Mae’n bleser gennym lansio her arloesi newydd i ysgolion wedi ei hysbrydoli gan Wobr Earthshot.
Fel rhan o Her Hinsawdd Cymru, gwahoddir ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i gyflwyno fideos byr yn cyfleu syniadau creadigol i fynd i’r afael ag un o bum her fyd-eang, neu ‘Earthshots’: Adeiladu Byd Diwastraff, Glanhau Ein Haer, Trwsio Ein Hinsawdd, Adfywio ac Adfer Natur ac Adfywio Ein Cefnforoedd.
Bydd yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a bydd yr ymgeiswyr terfynol ym mhob categori yn cael eu gwahodd i wobrau mawreddog yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2025.
Cystadleuaeth genedlaethol
Mae Her Hinsawdd Cymru wedi bod yn rhedeg yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ers 2021, wedi ei harwain gan Brif Weinidog Cymru a’r Aelod o’r Senedd dros y rhanbarth, Eluned Morgan.
Mae ein tîm Eco-Sgolion bellach yn rheoli’r gystadleuaeth ac yn llawn cyffro i’w gwneud yn agored i ysgolion ar draws y wlad.
Pan sefydlais brosiect Her Hinsawdd Earthshot Cymru yn 2021, roeddwn eisiau creu rhywbeth gwahanol – llwyfan fyddai’n rhyddhau dawn greadigol ac angerdd pobl ifanc yng Nghymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn yn arbennig yw ei fod yn cysylltu gweithredu lleol â meddwl yn fyd-eang. Ledled Cymru, rydym wedi gweld partneriaethau anhygoel rhwng ysgolion a sefydliadau amgylcheddol, lle mae myfyrwyr nid yn unig yn dysgu am newid hinsawdd – maent yn cymryd camau gweithredu gwirioneddol yn ymwneud â’r hinsawdd bob dydd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan
O ystafelloedd dosbarth i gymunedau, mae pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu her newid hinsawdd. Trwy raglen Eco-Sgolion, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud, a Her Hinsawdd Cymru yw eu cyfle i ddangos eu syniadau ar lwyfan byd-eang. Rwyf yn llawn cyffro i weld eu hatebion cyffrous, ac mae tîm Eco-Sgolion Cadwch Gymru’n Daclus yno i’w cefnogi bob cam o’r ffordd.
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Yng Ngwobr Earthshot, rydym yn credu yng ngrym dawn greadigol pobl ifanc i wneud gwahaniaeth i’r byd ac rydym wedi ymrwymo i annog cenedlaethau o enillwyr Earthshot yn y dyfodol! Mae’n wych gweld y gystadleuaeth hon yn galw ar bobl ifanc yng Nghymru i weithredu a dathlu’r rheiny sydd eisoes yn gweithio i newid eu hamgylchedd er gwell. Edrychwn ymlaen at weld y fideos, pob lwc i bawb sydd yn cymryd rhan!
Hannah Jones Prif Weithredwr, Gwobr Earthshot
Sut i wneud cais
Rydym yn chwilio am fideos creadigol, byr gan ddysgwyr 5-18 oed.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac rydym yn derbyn hyd at bum cais fesul ysgol.
Mae cystadleuaeth Her Hinsawdd Cymru yn cau am 18.00 ddydd Gwener 11 Ebrill.
Ewch i dudalen Her Hinsawdd Cymru i gael yr holl fanylion ac i gofrestru eich diddordeb.












