Ein harianwyr a'n partneriaid
Ynglŷn â’r prosiect
Mae’r prosict yn canolbwyntio ar warchod, adfer a dathlu coedwrych a choed hynafol mewn cymunedau trefol ledled Cymru. Ei nod yw dod â natur yn agosach at y mannau lle mae pobl yn byw, gan gryfhau mannau gwyrdd lleol tra’n cefnogi bioamrywiaeth, lles a balchder cymunedol.
Mae’r prosiect, a wnaed yn bosibl diolch i gefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â Choed Cadw, Addysg Oedolion Cymru, Llais y Goedwig ac awdurdodau lleol. Gyda’n gilydd, rydym yn cyd-ddylunio ac yn cyflwyno rhaglen o addysg, hyfforddiant a gweithredu cadwraeth ymarferol.
Ffocws allweddol y prosiect yw gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau lleol, ysgolion, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i ddatblygu sgiliau, rhannu gwybodaeth a grymuso pobl i gymryd rôl weithredol yn gofalu am eu hamgylchedd lleol. Trwy weithdai ymarferol, sesiynau hyfforddiant a chyfleoedd gwirfoddoli, rydym yn cefnogi pobl i adfer coedwrych, gofalu am goed a datblygu hyder mewn gweithredu amgylcheddol sy’n parhau y tu hwnt i’r prosiect ei hun.
Mae gweithgareddau yn digwydd yng:
- Nghaerdydd
- Caerffili
- Castell-nedd Port Talbot
- Wrecsam
Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio gyda chymunedau i adfer coedwrych, datblygu sgiliau, a helpu pobl i ailgysylltu â natur ar drothwy’r drws.
Archwiliwch sut mae prosiect y Goedwig Hir wedi tyfu dros amser ac wedi arwain at ddatblygu Prosiect y Goedwig Hir Drefol.
Y Goedwig Hir dros y blynyddoeddPam mae angen ein sylw ni ar goedwrych
Mae hyn yn adlewyrchu patrwm ehangach o ddryllio a diraddio, yn arbennig mewn ardaloedd trefol ac amdrefol lle gall pwysau datblygu, diffyg rheolaeth, a llai o ymwybyddiaeth i gyd wanhau rhwydweithiau coedwrych dros amser.
Heb ymyrraeth, mae’r coridorau gwyrdd hyn yn mynd yn fwyfwy ynysig, gan leihau eu gwerth i fywyd gwyllt a chyfyngu eu buddion i bobl a lleoedd.
Cysylltwch
Eisiau canfod mwy, cymryd rhan, neu ffurfio partneriaeth gyda ni? Cysylltwch â ni: longforest@keepwalestidy.cymru
Cysylltwch â ni







