Prosiect bioamrywiaeth ysgol gyfan yw’r Pwyll a’r Tu Hwnt yn Ysgol Gynradd Gymunedol Prendergast sydd wedi trawsnewid pwll a oedd wedi gweld dyddiau gwell a chae nad oedd yn cael ei ddefnyddio i hafan bywyd gwyllt ffyniannus a gofod dysgu yn yr awyr agored. Roedd dros 400 o ddisgyblion, staff, teuluoedd a gwirfoddolwyr o’r gymuned yn rhan o’r prosiect.
Dywedwch wrthym am eich prosiect:
Ein nod oedd rhoi hwb i fioamrywiaeth ym mwll ein hysgol a oedd â mynegai biotig difrifol isel o 2. Gan sylweddoli potensial ehangach ein cae, Prendergardd, fe wnaethom arolygon gwaelodlin o bryfed, planhigion, adar, ystlumod, gwyfynod a mamaliaid, gan ddatgelu’r angen am newidiadau mawr. Gyda chymorth Pecyn Datblygu Mawr Cadwch Gymru’n Daclus, plannodd yr ysgol gyfan, teuluoedd a gwirfoddolwyr, goed, blodau gwyllt a phlanhigion pwll, creu banc gwenyn a gosod tai adar, ystlumod a draenogod. Mae’r canlyniadau cynnar yn addawol; neidiodd fynegai biotig y pwll i 52, mae amrywiaeth pryfed wedi cynyddu’n sylweddol ac mae ein camera llwybr hyd yn oed wedi dal bwncath.
Beth wnaethoch chi a sut wnaethoch chi gynnwys yr ysgol gyfan:
Dechreuodd ein prosiect gyda chyflwr gwael y pwll, ond yn fuan, ymestynnodd hyn i Brendergardd, ein cae ysgol nad oedd yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial a oedd unwaith yn ddôl ffyniannus. Dangosodd arolygon ar y dechrau bioamrywiaeth isel, gyda dim ond draenogod achlysurol a welir ar gamerâu natur. Yn benderfynol o’i drawsnewid, plannodd dros 400 o ddisgyblion, staff, teuluoedd a gwirfoddolwyr 400+ o goed, 600 o flodau gwyllt, 750 o fylbiau 50 o blanhigion pwyll. Yn ogystal, gwnaethon nhw greu ail wlypdir, adeiladon nhw fanc gwenyn a thai adar, ystlumod a draenogod. Addason ni pryd oedden ni’n torri porfa er mwyn annog blodau gwyllt. Gyda chymorth gan Gadwch Gymru’n Daclus ac arbenigwyr lleol, gwnaethom sicrhau y byddai ein hymdrechion yn rhoi buddion i gynaliadwyedd bywyd gwyll yn y tymor hir.
Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y targed hwn:
Targedon ni’r pwll oherwydd bod ei fynegai biotig o 2 wedi dangos ei fod yn wag ac nad oedd yn iach ac roedden ni’n creu y byddai ei atgyweirio yn dod â bywyd gwyllt yn ôl . Wrth i ni weithio, gwelon ni fod gan Brendergardd, ein cae ysgol mawr oedd heb ei ddefnyddio, fwy o botensial hyd yn oed. Datgelodd arolygon fioamrywiaeth isel a chloddiau tenau, ond, dangosodd gofnodion hanesyddol ei fod unwaith yn ddôl gyfoethog, gan ein hysbrydoli i adfer y pwll a’r cae i gefnogi mwy o rywogaethau a dod yn ystafell ddosbarth fywiog. Roedd hyn wedi cyd-fynd â’n noddau ar gyfer llesiant a chynaliadwyedd, gan feithrin cysylltiad â natur a thyfu bwyd heb niweidio bywyd gwyllt. Helpodd gymorth Cadwch Gymru’n Daclus ni i gyfuno creu cynefinoedd â thyfu bwyd ar gyfer ein Bocs Bwyd, gan gydbwyso anghenion pobl gydag anghenion natur.
Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned:
Mae’r prosiect hwn wedi trawsnewid ein cae a sut mae ein hysgol a’n cymuned yn cysylltu â natur. Mae wedi creu ystafell ddosbarth fyw lle mae disgyblion yn cael dysgu ymarferol drwy arolygon, plannu ac adeiladu cynefinoedd, gan hybu eu balchder, eu hapusrwydd a’u hyder. Ymunodd teuluoedd a gwirfoddolwyr gan gryfhau cysylltiadau cymunedol ac roedd rhannu cynnydd mewn gwasanaethau ac ar y cyfryngau cymdeithasol wedi sbarduno balchder ehangach. Mae Prendergardd bellach yn hafan fywyd gwyllt ffyniannus, gofod dysgu yn yr awyr agored, a hwb cymunedol, lle mae gweld draenogod, brogaod a bwncathod yn ysbrydoli rhyfeddod ac ymrwymiad a rennir i warchod a meithrin y gofod gwerthfawr hwn.
Sut wnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf:
Gwnaethom ddathlu llwyddiant drwy rannu ein cynnydd mewn gwasanaethau gyda chanlyniadau arolygon a ffotograffau, gan wahodd teuluoedd i ymuno â’r arolygon a phostio diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Roedd y dathliadau mwyaf yn yr awyr agored, gan weld mynegai biotig y pwll neidio o 2 i 52, darganfod dros 40 o rywogaethau o bryfed, a chipio ffilmiau o ddraenogod, llwynogod a bwncath ar gamera a oedd wedi cadarnhau ein heffaith. Yn y dyfodol, byddwn yn parhau arolygon rheolaidd i fonitro newid, datblygu gwelyau uchel ac ardaloedd tyfu bwyd i’n prosiect Bocs Bwyd a gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt. Ein nod yw gwneud Prendergardd yn ofod ar gyfer natur a dysgu sy’n esblygu’n barhaus, gan integreiddio addysg yn yr awyr agored ar draws y cwricwlwm ar gyfer disgyblion yn y dyfodol.
Rwy’n meddwl ei bod hi’n arbennig achos does dim llawer o ysgolion yn cael y cyfle i dyfu cymaint yn eu gerddi. Y rhan gorau i fi oedd treillio pyllau. Mae ein pwll mor iach nawr!
Ted Blwyddyn 6
Mae’r prosiect hwn wedi bod yn anhygoel i’n hysgol. Dechreuodd hi gyda’r pwll, ond tyfodd yn gyflym i rywbeth llawer mwy. Mae pob dosbarth wedi cymryd rhan, ac mae’r ysgol gyfan wedi gweld effaith eu gweithredoedd. Mae plannu coed, blodau a bylbiau, adeiladu cynefinoedd a chynnal arolygon wedi dod â’r disgyblion yn agosach at natur. Mae’r cyffro o weld draenogod, llwynogod a bwncath yn dangos pa mor bell rydym wedi dod. Yn ogystal, rydym yn ddiolchgar am garedigrwydd arbenigwyr lleol sydd wedi rhannu eu harbenigedd, gan ein helpu i wneud newidiadau parhaol a fydd yn rhoi buddion i’n disgyblion a bywyd gwyllt.
Miss Power Athrawes
Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.
Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.
Sut mae’n gweithioCael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Ysgol Bryngwyn, Gum Drop Project
Darllen rhagor
Gardd Lleoedd Lleol ar Gyfer Natur yng Nghanolfan Blant Integredig Blaina
Darllen rhagor
Siop gyfnewid gwisg ysgol
Darllen rhagor








