JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruGwirfoddoliSbwriel a gwastraff

Cadwch y Fenni’n Daclus

Rhannu
A group of six volunteers, outside a red building, all smiling carrying red litter bags

Y cefndir

Cafodd Cadwch y Fenni’n Daclus ei ffurfio yn 2010 i helpu i lanhau y Fenni, Llan-ffwyst a Maerdy.

Ar ôl cymryd cam yn ôl am ychydig flynyddoedd, ail-lansiodd y grŵp yn 2019 mewn ymateb i bryderon ynghylch lefelau cynyddol o sbwriel.

Yma rydym yn myfyrio ar ein llwyddiant a’r cymorth sydd wedi ein helpu i fynd o nerth i nerth.

Ym mis Mawrth 2025, mae’r grŵp wedi casglu 4,705 o sbwriel trwy gynnal digwyddiadau codi sbwriel unigol a misol.

Dywedwch am eich penderfyniad i ail-lansio yn 2019.

Daeth grŵp bach o aelodau ynghyd, am eu bod yn bryderus am y broblem gynyddol o sbwriel yn y Fenni a’r ardaloedd cyfagos. Sefydlodd Cadwch y Fenni’n Daclus dudalen Facebook yn gyflym a chynnal cyfarfod cyhoeddus i fesur y diddordeb yn y gymuned ehangach. Ein gobaith oedd y byddai rhai gwirfoddolwyr yn camu i’r adwy i ofalu am eu hardal eu hunain, eu stryd eu hunain neu ran ohoni, tra byddai eraill yn helpu i lanhau eu hoff fannau hardd.

Ar ôl y cyfarfod hwn, cynhaliwyd digwyddiad glanhau cymunedol a mynychodd dros 10 gwirfoddolwr, ac nid ydym wedi stopio ers hynny!

Mae ein digwyddiadau codi sbwriel misol yn denu rhwng 14 a 24 o wirfoddolwyr ar gyfartaledd, yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn ac ar y tywydd. Rydym hefyd wedi sefydlu prosiectau atal sbwriel ac mae gennym bron 900+ o ddilynwyr ar Facebook.

Pa heriau ydych chi wedi eu hwynebu ers ail-lansio?

Fel cymaint o grwpiau cymunedol, rydym wedi dibynnu ychydig yn ormod ar un neu ddau o wirfoddolwyr yn y gorffennol, sydd yn rhoi’r grŵp mewn sefyllfa beryglus!

Cawsom gyngor a chefnogaeth gan ein Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus lleol, wnaeth ein helpu i gymryd cam yn ôl, adolygu ein blaenoriaethau a newid y ffordd yr ydym yn trefnu’r grŵp.

Pa newidiadau ydych chi wedi eu gwneud i sicrhau bod y grŵp yn rhedeg yn ddidrafferth ac yn gynaliadwy?

Diolch i gymorth Cadwch Gymru’n Daclus, rydym wedi dysgu beth sydd wedi gweithio i grwpiau eraill yn Sir Fynwy ac ymhellach i ffwrdd.

Rydym wedi datblygu rolau newydd y gall pobl wahanol eu gwneud, fel arweinydd y cyfryngau cymdeithasol ac ysgrifennydd aelodaeth. Rydym hefyd wedi dangos i fwy o aelodau’r grŵp sut i arwain digwyddiadau codi sbwriel a chynnal briffiau diogelwch, sydd bellach yn cynnwys fêps. Mae hyn hefyd yn ein helpu i addasu i unrhyw newidiadau i bersonél yn y dyfodol.

Gyda bron 100 o aelodau, sut ydych chi’n cyfathrebu gyda’ch gwirfoddolwyr?

Yn y gorffennol, roedd y cyfrifoldeb am gyfathrebu ag aelodau fwy neu lai gydag un person. Er mwyn helpu i leddfu’r pwysau hyn, rydym wedi sefydlu cyfrif e-bost newydd y mae sawl person yn gallu ei ddefnyddio. Rydym hefyd wedi canfod bod WhatsApp yn offeryn hynod ddefnyddiol ac mae wedi lleihau’r angen am negeseuon e-bost mewnol. Mae dathlu ein cyflawniadau bob amser yn bwysig i gadw morâl yn uchel. Mae defnyddio’r system gofnodi eCyfrif Cymru a gweld yr ystadegau’n cronni ar y Map Effaith Gymunedol wedi helpu cryn dipyn gyda hyn.

Pa gymorth gawsoch chi o’r gymuned leol?

Rydym bob amser wedi bod â pherthynas gref gyda Chyngor y Dref. Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth gan Gyngor Sir Fynwy, yn arbennig eu Swyddog Seilwaith Gwyrdd ac Addysg ac Ymwybyddiaeth o Sbwriel, sydd yn mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd, yn cysylltu ag adnoddau’r cyngor ac sydd wedi gweithio gyda ni ar brosiectau penodol.

I ganfod mwy am Cadwch y Fenni’n Daclus, dilynwch nhw ar Facebook.

Gan fy mod wedi ymddeol yn ddiweddar, ymunais a Cadwch y Fenni’n Daclus ym mis Ionawr 2024 ac rwyf bellach ar y grŵp llywio sy’n cyfarfod ar ddydd Llun cyntaf y mis. Rwyf bob amser wedi bod yn berson prysur ac roeddwn eisiau cymryd rhan yn yr elfen gymdeithasol o godi sbwriel o amgylch y Fenni. Gydag amser ar fy nwylo, roedd angen i fi fod yn egnïol ac yn ymwybodol yn feddyliol o’m hamgylchedd. Rwy’n angerddol am ein hamgylchedd, ailgylchu a chynhesu byd-eang ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Kathy Hague Cydlynydd Cadwch y Fenni’n Daclus
Dechreuwch eich grŵp cymunedol eich hun

Gall ein swyddogion arbenigol eich tywys drwy’r broses gyfan.

Darganfod mwy
Ymunwch â’n Grŵp Facebook

Wedi ei gynllunio i gefnogi gwirfoddolwyr.

Dod yn aelod
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Ysgol Bryngwyn, Gum Drop Project

Darllen rhagor

Ymladdwyr gwastraff bwyd

Darllen rhagor
Mae llaw yn ychwanegu croen moron at fin compost sy'n llawn sbarion llysiau fel croen nionyn, croen banana, tomatos a ffa gwyrdd.

Ysgol Y Cymer, Rhondda Cynon Taf

Darllen rhagor
Rhes o geir wedi'u parcio wrth ochr ffordd.
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13