JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruPolisi ac ymchwilSbwriel a gwastraff

Pa mor lân yw ein strydoedd yng Nghymru?

Rhannu

Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad blynyddol annibynnol diweddaraf ar lendid strydoedd yng Nghymru. Rydym yn arolygu miloedd o strydoedd ym mhob cwr o’r wlad ac wedi bod yn gwneud hynny ers 2007.

Os ydych yn chwilio am y data sbwriel stryd mwyaf diweddar a dibynadwy ar gyfer Cymru, rydych yn y lle iawn! Rydym yn creu’r unig fesur cyson a chadarn o ddata sbwriel stryd ar gyfer Cymru gyfan.

Mae ein hadroddiad unigryw wedi datgelu bod sbwriel smygu wedi cael ei ganfod ar dair o bob pedair stryd ar draws y wlad yn 2022-23. Er gwaethaf gwelliannau sylweddol mewn sbwriel yn ymwneud â smygu ers i arolygon ddechrau, canfuwyd bonion sigaréts, e-sigaréts, pecynnau a blaen hidlwyr ar 76% o strydoedd eleni. E-sigaréts untro yw’r bwgan newydd a enwir am y tro cyntaf yn adroddiad eleni.

Mae ‘Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd?’ yn dod â chanlyniadau ynghyd o filoedd o arolygon glendid strydoedd i roi ‘cipolwg’ ar faterion sbwriel ac ansawdd amgylcheddol eraill.

Felly, pa mor lân yw ein strydoedd?

Mae prif ganlyniadau adroddiad Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd? yn cynnwys y canlynol:

  • Mae 96% o strydoedd ar Radd B ac yn uwch. Mae Gradd B ac yn uwch yn golygu bod gan y strydoedd lefel dderbyniol o lendid.
  • Cofnodwyd baw cŵn ar 6% o strydoedd – y ffigur isaf ers i arolygon glendid strydoedd ddechrau yn 2007-08.
  • Sbwriel sydd yn cael ei ollwng gan gerddwyr yw’r ffynhonnell fwyaf cyffredin o hyd.
  • Canfuwyd pecynnau bwyd a diod wrth fynd ar 65% o strydoedd.
  • Sbwriel smygu yw’r math mwyaf cyffredin o sbwriel, wedi ei ganfod ar dair o bob pedair stryd. Nodwyd tuedd newydd – mae amcangyfrifon cynnar yn awgrymu bod e-sigaréts wedi eu canfod ar 6% o strydoedd.
  • Roedd 7,450 o weipiau gwlyb wedi eu taflu ar strydoedd yng Nghymru ar unrhyw un adeg.

Darllenwch ein hadroddiad ‘Pa Mor Lân Yw Ein Strydoedd? 2022-23’ a methodoleg yr arolwg.

Gweithredwch yn eich cymuned!

Gydag ymgyrch blynyddol Gwanwyn Glân Cymru ar y gorwel, rydym yn galw ar bawb i fynd allan a gweithredu yn eich cymuned rhwng 17 Mawrth – 2 Ebrill.

Helpwch i fynd i’r afael â sbwriel ar ein strydoedd, ein mannau gwyrdd a’n traethau trwy wneud addewid i gasglu bag o sbwriel (neu fwy).

Gall pawb wneud gwahaniaeth mawr i’n hamgylchedd.

Cofrestrwch eich digwyddiad Gwanwyn Glân Cymru eich hun.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13