JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruGwirfoddoliI fusnesauPolisi ac ymchwilSbwriel a gwastraff

Angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â’r argyfwng sbwriel cynyddol

Rhannu Lawrlwythiau

Heddiw, rydym yn ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog i amlygu ar frys yr argyfwng sbwriel yr ydym yn ei wynebu yng Nghymru ac i alw am weithredu ar unwaith i atal niwed hirdymor i’n cymunedau a’r amgylchedd.

Ers 2007, mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn olrhain lefelau sbwriel ar draws y wlad. Er ein bod wedi gweld gwelliannau dros y blynyddoedd, rydym yn hynod bryderus am y sefyllfa sydd bellach yn gwaethygu ar gyfradd sy’n peri pryder.

Mae sbwriel yn llawer mwy na rhywbeth sy’n boenus i edrych arno ac nid yw strydoedd glân yn ymwneud ag estheteg yn unig; maent yn hanfodol i ddatblygu balchder cymunedol ac ysgogi twf economaidd. Unwaith mae esgeulustod yn gafael, mae’n mynd yn anodd iawn i’w wrthdroi.

Mae ein llythyr yn gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd sawl cam gweithredu hanfodol:

  • Ymrwymo i gynllun cenedlaethol: Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chyhoeddi’r cynllun hwn, gan sicrhau bod gan y cynghorau y strategaethau sydd eu hangen arnynt i fynd i’r afael â’r materion hyn yn uniongyrchol.
  • Amddiffyn cyllidebau: Rydym yn deall bod cyllidebau’n dynn, ond mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi mewn glanhau strydoedd, atal sbwriel, addysgu’r cyhoedd, a gorfodi.
  • Cyflymu’r cynllun dychwelyd ernes: Rydym yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes ‘cynhwysol’ erbyn 2027, ond mae’n rhaid i’r cynllun hwn gynnwys gwydr.
  • Gweithredu Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) yn gyflym: Dylai’r cynllun EPR gael ei gyflwyno cyn gynted â phosibl, gan sicrhau bod cynhyrchwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros effaith amgylcheddol eu cynnyrch trwy gydol cylch bywyd y cynnyrch hwnnw.
  • Archwilio dulliau ariannol newydd: Dylem archwilio modelau ariannu newydd i gefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector i fynd i’r afael â phroblemau sbwriel parhaus. Gallai hyn gynnwys Ardoll Ymwelwyr, yn ogystal ag ardollau ar gwpanau untro a phlastigau y gellir eu hosgoi.

Mae hon yn foment dyngedfennol i gymunedau Cymru, ac mae’n rhaid i ni weithredu’n gyflym ac yn gadarn i’w hamddiffyn. Y newyddion da yw bod gennym yr offer yn barod i wneud gwahaniaeth, ond mae angen ymrwymiad a chydweithredu gan lywodraethau cenedlaethol a lleol i sicrhau dyfodol glanach, gwyrddach i Gymru

Darllenwch y llythyr llawn isod.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13