JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillSbwriel a gwastraff

Gwnewch y peth iawn a ‘Gadael olion pawennau yn unig’

Rhannu

Pawb sy’n caru cŵn yng Nghymru!

Rydym wrth ein bodd yn lansio ein hymgyrch cenedlaethol newydd i annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a ‘gadael olion pawennau yn unig’ pan fyddwch allan gyda’ch anifeiliaid anwes.

Er bod naw allan o ddeg o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw cŵn yn dal yn broblem fawr ar draws y wlad.  A wyddoch chi fod baw cŵn nid yn unig yn niweidio iechyd dynol, ond iechyd anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes eraill hefyd?

Gall baw cŵn sydd yn cael ei adael ar ôl gario bacteria niweidiol sydd yn gallu aros yn y pridd ymhell ar ôl iddo ddadelfennu.

Er mwyn brwydro yn erbyn baw cŵn, bydd arwyddion pinc llachar, posteri, stensiliau pawennau a sticeri bin yn ymddangos ar draws y wlad yn fuan i annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn.  I’n helpu ni i arwain y ffordd, mae pum ci da iawn sydd yn hoff o’r camera wedi rhoi benthyg eu pawennau i ni ac maent wedi eu cynnwys yn ein hymgyrch!

Dyma Wilson, Ralph, Jax, Buster a Reuben…

Mae Wilson wrth ei fodd yn cael cwtsh a mwythau a phobl yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.

Mae Ralph yn dweud ‘Gall baw cŵn niweidio pobl ac anifeiliaid anwes.’

Mae Buster yn falch o’ch gweld yn glanhau ar ôl eich anifeiliaid anwes.

Mae Jax yn dweud ‘Lledaenwch y gair nid y baw’. (Pwy all ddweud na wrth yr wyneb yna?)

Mae Reuben yn dweud ‘Perchnogion call sy’n clirio ble bynnag y maent yn crwydro’.

Rydym yn llawn cyffro yn lansio’r ymgyrch pwysig hwn gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol. Fel cenedl sydd yn caru cŵn, dylem i gyd fod yn ymwybodol nad llanast amhleserus yn unig yw baw ci, gall fod yn beryglus.

Rydym yn annog y lleiafrif bach o berchnogion cŵn anghyfrifol i wneud y peth iawn. Trwy beidio â chodi baw eich ci, gallech fod yn peryglu pobl, anifeiliaid fferm, a’n hanifeiliaid anwes annwyl. Bagiwch, biniwch a gadael olion pawen yn unig pan fyddwch allan.

Lesley Jones Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus

Lledaenwch y gair nid y baw

Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Gallwch gymryd rhan yn ein hymgyrch trwy fynd i Becyn Cymorth yr Ymgyrch – siop un stop lle gallwch lawrlwytho ac addasu posteri, sticeri, graffeg cyfryngau cymdeithasol a mwy!

Rhannu ar eich rhwydweithiau chi gyda’r hashnodau #BagiwchBiniwch #CaruCymru

Mynd i’r pecyn cymorth

 

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13