Gall defnyddwyr yng Nghaerdydd gael 50c am bob cwpan papur maen nhw’n dychwelyd i’r siop mewn ymgyrch newydd yng nghanol y ddinas
Mae menter Deallusrwydd Artiffisial arloesol i fynd i’r afael â gwastraff cwpanau papur yng nghanol Caerdydd yn cael ei lansio heddiw, wrth i bartneriaid Cadwch Gymru’n Daclus ffurfio partneriaeth gyda’r Cynllun Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau a’r ap didoli gwastraff arloesol, Bower.
Bydd y peilot dros dri mis yn galluogi preswylwyr, ymwelwyr â chymudwyr yng Nghaerdydd i ailgylchu eu cwpanau papur mewn canghennau o Caffè Nero, Costa Coffee, Greggs, McDonald’s a Pret a Manger sy’n rhan o’r cynllun am wobr o 50c.
Gall cwsmeriaid sy’n prynu diodydd mewn cwpanau papur o’r manwerthwyr hyn lawrlwytho ap Bower, sganio eu cwpan gyda’r sganiwr Deallusrwydd Artiffisial, a’i ddychwelyd i gangen sy’n rhan o’r cynllun i gael ei ailgylchu’n iawn. Bydd pob cwpan sy’n cael ei ddychwelyd yn ennill 50c trwy’r ap, sydd yn ysgogi gwaredu ac yn sicrhau bod y cwpanau’n cael eu hailgylchu’n iawn.
Mae’r fenter yn gydweithrediad unigryw rhwng brandiau sy’n cystadlu, gan uno yn y frwydr yn erbyn gwastraff tirlenwi. Er bod y defnydd o gwpanau aml-dro yn cynyddu, mae’r defnydd o gwpanau untro yn dal yn her fawr, gyda’r DU yn gwaredu tua 2.5 biliwn o gwpanau papur yn flynyddol – llawer ohonynt yn mynd i safleoedd tirlenwi fel sbwriel am nad ydyn nhw’n cael eu hailgylchu’n iawn.
Nid oes llawer o ddefnyddwyr yn ymwybodol na ellir ailgylchu cwpanau papur gydag ailgylchu arferol, ond bod ailgylchu arbennig ar gyfer cwpanau yn bosibl. Mae’r rhan fwyaf o gwpanau papur wedi eu gwneud o ffibr o ansawdd uchel, y gellir ei ailgylchu sawl gwaith yn gynnyrch newydd, gan gynnwys deunydd pacio papur ar gyfer brandiau fel Mulberry, Selfridges, a chardiau Hallmark. Mae’r leinin plastig yn cael ei wahanu a’i ailddefyddio yng Nghymru ar gyfer eitemau fel dodrefn gardd a chlymau ceblau, tra bod y ffibrau yn cael eu prosesu mewn melin bapur arbenigol yn ardal y Llynnoedd.
Yn Cadwch Gymru’n Daclus, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â gwastraff a diogelu ein hamgylchedd. Mae’r cynllun hwn yn gyfle rhagorol i Gaerdydd arwain y ffordd yn ailgylchu cwpanau, gan ddangos y gall gweithredoedd bach – fel dychwelyd cwpan wedi ei ddefnyddio – arwain at effaith fawr. Trwy gydweithio ar draws diwydiannau ac ymgysylltu â’r cyhoedd, gallwn leihau gwastraff, cadw deunyddiau gwerthfawr mewn cylchrediad, a symud tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy i Gymru.
Owen Derbyshire Prif Swyddog Gweithredol Cadwch Gymru’n Daclus
Mae’r Cynllun Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau, a sefydlwyd yn 2018, yn ymdrech ar draws y diwydiant, sydd wedi ei gynllunio i gynyddu ailgylchu cwpanau ledled y DU trwy ariannu mentrau ar gyfer casglu gwastraff a’i wneud yn haws i fusnesau a defnyddwyr ailgylchu’n gyfrifol.
Rydym wrth ein bodd yn cefnogi’r fenter arloesol hon, sydd yn gwneud ailgylchu cwpanau yn haws ac yn fwy gwerth chweil i breswylwyr Caerdydd. Trwy ariannu’r prosiect hwn, rydym yn helpu i sbarduno newid gwirioneddol yn arferion ailgylchu defnyddwyr tra’n sicrhau bod deunyddiau gwerthfawr cwpanau’n cael eu cadw mewn cylchrediad. Mae cydweithredu yn allweddol i fynd i’r afael â gwastraff, ac mae’r peilot hwn yn dangos sut y gall brandiau, technoleg a chymunedau ddod ynghyd i greu atebion ymarferol sy’n ysgogi effaith amgylcheddol wirioneddol.
Hannah Osman Rheolwr Cenedlaethol Ailgylchu Cwpanau yn Valpak
Rydym yn llawn cyffro am y potensial i ehangu’r fenter hon, gan ei wneud yn haws fyth i bobl ledled y DU ailgylchu eu cwpanau tra’n gael eu gwobrwyo trwy Bower.
Mae Bower, ap didoli gwastraff penigamp, yn gweithio gyda mwy na 550 o frandiau ac mae ganddo 700,000 o ddefnyddwyr yn fyd-eang. Bydd ei dechnoleg yn helpu i olrhain cyfranogiad yn y cynllun a gwobrwyo preswylwyr Caerdydd am helpu i greu dinas lanach, wyrddach. Gellir lawrlwytho’r ap trwy Google Play a’r App Store.
Rydym yn llawn cyffro i gefnogi menter arloesol Caerdydd, sydd yn cynnwys cynllun ailgylchu cwpanau papur cyntaf y byd wedi ei bweru gan Ddeallusrwydd Artiffisial. Diolch i dechnoleg canfod gwrthrychau Gwybodaeth Artiffisial, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â Google, gall defnyddywr nodi ac ailgylchu eu cwpanau papur ar unwaith a chael eu gwobrwyo am eu gweithredoedd da. Mae’r cydweithrediad hwn yn dangos sut gall technoleg, brandiau a chymunedau ddod ynghyd i fynd i’r afael â gwastraff a sbarduno newid amgylcheddol gwirioneddol.
Berfin Mert Cyd-sylfeinydd Bower
Mae’r peilot yn cael ei gynnal o 22 Ebrill am dri mis, gan roi cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr Caerdydd gymryd rhan mewn menter ailgylchu arloesol. Lawrlwythwch ap Bower, sganiwch, dychwelwch, a chael eich gwobrwyo tra’n helpu i Gadw Cymru’n Daclus.
Gweler y rhestr lawn o safleoedd sy’n cymryd rhan:
- Caffe Nero, Canolfan Siopa Dewi Sant
- Caffe Nero, Heol y Drindod
- Costa Coffee, Yr Ais
- Costa Coffee, Canolfan Siopa Dewi Sant
- Costa Coffee, Heol y Frenhines
- Costa Coffee, Plas y Parc
- Costa Coffee, Gorsaf Drenau Caerdydd Canolog
- Greggs, Sgwâr Canolog
- Greggs, Yr Ais
- Greggs, Stryd Caroline
- Greggs, Canolfan Siopa Dewi Sant
- Greggs, St Marys St
- Greggs, 34 Queen St
- Greggs, 140 Queen St
- Greggs, Plas y Parc
- Greggs, Prifysgol Caerdydd Plas y Parc
- McDonald’s, Heol Eglwys Fair
- McDonald’s, Heol y Frenhines
- Pret a Manger, Sgwâr Canolog
- Pret a Manger, Canolfan Siopa Dewi Sant












