JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Ysgol Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg

Rhannu
Golwg agos o wely gardd yn llawn blodau gwyn, oren a phorffor.

Llwyddiant plant Llantwit!

Nod y prosiect oedd gwella cysylltiadau’r ysgol/gymuned yn ogystal â gwella ecoleg yr ardal leol trwy blannu mwy o goed a mannau blodau gwyllt o amgylch Llanilltud Fawr.

Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch gynnwys yr ysgol gyfan?

Ymunodd disgyblion a staff gwirfoddol o grwpiau oed/adrannau gwahanol gyda Plant Llantwit, grŵp cadwraeth amgylcheddol lleol, i blannu 420 o goed ger Fferm Rosedew. Cymerodd rieni ran yn y diwrnod hefyd – a’i wneud yn ddigwyddiad gwirioneddol gymunedol.

 

Sut a pham y penderfynwyd ar y targed hwn?

Yn dilyn llwyddiant ein gardd ysgol yn 2018/19, amlygodd ein Hadolygiad Amgylcheddol y dymuniad i ehangu cysylltiadau cymunedol a gwella ecoleg yn yr ardal leol.

 

Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?

Yn ei flwyddyn gyntaf, aeth Plant Llantwit y tu hwnt i’w darged o blannu 1,000 o goed. Oherwydd ei lwyddiant, mae’r prosiect yn ei ail flwyddyn ac rydym yn edrych ymlaen at wirfoddoli eto yr hydref hwn i blannu mwy o fylbiau yn y gymuned leol.

Yn ogystal â buddion amgylcheddol eithriadol plannu coed a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal, mae wedi cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad disgyblion a’r amgyffrediad o bobl ifanc yn y gymuned. Mae wedi dod â phobl hen ac ifanc ynghyd a thrwy hynny, gwerthfawrogiad o’r dirwedd wirioneddol drawiadol ar eu stepen drws.

 

Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?

Dathlwyd y cyflawniadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol (Twitter/Facebook) yn ogystal â’r papur newydd lleol (The Gem). Cafodd lluniau eu harddangos ar sgriniau teledu/hysbysfyrddau’r ysgol ac yng nghylchlythyr yr ysgol.

Ein camau nesaf yw parhau gyda’r bartneriaeth hon trwy wirfoddoli ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol yn ogystal â phlannu coed/bylbiau ar dir yr ysgol.

Roedd yn wych gweld cymaint o ddisgyblion, staff, rhieni a phobl o’r gymuned leol yn dod ynghyd i wneud i hyn ddigwydd. Mae wedi bod yn ddiwrnod mor werth chweil ac un fydd, gobeithio, yn parhau i’r dyfodol. Da iawn bawb!

Mr Rees Daearyddiaeth

Fe wnes i fwynhau’r diwrnod yn fawr – hyd yn oed os oedd yn wlyb ac yn fwdlyd! Roeddem yn gweithio’n ddal fel tîm yn plannu llawer o goed ac rwy’n falch fy mod wedi bod yn rhan o’r prosiect…mae gwybod fy mod wedi helpu i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned fydd yn parhau am flynyddoedd i ddod yn deimlad da.

Lauren Blwyddyn 12
Oes stori gennych yr hoffech ei rhannu?

Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.

Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Saith cam i lwyddiant
Mae grŵp o ddysgwyr mewn festiau gwelededd uchel yn cerdded i fyny set o risiau, yn cario bagiau coch mawr yn casglu sbwriel.

Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.

Sut mae’n gweithio
Rhannu

Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill

Lleihau gwastraff bwyd ledled Torfaen

Darllen rhagor
Dysgwyr yn sefyll o flaen cynhwysydd metel, yn gwisgo gwisg goch.

Dileu sbwriel a gwastraff: Partneriaeth Co-star

Darllen rhagor

Noddi Hybiau Sbwriel gan McDonald’s

Darllen rhagor
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13