Prosiect arbed ynni gydag Eco-Bwyllgor yr ysgol – arolwg a gwerthusiad ynni yr ysgol.
Beth wnaethoch chi a sut gwnaethoch chi gynnwys yr holl ysgol?
Fe wnaethom gwblhau arolwg ynni o amgylch adeiladau’r ysgol gan ddefnyddio synwyryddion gwres i weld ble roedd ynni a gwres yn dianc. Gwelsom hefyd ystafelloedd lle’r oedd golau yn cael ei adael ymlaen a drysau’n cael eu gadael ar agor. Ysgrifenwyd adroddiad ac argymell i’r SLT a’r llywodraethwyr ble dylai arian ac ynni gael ei arbed.
Sut a pham y penderfynwyd ar y targed hwn?
Gan ddefnyddio’r Adolygiad Amgylcheddol a chymorth gan Severn Wye a anfonodd weithiwr proffesiynol i’n helpu i gwblhau’r arolwg ynni a rhoi benthyg y cyfarpar i ni.
Sut mae’r prosiect wedi effeithio ar eich ysgol a’ch cymuned?
Nododd yr arolwg ynni sut, fel ysgol, y gallem o bosibl arbed £24,000 y flwyddyn ac, yn bwysicach, lleihau ein hallyriadau carbon o 154tCO2. Cafodd yr awgrymiadau eu rhannu’n ad-daliadau isel, canolig ac uchel, er mwyn i ni allu creu cynlluniau gweithredu hirdymor a thymor byr.
Sut gwnaethoch chi ddathlu llwyddiant a beth yw eich camau nesaf?
Canmolodd y llywodraethwyr a’r SLT eco-bwyllgor yr ysgol am eu cyflwyniad a’r awgrymiadau a dathlodd yr ysgol trwy roi gwybod i’r gymuned trwy ein cylchlythyr.
Fe wnes i fwynhau darganfod ble roedd ynni’n cael ei golli o fewn adeilad yr ysgol ond yn bwysicach fyth beth allem ni ei wneud amdano i leihau’r golled ynni a gwneud yr ysgol yn fwy effeithlon o ran ynni.
K. M-R Blwyddyn 11
Gweithiodd y disgyblion gyda'i gilydd fel tîm i nodi ble y gellid gwneud arbedion a faint o ynni a CO2 y gellid eu harbed bob blwyddyn. Roeddwn i mor falch o'r hyn a ddarganfuwyd ganddynt a sut y cyflwynont eu canfyddiadau a'u cynllun gweithredu.
H Carter-Jones Cydlynydd Eco-Sgolion
Llenwch ein ffurflen ac ysbrydolwch eraill.
Cyflwyno stori ysgogwyr newid
Dysgwch fwy o wybodaeth am y saith cam i lwyddiant.
Sut mae’n gweithioCael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Rhannu Pryderon Hinsawdd
Darllen rhagor
Hyrwyddo’r economi gylchol ym Mhrifysgol Bangor
Darllen rhagor
Dileu sbwriel a gwastraff: Partneriaeth Co-star
Darllen rhagor








