yn y dyfodol.

Oes modd i ni gadw’r offer ar ôl adeiladu’r prosiect?

Oes.

Beth fydd yn digwydd os byddwn yn cael pecyn, ond yn methu ei gwblhau erbyn diwedd mis Chwefror 2027?

Rhaid cwblhau’r holl waith erbyn yr amser hwnnw. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad oes modd i chi gadw at yr amserlen hon mwyach, RHAID i chi roi gwybod i Cadwch Gymru’n Daclus cyn gynted â phosib er mwyn iddo allu dyrannu’r pecyn i rywun arall.

Os byddwn yn cael prosiect, a fydd Cadwch Gymru’n Daclus yn atgyweirio neu’n adnewyddu eitemau yn y pecyn sydd yn cael eu treulio, eu torri, eu niweidio neu eu dwyn ar ôl hynny?

Na, bydd y cyllid ond yn cynnwys yr eitemau a’r gwaith o’u gosod unwaith. Cydweithiwch gyda’n tîm i ystyried lleoliad eitemau wrth blannu eich gardd e.e. cysgodi gwrthrychau fel siediau / tai gwydr / delltweithiau rhag gwyntoedd cryf os yn bosibl.

Sut bydd fy mhecyn yn cael ei ddosbarthu?

Bydd eitemau lluosog, mawr iawn yn cael eu dosbarthu ar lori. Bydd y rhain yn cynnwys paledi a bagiau crynswth. Bydd eitemau llai yn cael eu dosbarthu drwy’r post neu gan gludydd. Mae’r lluniau isod wedi eu dylunio i roi syniad o faint rhai o’r eitemau fydd yn cael eu dosbarthu.

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13