Ein Hanes
Gellir olrhain tarddiad Cadwch Gymru’n Daclus yn ôl i’r 1950au, pan arweiniodd balchder yn y DU ar ôl y rhyfel y ffordd wrth fynd i’r afael â phroblem gynyddol sbwriel. Ymatebodd Sefydliadau’r Merched trwy greu grŵp Cadwch Gymru’n Daclus.
Ewch ymlaen i 1972, pan gafodd ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus ei lansio.
Dechreuodd fel Cyfarwyddiaeth Cymru o’r Tidy Group nes i ddatganoli ddechrau ac yn 2005, daeth Cadwch Gymru’n Daclus yn sefydliad elusennol annibynnol.
Ein Gweledigaeth
Mae Cymru Hardd 2022-20230 yn amlinellu sut byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, sefydliadau partner, grwpiau cymunedol a’n byddin o wirfoddolwyr i greu gwlad yr ydym i gyd yn falch o’i galw’n hardd.
Mae’r strategaeth yn un syml sydd yn addo dileu sbwriel a gwastraff, gosod safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol, creu ac adfer mannau gwyrdd a grymuso ieuenctid ar faterion amgylcheddol. Edrychwch ar y cynllun drosoch chi eich hun.
Darllen ein Strategaeth
Ein Heffaith
Pob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad sy’n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi’i chyflawni drwy gydweithio â’n gwirfoddolwyr i wella’r amgylchedd lleol.
Darllen ein Adroddiad Effaith 2024-25



















