JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Polisi ac ymchwil

Mae gennym dîm ymroddedig o arbenigwyr sy’n parhau i ymchwilio, monitro a dadansoddi materion ansawdd amgylcheddol lleol fel sbwriel a baw cŵn.

Mae’r gwaith hwn yn rhoi tystiolaeth ac yn monitro effeithiau polisi amgylcheddol.

Mae croeso i chi gysylltu â ni, ebostiwch leq@keepwalestidy.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau.

E-bostio’r tîm
A squashed drinks can discarded on a street. More litter and detritus can be seen in the background.

Pam mae ansawdd ein hamgylchedd lleol yn bwysig?

Mae ansawdd yr amgylchedd lleol yn bwysig i bawb – nid yw hyn yn ymwneud â sbwriel yn unig, ond mae’n cyfeirio at unrhyw fater y gallech ddod ar ei draws pan fyddwch chi’n cerdded allan o’ch drws ffrynt, o sbwriel i faw cŵn, tipio anghyfreithlon, graffiti a hyd yn oed ansawdd yr aer yr ydych yn ei anadlu ac agosrwydd y man gwyrdd agosaf.

Nid yn unig ydy byw neu weithio mewn amgylchedd lleol gwael yn edrych yn hyll ond mae’n gallu cael effaith enfawr ar eich iechyd corfforol a meddyliol. Gall effeithio ar faint o fuddsoddiad y mae ardal yn ei ddenu neu lefelau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a gall hyd yn oed effeithio ar ddemocratiaeth leol.

Trwy gynyddu ansawdd yr ardaloedd lle’r ydym yn byw ac yn gweithio, gallwn greu Cymru o gymunedau ffyniannus sy’n iach i bobl ac i fywyd gwyllt.

Dysgwch fwy am y problemau
A mother and teenage daughter stand together in sand dunes inspecting litter they've collected

Newid ymddygiad i’r hirdymor

Rydym yn adnabyddus am y gwaith yr ydym yn ei wneud o ddydd i ddydd gyda’n byddin anhygoel o wirfoddolwyr yn codi sbwriel; ond nid ydym ni’n dymuno canolbwyntio ein hymdrechion ar lanhau yn unig, rydym am atal sbwriel rhag digwydd yn y lle cyntaf.

Drwy atgoffa pobl o’r opsiwn gorau, a gwneud yr opsiwn hwnnw mor hawdd â phosibl, gallwn newid ymddygiad er mwyn cyflawni buddion amgylcheddol yn y tymor hir.

rydym ni’n gweithio ar draws sectorau a ffiniau siroedd er mwyn cynnal ymgyrchoedd cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal â phrosiectau lleol wedi’u targedu.

Ein gweledigaeth ar gyfer Caru Cymru yw y bydd yn dod yn naturiol i bobl wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref i lanhau ar ôl eu ci, i ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio.

Tystiolaeth, arweiniad ac ymchwil

Mae Cymru’n wynebu argyfwng sbwriel! Mae data cadarn a chyson yn darparu tystiolaeth sy’n hanfodol ar gyfer gweithredu ar y cyd ar lefelau cenedlaethol, lleol a chymunedol.

Rydym yn casglu data trwy arolygon sbwriel cadarn gan ddefnyddio GLÂN (Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol) – ein methodoleg blaenllaw ar gyfer monitro a dadansoddi tueddiadau sbwriel.

Mae ein data byw yn dangos materion sbwriel cyffredin, yn amcangyfrif nifer yr eitemau sy’n cael eu taflu fel sbwriel ym mhob man cyhoeddus, ac yn mesur glendid mewn cymunedau ledled Cymru.

Mae ein Llyfrgell Polisi ac Ymchwil yn dod ag ymchwil ddibynadwy, mewnwelediadau arbenigol, ac arweiniad polisi ynghyd mewn un lle. Archwiliwch y canfyddiadau diweddaraf ac enghreifftiau o arfer da o Gymru a thu hwnt – defnyddiwch yr hidlwyr isod i bori trwy ein papurau.

Gweld y data sbwriel

Ardal

Pawprints to Bins

Lawrlwyth

Binfrastructure (crynodeb)

Lawrlwyth

Taclo Baw Cŵn (crynodeb)

Lawrlwyth

Mynd i’r Afael â Sbwriel yn Ymwneud â Chyffuriau

Lawrlwyth

Taclo Sbwriel o’r Tir sy’n Llygrur Môr

Lawrlwyth

Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE)

Lawrlwyth

Sbwriel Morol – Adolygiad Ymchwil Academaidd

Lawrlwyth

Ymagwedd Holistaidd Tuag at LEQ

Lawrlwyth

Crynodeb o Ymchwil Sbwriel Môr Yng Nghymru

Lawrlwyth

Rheoli Sbwriel yng Nghymru

Lawrlwyth
Deunydd pecynnu bwyd brys wedi ei daflu fel sbwriel ar ffordd

Taclo Sbwriel ar ein Ffyrdd (crynodeb)

Lawrlwyth
Bonion sigaréts wedi eu gwthio i mewn i fon coeden

Taclo Sbwriel Ysmygu (crynodeb)

Lawrlwyth

Canllawiau Sbwriel yn Ymwneud â Smygu

Lawrlwyth

Canllaw Caru Cymru: Sbwriel ar Ochr y Ffordd

Lawrlwyth

Rhwystrau ac atebion Tipio anghyfreithlon

Lawrlwyth
Street grate surrounded by dried grass and detritus

Canllaw Rheoli Chwyn a Malurion

Lawrlwyth

Canllaw ar drawsnewid lonydd cefn yn ofod cymunedol

Lawrlwyth

Sbwriel Twristiaeth

Lawrlwyth

Ailystyried gorfodaeth am daflu sbwriel a chŵn yn baeddu

Lawrlwyth

Canfyddiadau ynghylch Gwobr y Faner Las: Crynoeb o Arolwg Traethau a Thwristiaeth Cymru

Lawrlwyth
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13