JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

‘Gwneud Gwahaniaeth’ gyda Cadwch Gymru’n Daclus a BBC Radio Wales

Rhannu

Rydym yn ymuno â BBC Radio Wales am gyfres o ddigwyddiadau codi sbwriel i helpu i wneud Cymru’n lle gwyrddach, mwy diogel a glanach fel rhan o ymgyrch ‘Gwneud Gwahaniaeth’,

Gyda’n gilydd, rydym yn annog gwirfoddolwyr i ymuno gyda rhai o enwau mwyaf Radio Wales mewn ymgyrchoedd glanhau yng Nghaerdydd, Abertawe a Bae Colwyn.

Rydym eisiau pwysleisio pa mor hawdd ydyw i ofalu am eich ardal leol trwy ddathlu’r rhwydwaith cynyddol o hybiau codi sbwriel ar hyd a lled Cymru.

Mae dros 100 o hybiau eisoes wedi cael eu sefydlu fel rhan o Caru Cymru, ein menter newydd i ddileu sbwriel a gwastraff.  Maent yn galluogi darpar arwyr sbwriel i gael benthyg cyfarpar am ddim i gynnal ymgyrch glanhau diogel.

Mae’n gyfle gwych i BBC Radio Wales wneud gwahaniaeth trwy helpu yn y digwyddiadau hyn. Rwy’n gwybod bod y cyflwynwyr yn awyddus iawn ac yn edrych ymlaen at gyfarfod â rhai o’r gwirfoddolwyr yn yr ymgyrchoedd glanhau hyn - rhai ohonynt yn gweithio’n galed drwy’r flwyddyn i gadw Cymru'n rhydd rhag sbwriel.

Colin Paterson Pennaeth BBC Radio Wales a Chwaraeon

Rwy’n edrych ymlaen at helpu yn y digwyddiadau glanhau hyn ac rwy’n gwybod bod fy nghyd-gyflwynwyr yn teimlo yr un peth. Mae’n wych gallu chwarae ein rhan i helpu i gadw Cymru’n daclus. Gobeithio eich gweld chi i gyd yno!

Wynne Evans Cyflwynydd, BBC Radio Wales

Cael eich ysbrydoli

Trwy gydol mis Medi a Hydref, bydd gan wrandäwyr gyfle hefyd i glywed straeon ysbrydoledig gan rai o wirfoddolwyr presennol Cadwch Gymru’n Daclus, sydd yn gweithio’n ddiflino i gadw eu hamgylchedd lleol yn lân.

Rydym wrth ein boddau i fod yn ymuno â BBC Radio Wales ar y digwyddiadau glanhau cyffrous hyn. Mae’n gyfle gwych i dynnu sylw at rai o’n gwirfoddolwyr rhagorol a dangos pa mor hawdd yw gofalu am y man lle’r ydych yn byw. Gobeithio y bydd pobl o bob oed yn cael eu hysbrydoli i ymuno â ni dros yr wythnosau i ddod. Dewch i ni ddangos cariad tuag at ein gwlad hardd yr hydref hwn.

Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Mae mwy o wybodaeth ynghylch Gwneud Gwahaniaeth ar gael ar wefan BBC Radio Wales – www.bbc.co.uk/radiowales

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13