JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Iechyd a diogelwch

Dyma lle gallwch gael gafael ar yr holl gyngor a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fynd allan a dechrau gwneud gwahaniaeth tra’n cadw eich hun ac eraill yn ddiogel.

Noder, ni all Cadwch Gymru’n Daclus fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am unrhyw anaf personol neu niwed a ddioddefwyd o ganlyniad i gymryd rhan mewn digwyddiad codi sbwriel neu unrhyw weithgaredd arall.

Three female volunteers in hi-vis vests with gloves, red bags and litter pickers.

Asesu’r risgiau

Cyn dechrau gweithgaredd, mae’n bwysig ymweld â’r safle a chynnal asesiad risg. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod unrhyw risgiau’n cael eu nodi ac yna’n cael eu dileu neu eu rheoli’n briodol.

Wrth feddwl am eich asesiad risg, cofiwch:

Mae perygl yn unrhyw beth a allai achosi niwed, fel traffig ffordd, eitemau miniog, gweithio ar uchder ac ati; 

risg yw’r siawns, uchel neu isel, o rywun yn cael ei niweidio gan y perygl. 

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynghori dilyn pum cam syml.  

Cam 1

Nodi’r peryglon

Edrychwch ar eich ardal waith arfaethedig a nodwch achosion niwed neu berygl posibl. Rhowch flaenoriaeth i’r peryglon, gan ganolbwyntio ar y rhai a allai achosi’r niwed mwyaf neu effeithio ar sawl person.

Dolenni a lawrlwythiadau defnyddiolAwdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Cam 2

Nodi pwy sy’n wynebu risg

Gallai pobl ifanc, gwirfoddolwyr am y tro cyntaf, pobl â chyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli, mamau newydd neu feichiog wynebu’r risg mwyaf. Peidiwch anghofio ystyried aelodau o’r cyhoedd a allai hefyd fod yn bresennol yn eich ardal waith arfaethedig.

Dolenni a lawrlwythiadau defnyddiolAwdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Cam 3

Cofnodi eich canfyddiadau

Yn syml: pa mor debygol yw’r perygl o achosi niwed a beth sydd angen i chi ei wneud i leihau’r risg? Mae’n bwysig cydnabod y gall rhai risgiau barhau ar ôl rhoi’r holl fesurau rheoli ar waith.  

Bydd angen i chi roi blaenoriaeth i’r risgiau sydd yn uchel a pharhau i fod yn ymwybodol o’r rheiny sydd yn ganolig ac yn isel. Dylid wedyn rheoli’r risgiau gan ddefnyddio’r canlynol:  

  • Rhoi cynnig ar opsiwn â llai o risg 
  • Atal mynediad at berygl 
  • Lleihau cyswllt â’r perygl 
Dolenni a lawrlwythiadau defnyddiolLawrlwythiwch canllawiau ar sut i asesu risg
Cam 4

Gwerthuso’r risgiau, a sicrhau bod mesurau rheoli digonol ar waith

Mae’n rhaid i chi gofnodi eich canfyddiadau. Rydym wedi creu templedi i helpu, yn cynnwys asesiad risg gwag ac enghraifft o asesiad risg sy’n cynnwys peryglon cyffredinol sy’n dod i’r amlwg wrth godi sbwriel. Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho’r templedi. 

Mae’n rhaid i chi hefyd rannu eich canfyddiadau gyda phawb sy’n cymryd rhan yn eich digwyddiad. Bydd yr asesiad risg yn sylfaen i friff diogelwch eich digwyddiad. Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth am friffiau diogelwch.

Dolenni a lawrlwythiadau defnyddiolLawrlwytho templed asesiad risg gwag Lawrlwytho enghraifft o asesiad risg
Cam 5

Adolygu a diwygio

Yn ystod eich digwyddiad, gallai pethau newid fydd yn effeithio ar eich asesiad risg (e.e. newid yn y tywydd). Dylai’r risgiau gael eu hadolygu’n barhaus a dylid cymryd camau i leihau risgiau sy’n newid. Os yw’r risgiau’n mynd yn rhy uchel, dylai’r digwyddiad orffen yn gynnar.

Dolenni a lawrlwythiadau defnyddiolAwdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)
Tri gwirfoddolwr mewn siacedi llachar yn siarad fel grŵp

Cynnal briff digwyddiad

Briff digwyddiad yw’r cyfle perffaith i roi cyngor diogelwch i bob cyfranogwr, ac i amlygu’r risgiau a nodwyd yn eich asesiad risg.  

Bydd yn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r hyn y dylent fod yn ei wneud i gynnal eu diogelwch eu hunain ynghyd ag eraill a allai hefyd gael eu heffeithio, fel pobl sy’n mynd heibio. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol i hyrwyddo’r gwaith yr ydych yn ei wneud a chael cymorth ar gyfer gweithgareddau tebyg. 

