Mae pedwar deg wyth o draethau a marinas ledled Cymru yn dathlu heddiw ar ôl cael eu henwi ymysg y gorau yn y byd yng Ngwobrau Arfordir Cymru 2026.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod 20 o draethau yng Nghymru wedi cyflawni statws y Faner Las, un o’r gwobrau mwyaf cydnabyddedig ar gyfer traethau, marinas a chychod, gan gydnabod nid yn unig safonau uchaf ansawdd dŵr, ond hefyd ansawdd uchel amwynderau, datblygu cynaliadwy twristiaeth, darpariaeth gwybodaeth, addysg amgylcheddol, diogelwch a mynediad, a rheolaeth safleoedd.
Mae 15 arall wedi derbyn y Wobr Glan Môr flaenllaw, sydd yn arwydd o ddarn glân, deniadol, wedi ei reoli’n dda o arfordir, tra bod 13 o draethau wedi cyflawni statws Gwobr Arfordir Gwyrdd, sydd yn cael ei rhoi i ‘drysorau cudd’ ar hyd arfordir Cymru i gydnabod eu hamgylchedd glân, ansawdd dŵr rhagorol a’u harddwch naturiol.
Sir Benfro yn arwain y ffordd unwaith eto
Mae gan Sir Benfro unwaith eto fwy o draethau sydd wedi ennill gwobrau nag unrhyw ardal arall yng Nghymru, gyda 10 Gwobr y Faner Las, gan gynnwys Saundersfoot a Thraeth y Castell Dinbych-y-pysgod, y ddau yn dathlu 26 mlynedd o Wobr y Faner Las, a 7 Gwobr Arfordir Gwyrdd, gan gynnwys Freshwater East a Maenorbŷr.
Mae traethau eraill yng Nghymru gyda statws Baner Las yn cynnwys Rest Bay, Trecco Bay a Marina Porthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cefn Sidan yn Sir Gaerfyrddin, a Borth, Llangrannog a Thresaith yng Ngheredigion.
Mae’r 20 o draethau yng Nghymru sydd wedi cyflawni gwobr y Faner Las, sy’n cael ei dyfarnu gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol (FEE), yn gorfod cydymffurfio â meini prawf penodol sydd yn sicrhau bod y traeth neu’r marina yn lân, yn ddiogel, ac yn cael ei reoli’n dda, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a denu ymwelwyr.
Dathlu canolfannau penigamp gyda’r Gwobrau Glan Môr
Bro Morgannwg a Cheredigion sydd ar frig y rhestr Gwobrau Glan Môr, gyda chwe traeth yr un. Mae hyn yn cynnwys Bae Whitmore, Bae Jackson a Phenarth ym Mro Morgannwg, a De Aberystwyth, Gogledd Aberystwyth a Harbwr Ceinewydd yng Ngheredigion, ynghyd ag Aberafan yng Nghastell-nedd Port Talbot, a Phrestatyn Canolog a Dwyrain y Rhyl yn Sir Ddinbych.
Mae’n wobr i draeth yn y DU yn unig, sydd ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sydd yn arwydd o ddarn glân, deniadol wedi ei reoli’n dda o arfordir, sy’n cael ei adnabod gan faner felen a glas amlwg.
Cydnabod ‘harddwch naturiol’ gyda Gwobrau Arfordir Gwyrdd
Cadwodd bob un o’r 13 traeth sydd wedi ennill Gwobr Arfordir Gwyrdd eu statws o 2025, wedi eu gwobrwyo am harddwch naturiol, ansawdd dŵr rhagorol a safon uchel addysg amgylcheddol. Ymysg y rhai sy’n cael eu cydnabod am fod yn lleoedd rhagorol i fwynhau treftadaeth arfordirol cyfoethog ac amrywiaeth mae Freshwater East, Maenorbŷr, a West Angle Bay yn Sir Benfro; Mwnt yng Ngheredigion, Bracelet Bay yn Abertawe a Phorth Arian in Rhoscolyn, Ynys Môn.
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi rheoli Gwobrau Arfordir Cymru ers dros 20 mlynedd. Maent yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr ac yn cael eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd. Mae’r Gwobrau yn arwydd bod traeth neu farina yn bodloni ac yn cynnal y safonau amgylcheddol uchaf ac yn cyrraedd targedau ansawdd dŵr llym, yn ogystal â sicrhau safonau uchel o ddarpariaeth gwybodaeth, addysg amgylcheddol, diogelwch a rheolaeth safle.
Mae’r Gwobrau yn wirfoddol ac yn cydnabod ymdrech enfawr staff a gwirfoddolwyr ledled Cymru, sydd wedi ymrwymo i ddiogelu a gwarchod ein tirwedd naturiol tra’n wynebu amgylchiadau cynyddol heriol.
Mae gan Gymru rai o’r traethau a’r marinas gorau yn y byd ac un o’r arfordiroedd mwyaf amrywiol, ac rydym wrth ein bodd yn gweld hyn yn cael ei gydnabod gyda blwyddyn lwyddiannus arall o Wobrau Arfordir Cymru.
Llongyfarchiadau i bob un o’r 48 lleoliad a ddyfarnwyd am eu glendid, diogelwch, addysg amgylcheddol a rheol’r safle’n dda. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod safonau uchel a chyson a hoffem ddiolch i staff, gwirfoddolwyr a phawb arall mewn safleoedd ledled Cymru sydd wedi gweithio mor galed i ddiogelu a gwarchod ein tirwedd naturiol tra’n wynebu amgylchiadau cynyddol heriol. Mae pob un o’r mannau hyn yn hardd, ond mae gweld y faner yn chwifio yn rhoi sicrwydd i ymwelwyr eu bod yn lân, yn ddiogel ac yn cael eu rheoli’n dda gyda chyfleusterau rhagorol hefyd.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus












