Rydym yn ôl gyda’r ymgyrch blynyddol ‘Creu Straeon Nid Sbwriel’, sydd yn annog pawb i fynd â’u sbwriel gartref a helpu i ddiogelu mannau awyr agored hardd Cymru yr haf hwn.
Wrth i filoedd o bobl fynd i draethau, parciau a mannau gwyrdd ledled Cymru, mae canlyniadau newydd arolwg o’n data GLÂN yn datgelu graddfa’r sbwriel sy’n parhau i effeithio ar ein hamgylchedd.
Mae’r canfyddiadau yn dangos bod:
- 79.4% o ardaloedd a arolygwyd y cynnwys papurau melysion a siocledi.
- 72.6% yn cynnwys sbwriel diodydd.
- 56.6% wedi eu heffeithio gan becynnau bwyd brys.
Ymgyrch newydd wedi’i lansio ar gyfer 2026
Er gwaethaf ymwybyddiaeth gynyddol ac ymdrechion gwirfoddolwyr ledled Cymru, mae sbwriel yn parhau yn broblem sylweddol yn ystod misoedd prysur yr haf.
Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, cafodd ymgyrch ‘Creu Straeon, Nid Sbwriel ei lansio ar Draeth Coney ym Mhorthcawl ar 30 Gorffennaf, lle daeth staff Cadwch Gymru’n Daclus ynghyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl Wombles a Fish Net Zero i siarad ag ymwelwyr am gymryd cyfrifoldeb dros eu sbwriel eu hunain. Cafodd bagiau sbwriel bioddiraddadwy eu rhoi allan, yn atgoffa pawb os yw biniau’n llawn, y dylent fynd â’u sbwriel gartref.
Mae’r ffigurau hyn unwaith eto yn siomedig iawn. Mae Cymru wedi ei bendithio â rhai o’r traethau, y parciau a’r mannau gwyrdd harddaf unrhyw le yn y byd, ac mae gennym i gyd gyfrifoldeb dros ofalu amdanynt. Mae modd osgoi taflu sbwriel yn gyfan gwbl. Os yw bin yn llawn, ewch â’ch sbwriel gartref a’i waredu yn gyfrifol. Mae’n weithred syml, ond yn un sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Roedd y lansiad hefyd yn dathlu gwaith gwirfoddolwyr lleol, gan gynnwys y Porthcawl Wombles, sydd wedi casglu a gwaredu mwy na 10 tunnell o sbwriel a malurion o Draeth Coney dros y pum mlynedd diwethaf.
Helpwch ni i ‘Greu Straeon, Nid Sbwriel’ yr haf hwn
Bydd yr ymgyrch ‘Creu Straeon, Nid Sbwriel’ yn cael ei gynnal trwy gydol yr haf hyd at ail wythnos mis Medi, gan atgoffa pawb i:
- Gynllunio ymlaen llaw a mynd â bag ar gyfer eich sbwriel.
- Dewis eitemau amldro lle y bo’n bosibl.
- Defnyddio biniau os ydynt ar gael.
- Os yw’r biniau’n llawn, ewch â’ch sbwriel gartref.
Mae’r diwrnodau gorau o haf yn creu straeon sy’n parhau, nid sbwriel.
Os ydych chi allan yn mwynhau Cymru yr haf hwn, rhannwch eich hoff eiliadau gan ddefnyddio #CreuStraeonNidSbwriel a helpu i ysbrydoli eraill i gadw Cymru’n hardd.
Gallwch hefyd helpu i ledaenu’r neges drwy ymweld â’n gwefan Brandbag, lle byddwch yn dod o hyd i bosteri a graffeg ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael i’w lawrlwytho a’u rhannu.

Parhewch i ddarllen...

Mae 330 o barciau a mannau gwyrdd yng Nghymru, y nifer uchaf erioed, wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Baner Werdd 2026 wrth i’r wobr ryngwladol ddathlu 30 mlynedd
Darllen rhagor
Gweinidog Cabinet a Chymdeithas Bêl-droed Cymru yn uno i alw am haf o godi sbwriel
Darllen rhagor
Mae mwy na thri chwarter o ysgolion ledled Cymru yn cymryd camau dros yr amgylchedd
Darllen rhagor








