CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillPobl ifanc

Enwi Cadwch Gymru’n Daclus fel ‘Busnes Gwyrdd y Flwyddyn

Rhannu

Derbyniwyd yr anrhydedd uchaf yng Ngwobrau Busnes Caerdydd 2022 wythnos diwethaf yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Roeddem yn wynebu cystadleuaeth gref gan yr enwebeion eraill, Creative Spaces Design, Fleet-E a Think Air am wobr ‘Busnes Gwyrdd y Flwyddyn’ a noddir gan Genesis Biosciences.

Mae 2022 yn nodi Hanner Can Mlwyddiant Cadwch Gymru’n Daclus ac mae cael ‘Busnes Gwyrdd y Flwyddyn’ yn brawf o waith gwych staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid Cadwch Gymru’n Daclus yn gwella a diogelu amgylchedd Cymru.

Dros yr hanner can mlynedd diwethaf, rydym wedi ehangu a gwella’r gwaith yr ydym yn ei wneud, o fod yn gasglwyr sbwriel a grëwyd i ‘Gadw Cymru’n Daclus’ nôl ym 1972, i fod yn sefydliad sydd bellach yn cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed ar draws Cymru i wella eu hamgylchedd lleol er budd cymdeithasol, llesiant, iechyd ac economaidd.

Mae’n wych gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod a’i ddathlu ar ein hanner can mlwyddiant mewn digwyddiad mor flaenllaw.

Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Ar ddechrau 2022, lansiwyd strategaeth uchelgeisiol ar gyfer y degawd sydd yn addo parhau i weithio i ddiogelu a hyrwyddo amgylchedd naturiol Cymru.

Darparu gofod sydd yn teimlo’n ddiogel, yn lân ac yn wyrdd i holl gymunedau Cymru ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol trwy:

  • ddileu sbwriel a gwastraff
  • gosod safonau ar gyfer ansawdd amgylcheddol
  • creu ac adfer mannau gwyrdd
  • grymuso pobl ifanc trwy roi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth iddynt i sbarduno newid amgylcheddol cadarnhaol

Mae ein cymunedau’n chwarae rhan allweddol yn cyflawni’r gwaith yma. Mae ein gwirfoddolwyr cymunedol, ein sefydliadau partner a’n partneriaid ariannu i gyd yn elfennau pwysig o’n gallu i gyflawni ein gweledigaeth o Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.

Mae Gwobrau Busnes Caerdydd eleni wedi dangos yr amrywiaeth o gwmnïau o ansawdd uchel sydd yn ffurfio’r gymuned fusnes yn ein prifddinas a’r pwysigrwydd y maent yn dal i’w roi i arloesi a thwf cynaliadwy.

Ar ran Cyngor Caerdydd, hoffwn longyfarch y cwmnïau buddugol a diolch iddynt am y cyfraniad y maent yn ei wneud i’r economi a’n cymunedau, a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd

Trefnir gwobrau Busnes Caerdydd gan Grapevine Event Management a chawsant eu noddi a’u cefnogi gan: Euroclad Group, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Charles Stanley, Genesis Biosciences, Landsec, Cyflog Byw i Gymru, Ogi, Vindico, Croeso Cymru, United Worldwide Logistics, Stills, Lexon, a Business News Wales.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13