Rydym wedi rhoi templed o friff diogelwch a rhestr wirio at ei gilydd i helpu.  

Lawrlwytho'r briff diogelwch

Cyngor ar godi sbwriel

Nid yw codi sbwriel heb risg, ond gyda rhywfaint o gynllunio ac ystyriaeth ofalus, gellir rheoli’r risgiau hyn a gellir lleihau’r tebygolrwydd o ddamwain yn digwydd. Isod ceir rhai ystyriaethau cyffredin a ddylai ffurfio rhan o’ch asesiad risg a’ch briff diogelwch.

Gallwch hefyd sgrolio i lawr am arweiniad ar fathau penodol o ddigwyddiadau codi sbwriel, yn cynnwys gweithio gerllaw ffyrdd, ardaloedd arfordirol ac ar ddyfrffyrdd.

Mae’n rhaid defnyddio codwyr sbwriel ar gyfer casglu sbwriel, a chyda rhywfaint o ymarfer mae’n bosibl codi’r rhan fwyaf o sbwriel. Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio gorymestyn neu orgyrraedd. Er y gall fod yn rhwystredig, mae’n rhaid gadael rhai eitemau o sbwriel os nad yw’n bosibl eu symud yn ddiogel.

Ble bynnag y byddwch yng Nghymru, gallwch fynd i’n Hybiau Codi Sbwriel i fenthyg offer am ddim.  

Tra’n codi sbwriel, dylech geisio osgoi cyffwrdd â’ch wyneb gyda’ch dwylo a bod yn ymwybodol o’r offer y byddwch eisoes wedi ei ddefnyddio.

Dylech olchi eich dwylo yn drwyadl ar ôl gorffen, yn arbennig cyn bwyta a / neu yfed. Dylid gorchuddio unrhyw drychiadau neu groen sydd wedi torri gyda phlastr gwrth-ddŵr i leihau’r perygl o haint. 

Argymhellir yn gryf eich bod yn cario pecyn cymorth cyntaf gyda chi ar gyfer mân ddamweiniau, a dylai fod gennych ddefnydd o ffôn mewn argyfwng.  

Dylid cymryd gofal i osgoi unrhyw eitemau miniog a / neu nodwyddau, yn arbennig y rheiny allai fod wedi eu cuddio gan sbwriel arall neu lystyfiant.

Ni ddylid rhoi eitemau miniog yn eich bag sbwriel am y gallai achosi anaf i chi neu bwy bynnag sy’n casglu’r bagiau yn nes ymlaen.

Ni ddylid codi / casglu nodwyddau a dylid hysbysu’r awdurdod lleol er mwyn iddyn nhw ddelio gyda hyn.  

Mae’n bwysig addasu eich gweithgaredd yn unol â’r tywydd, ac i sicrhau bod cyfranogwyr wedi gwisgo’n addas. Er enghraifft, os yw’n oer ac yn wlyb gallech ystyried byrhau hyd gweithgaredd; gall tywydd gwlyb leihau’r gallu i weld a gwneud y ddaear yn llithrig. Er enghraifft, os yw’n oer ac yn wlyb gallech ystyried byrhau hyd gweithgaredd; gall tywydd poeth arwain at ddadhydradu, llosg haul a/neu orludded gwres; a gall gwynt achosi problemau wrth ddal bagiau sbwriel.  

Lawrlwytho cyngor ar weithio ar ffyrdd a phriffyrdd neu’n agos atyntLawrlwytho cyngor ar weithio mewn ardaloedd arfordirolLawrlwytho cyngor ar weithio o amgylch dyfrffyrdd

Dylid cymryd gofal i beidio â gorlenwi bagiau a sicrhau ei fod yn bosibl ymdopi â’r pwysau. Os yw eitem yn rhy fawr i fynd i mewn i fag bin dylech edrych ar y trefniadau lleol ar gyfer casgliadau cyn ceisio ei symud.  

Mae’n ddefnyddiol gwybod a oes gan unrhyw wirfoddolwyr alergeddau hysbys (gellir gofyn hyn fel rhan o friff y digwyddiad). Dylid cymryd gofal o amgylch planhigion a bywyd gwyllt i leihau’r risg. 

Mae’n bwysig peidio â tharfu ar fywyd gwyllt yn ystod eich digwyddiad. Mae hyn yn bwysicach fyth ar adegau penodol o’r flwyddyn, er enghraifft pan fydd adar yn nythu. Gallai sbwriel sydd wedi bod yn yr amgylchedd am amser fod yn gartref i fywyd gwyllt, felly mae’n rhaid cymryd gofal. 

Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13