JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Beth yw’r manteision?

Gwneud ffrindiau newydd. Newid ymddygiad. Magu hyder. Ni allwch fychanu’r manteision o fod yn rhan o’r teulu Eco-Sgolion.

Person ifanc yn darllen llyfr o syniadau Eco, yn gwisgo lifrai coch. Mae swyddog addysg yn sefyll wrth ei ochr.

Grymuso pob dysgwr

Mae Eco-Sgolion yn rhaglen gynhwysol a cyfannol. Rydym eisiau codi dyheadau pob dysgwr, yn eu galluogi i wneud camau tuag at bedwar diben y cwricwlwm.

Gwybodaeth a dealltwriaeth

Mae rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion amgylcheddol i bobl ifanc yn yr ysgol, nid yn unig yn eu grymuso i weithredu nawr, ond yn ogystal, bydd yn eu hannog i arwain y ffordd ac annog newid yn y dyfodol. Byddant yn cael eu cefnogi i ddatblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.

Adeiladu hyder a sgiliau

Mae arwain cyfarfodydd, chwarae rolau gwahanol mewn tîm, dylanwadu ar newid mewn eraill, siarad ag ymwelwyr a chyfoedion a chynllunio ymgyrchoedd yn sgiliau gydol oes sy’n cyfoethogi taith ddysgu pobl ifanc. Mae Eco-Sgolion yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddangos eu bod yn gyfranwyr medrus a chreadigol sy’n eu paratoi i chwarae rhan lawn mewn bywyd neu waith.

Datblygu moeseg a deallusrwydd

Mae pobl ifanc heddiw yn llunwyr polisi, perchnogion busnes a defnyddwyr y dyfodol. Mae defnyddio’r rhaglen Eco-Sgolion rhyngwladol yn ffordd wych o ddatblygu dinasyddion moesegol a gwybodus Cymru a’r byd.

Creu dinasyddion cyfrifol

Mae pobl ifanc yn gadael Eco-Sgolion yn gwybod bod eu lleisiau a’u syniadau’n gallu gwneud gwahaniaeth. Mae hynny’n sicrhau eu bod yn unigolion hyderus sy’n barod i fyw bywydau sy’n dwyn boddhad fel aelodau gwerthfawr cymdeithas.

Mae tri unigolyn yn edrych i fyny at westy pryfed bach wedi'i osod ar delltwaith pren wrth ymyl adeilad glas golau.

Cefnogi dull integredig o ddysgu ac addysgu

Mae’r naw pwnc Eco-Sgolion cydgysylltiedig yn rhoi cyfle i ddatblygu dull thematig ar draws pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh).

Mae hyn, nid yn unig yn caniatáu i fyfyrwyr ddod yn fwy soffistigedig yn eu dealltwriaeth amgylcheddol, ond mae hefyd yn eu galluogi i wneud cysylltiadau a throsglwyddo sgiliau a ddysgwyd. Mae gennym ystod o anodau sydd wedi’u dylunio i hybu’r cysylltiadau trawsgwricwlaidd hyn.

Gweld ein hadnoddau

O fudd i gymunedau lleol, Cymru a’r byd

Mae rhaglen Eco-Sgolion yn cysylltu cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn fwy na hynny, mae’r naw pwnc Eco-Sgolion yn cyd-fynd â llawer o 17 Nod Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Lleol

Mae Eco-Sgolion yn cael eu hannog i edrych y tu hwnt i diroedd yr ysgol, estyn allan i’r gymuned ehangach a mynd i’r afael â materion lleol.

Cenedlaethol

Mae’r rhaglen wedi’i gwreiddio yn niwylliant Cymru ac mae wedi’i chydnabod ar lefel cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi cefnogi’r rhaglen am fwy na 20 o flynyddoedd.

Rhyngwladol

Mae Eco-Sgolion yn ffenomen fyd-eang sy’n gweithredu mewn 70 o wledydd. Mae cymryd rhan yn y rhaglen yng Nghymru yn gwneud eich ysgol yn rhan o deulu byd-eang o fwy na 56,000 o ysgolion ledled y byd sy’n cymryd camau cadarnhaol i greu dyfodol cynaliadwy.

Mae Eco-Sgolion wedi sicrhau bod eco-addysg nid yn unig yn‘ychwanegiad’ ar gyfer ticio bocs ESDGC. Mae wedi sicrhau ein bod wedi sefydlu eco-addysg trwy’r cwricwlwm cyfan. Mae ein disgyblion yn fwy ymwybodol o’u hamgylchedd a’r ffordd y gall y penderfyniadau y maent yn eu gwneud gael effaith waeth neu well arno.

Ysgol Uwchradd Bassaleg

Mae ysbryd yr E-dîm yn anhygoel ac mae’r disgyblion wrth eu bodd yn cymryd rhan weithredol bob wythnos. Maent yn ymfalchïo yn eu hysgol… Eleni, rydym yn disgwyl gweld 40 a mwy o aelodau yn mynychu’r E-dîm am eu bod wedi gweld drostynt eu hunain pa mor werthfawr yw’r clwb. Mae’n anrhydedd gweld y balchder hwn yn y plant a’r awydd i ddiogelu’r amgylchedd.

Ysgol Gynradd Eastern
Cymryd rhan

Cofrestrwch eich ysgol gydag Eco-Sgolion Cymru a dechreuwch eich taith gynaliadwyedd.

Darganfod mwy
Mwy am sut mae’n gweithio

Mae ein holl Eco-Sgolion yn gweithio drwy saith cam. Ar ôl i ysgol roi hyn ar waith a chasglu tystiolaeth o’i chynnydd, mae’n gallu gwneud cais am wobr Eco-Sgolion.

Sut mae'n gweithio
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13