Heddiw (dydd Mawrth 26 Mai) mae Eco-Tots Cymru yn lansio -rhaglen gyffrous a grëwyd yn arbennig ar gyfer meithrinfeydd a lleoliadau sy’n gweithio gyda phlant dan bum mlwydd oed.
Mae Eco-Tots Cymru yn cynnig dull rhad ac am ddim, deniadol a hyblyg o addysg cynaliadwyedd i leoliadau’r blynyddoedd cynnar. Mae wedi’i gynllunio i helpu meithrin cysylltiad gydol oes â natur o gamau cynnar iawn dysgu.
Dathlodd seren y West End, Sophie Jenkins, lansiad Eco-Tots Cymru yn Rachael’s Playhouse yn Hirwaun, ger Aberdâr – un o 18 o leoliadau ledled Cymru sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o brofi’r rhaglen. Fel mam i ddau fachgen ifanc, mae Sophie’n deall pwysigrwydd rhoi cyfle i blant gysylltu â natur yn gynnar mewn bywyd.
Wedi’i ddylunio gydag arbenigwyr blynyddoedd cynnar
Wedi’i ariannu gan Sefydliad Moondance, mae Eco-Tots Cymru wedi’i ddylunio mewn cydweithrediad ag arbenigwyr blynyddoedd cynnar ledled Cymru. Mae’n cynnig ystod eang o adnoddau dwyieithog rhad ac am ddim, gan gynnwys caneuon, gweithgareddau ymarferol ac arweiniad y gellir eu teilwra i oedrannau a lleoliadau gwahanol.
Wrth wraidd Eco-Tots Cymru mae chwe thema dychmygus: Ceidwad Ynni, Arbed ac Ailddefnyddio, Dechrau o Hedyn, Tîm Taclus, Coed Campus a Bywyd Gwyllt Gwych – pob un yn amlygu ffyrdd gwahanol y gallwn ni ofalu am ein planed.
Gall lleoliadau sy’n cymryd rhan weithio tuag at Wobr Eco-Tots Cymru, sy’n dathlu arfer blynyddoedd cynnar cynaliadwy o ansawdd uchel. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gobeithio y bydd hwn yn dod yn nod dibynadwy o ragoriaeth ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Dysgu mwy
Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i’r adran Eco-Tots newydd sbon ar y wefan.
Parhewch i ddarllen...

48 lleoliad yng Nghymru yn cael eu coroni gyda’r traethau a’r marinas gorau yn y byd
Darllen rhagor
Lansio prosiect Y Goedwig Hir Drefol i adfer coedwrych Cymru
Darllen rhagor
Trefnwch gasgliad Prosiect Ailwampio gyda Cadwch Gymru’n Daclus
Darllen rhagor








