JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Siop gyfnewid gwisg ysgol

Rhannu
Mae rhes o grysau lliwgar yn hongian ar grogfachau pren o wialen wen yn erbyn cefndir gwyn.

Siop gyfnewid gwisg ysgol a Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe

Creu siop gyfnewid gwisg ysgol sydd ar agor i ddisgyblion o bob oed ar draws ein hysgol uwchradd i gefnogi defnydd a chynhyrchu dillad cyfrifol i leihau gwastraff.

Siop gyfnewid gwisg ysgol a Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, Abertawe

Creu siop gyfnewid gwisg ysgol sydd ar agor i ddisgyblion o bob oed ar draws ein hysgol uwchradd i gefnogi defnydd a chynhyrchu dillad cyfrifol i leihau gwastraff.

 

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan?

Mae ein hysgol gyfan yn rhan o drafodaeth fisol sy’n rhoi cyfle i’r holl ddysgwyr drafod materion ysgol, penderfyniadau ac i greu newid cadarnhaol i welliannau a darpariaeth yr ysgol. Yn y trafodaethau hyn rydym yn gallu cyrraedd nifer ehangach o ddysgwyr ar draws pob grŵp blwyddyn a chanfod safbwyntiau gwirioneddol y disgyblion a’r materion y maent yn eu hwynebu. Mae’r cyngor ysgol/ llais y disgyblion, Tîm y Swyddogion a’r Tîm Gwyrdd (Clwb Eco) wedi gallu sefydlu siop gyfnewid gwisg ysgol. Mae hyn yn galluogi holl aelodau ein cymuned ysgol i ddarparu gwisg ysgol ail-law nad ydynt eu hangen bellach heb orfod creu mwy o wastraff. Yn lle hynny, mae’r holl deuluoedd sy’n defnyddio cyfrifon cyfryngau’r ysgol yn ymwybodol o’r cyfleoedd hyn i ollwng unrhyw eitemau diangen ond hefyd i ymweld â’r ysgol yn arbennig yn ystod gwyliau’r ysgol i weld y gwisg ysgol y gallant ei gael yn rhad ac am ddim.

 

Sut a pham y gwnaethoch benderfynu ar y targed hwn?

Rydym wedi derbyn barn y disgyblion ac wedi edrych ar y ffordd orau o gefnogi ein cyuned trwy greu siop gyfnewid gwisg ysgol sydd ar agor i bob dysgwr. Rydym yn teimlo bod y targed hwn yn gweithio’n dda ar draws cymuned yr ysgol am ei fod yn cynnwys disgyblion o’r cyngor ysgol, tîm y swyddogion a’r tîm eco yn cydweithio ar gyfle pwysig i leihau gwastraff a defnydd.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Gall y ffaith fod disgyblion yn gallu cael gafael ar siop gyfnewid gwisg ysgol roi mwy o gyfleoedd i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol gan gynnwys gwersi chwaraeon. Gall hyn alluogi llawer mwy o ddysgwyr ac aelodau’r teulu i fod â lefelau iechyd meddwl a chorfforol gwell am ei fod yn lleihau’r pryder a’r baich o wario arian pan mae teuluoedd yn profi caledi ariannol.

 

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Mae ein llwyddiant wedi cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan yr ysgol er mwyn parhau i godi ymwybyddiaeth o ailddefnyddio eitemau fel dillad a thrwy roddion. Mae ein siop gyfnewid gwisg ysgol hefyd wedi gallu derbyn rhoddion o ffrogiau prom a dillad y mae tîm cynhyrchiad yr ysgol wedi gallu eu gwisgo yn y sioe eleni. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus i dderbyn nifer o roddion o lyfrau ar gyfer ein llyfrgell ysgol newydd yn cynnwys genres gwahanol i’n dysgwyr eu mwynhau.

Ein camau nesaf yw datblygu’r siop gyfnewid i gael ei rhedeg gydag eitemau ychwanegol i gefnogi dysgwyr sy’n defnyddio ein sgubor chwaraeon newydd sydd angen esgidiau penodol. Mae cyfle hefyd i rannu’r llwyddiant hwn gyda’n hysgolion cynradd clwstwr i roi opsiwn i ddysgwyr sy’n dechrau’r ysgol uwchradd ymweld â’n siop gyfnewid yn barod ar gyfer mis Medi. Ein gobaith yw ysbrydoli ein hysgolion cynradd clwstwr i ddechrau eu siopau cyfnewid dillad ysgol eu hunain i gefnogi lleihau gwastraff.

Fel aelod o'r Tîm Gwyrdd, Clwb Eco ein hysgol a thîm y Prif Swyddog, rydw i wedi bod yn rhan o gynllunio a chyflwyno siop gyfnewid gwisg ysgol yr ysgol ei hun. Roedd yn syniad gwych helpu i gefnogi disgyblion o gefndiroedd difreintiedig i gael mynediad at gyflenwadau gwisg ysgol y mae rhai teuluoedd wedi bod yn ei chael hi'n anodd eu cael. Rydw i wedi bod yn rhan o'r Tîm Gwyrdd ers i mi ddechrau yn yr ysgol uwchradd ac rydw i'n teimlo y gellir gwrando ar fyfyrwyr a defnyddio ein lleisiau i wneud newidiadau i bawb yng nghymuned ein hysgol. Rydw i'n teimlo bod siop gyfnewid gwisg ysgol yr ysgol ei hun yn enghraifft wych o hyn.

Leo Blwyddyn 11

Dw i'n meddwl ei fod yn gyfle gwych i'r ysgol gefnogi teuluoedd i ganiatáu ac annog pawb i ailddefnyddio, lleihau ac ailgylchu cyflenwadau gwisg ysgol a hefyd cefnogi rhoddion o fathau eraill fel ffrogiau prom, gwisgoedd ar gyfer cyngherddau a chynyrchiadau ysgol yn ogystal â rhoddion llyfrau y mae ein hadran Saesneg wedi bod yn gofyn amdanynt i helpu i gefnogi llyfrgell newydd ein hysgol.

Miss H Morgan Cydlynydd Eco-Sgolion
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Ysgol Gyfeillgar i’r Môr

Darllen rhagor
Pump o bobl ifanc o flaen sgrin yn rhoi cyflwyniad, maen nhw'n gwisgo lifrai coch a gwyn.

Ysgol Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg

Darllen rhagor
Dail o flaen cefndir aneglur.

Gosod safonau: Coed Cwm Penllergaer

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13