Stympiau sigaréts yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel yn y DU, sef 66% o’r holl eitemau sy’n cael eu gollwng, gyda dim ond un o bob wyth yn cael eu gwaredu’n iawn. Gallant gymryd hyd at 14 mlynedd i ddadelfennu, gan ollwng tocsinau sy’n niweidio bywyd gwyllt ac yn llygru ein hamgylchedd.
Mewn gwyliau, mae sbwriel sigaréts yn broblem benodol a’r unig fath na ellir ei glirio’n effeithiol o laswellt, gan adael miloedd o stympiau bach, niweidiol ar ôl sy’n difetha’r amgylchedd a’r profiad cyffredinol mewn gwyliau.
Roedd ‘Stamping Out Cigarette Litter’ yn ymgyrch amlflwyddyn a gyflwynwyd mewn partneriaeth â Cadwch Gymru’n Daclus. Roedd yr ymgyrch yn cynnwys sawl elfen, gan gynnwys ymgyrch deledu genedlaethol, cyfryngau digidol ac ymgyrch bosteri (yn cynnwys negeseuon ‘hwyaden’ i atgoffa mynychwyr yr ŵyl am bwysigrwydd gwaredu sigaréts yn iawn). Yn ogystal, gosodwyd biniau smygu trawiadol mewn lleoliadau strategol o amgylch safleoedd gwyliau a miloedd o Flychau Stympiau ecogyfeillgar, y gellir eu hailddefnyddio, yn cael eu dosbarthu am ddim i smygwyr.
Cynhaliwyd ymgyrch 2025 yng Nghymru mewn 3 gŵyl yng Nghymru:
- Pride Caerdydd
- Gŵyl y Dyn Gwyrdd
- Gŵyl Elvis ym Mhorthcawl
Gwisgodd staff a gwirfoddolwyr Cadwch Gymru’n Daclus grysau-t ‘Hwyaden’ yr ymgyrch ac roedden nhw’n bresennol yn y gwyliau i sgwrsio â mynychwyr yr ŵyl am waredu sigaréts mewn ffordd gyfrifol, yn dosbarthu bocsys stympiau am ddim ac yn cynnal arsylwadau o ymddygiad smygwyr.
Stympiau sigaréts yw un o'r mathau mwyaf parhaus a niweidiol o sbwriel, a gall gwyliau adael effaith barhaol ar ein mannau gwyrdd. Drwy ein hymgyrch ‘Stamping Out Cigarette Litter’ rydyn ni wedi dangos, gyda’r negeseuon cywir, offer ymarferol fel Blychau Stympiau, a sgyrsiau positif ar lawr gwlad, y gallwn helpu pobl i newid eu hymddygiad ac i ddiogelu amgylchedd Cymru i bawb ei fwynhau.
Louise Tambini Dirprwy Brif Weithredwr, Cadwch Gymru’n Daclus
A oedd y prosiect werth ei wneud?
Ystyriwyd bod yr ymgyrch yn hynod o effeithiol. Roedd y prif lwyddiannau’n cynnwys:
- Cododd ymwybyddiaeth o broblem sbwriel smygu a’r niwed y mae stympiau yn ei gael ar fywyd gwyllt.
- Helpodd i newid ymddygiad smygwyr, gyda nifer o smygwyr yn dal i ddefnyddio’r bocsys stympiau a roddwyd yn 2024, a dywedodd dros 80% o’r bobl a holwyd yn 2025 y byddent yn parhau i ddefnyddio eu bocs stympiau yn y dyfodol.
- Roedd yn galonogol y gwelwyd 67% o smygwyr yn Pride a 75% yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd yn gwaredu eu stympiau yn y ffordd iawn mewn bin smygu, bin arferol neu flwch llwch poced.
- Cafodd yr ymgyrch groeso mawr gan fynychwyr a threfnwyr ym mhob un o’r tair gŵyl, gan helpu i godi proffil Cadwch Gymru’n Daclus ymhlith cynulleidfaoedd newydd ac i roi cyfle i drafod sbwriel smygu, yn ogystal â’n mentrau eraill gyda mynychwyr.
- Fe wnaeth yr ymgyrch hon ein galluogi hefyd i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli newydd, fel cynnig tocynnau am ddim i’r ŵyl yn gyfnewid am ychydig oriau o ddosbarthu blychau llwch, a oedd yn ffordd wych o gwrdd â gwirfoddolwyr newydd ac i ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth.
Cael eich ysbrydoli gan straeon llwyddiant eraill
Prosiect Dôl Ysgol Gynradd Johnston
Darllen rhagor
Ysgol Dŵr y Felin Castell-nedd Port Talbot
Darllen rhagor
Rhannu Pryderon Hinsawdd
Darllen rhagor














