JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Amdanom ni

Cadwch Gymru’n Daclus yw’r elusen sydd wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol ar draws Cymru i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.

Yn ymarferol, rydym yn gwybod bod amgylchedd o ansawdd da yn bwysig i bobl ac y gall y buddion wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n hiechyd, ein llesiant, i gymunedau ac i’r economi. Ac yn hollbwysig, mae’n wych i natur hefyd.

Ein gweledigaeth fel elusen yw am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau.

Ein Hanes

Gellir olrhain tarddiad Cadwch Gymru’n Daclus yn ôl i’r 1950au, pan arweiniodd balchder yn y DU ar ôl y rhyfel y ffordd wrth fynd i’r afael â phroblem gynyddol sbwriel. Ymatebodd Sefydliadau’r Merched trwy greu grŵp Cadwch Gymru’n Daclus.

Ewch ymlaen i 1972, pan gafodd ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus ei lansio.

Dechreuodd fel Cyfarwyddiaeth Cymru o’r Tidy Group nes i ddatganoli ddechrau ac yn 2005, daeth Cadwch Gymru’n Daclus yn sefydliad elusennol annibynnol.

Ein Gweledigaeth

Mae Cymru Hardd 2022-20230 yn amlinellu sut byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, sefydliadau partner, grwpiau cymunedol a’n byddin o wirfoddolwyr i greu gwlad yr ydym i gyd yn falch o’i galw’n hardd.

Mae’r strategaeth yn un syml sydd yn addo dileu sbwriel a gwastraff, gosod safonau ar gyfer rhagoriaeth amgylcheddol, creu ac adfer mannau gwyrdd a grymuso ieuenctid ar faterion amgylcheddol. Edrychwch ar y cynllun drosoch chi eich hun.

Darllen ein Strategaeth

Ein Heffaith

Pob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi adroddiad sy’n tynnu sylw at yr effaith gadarnhaol y mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi’i chyflawni drwy gydweithio â’n gwirfoddolwyr i wella’r amgylchedd lleol.

Darllen ein Adroddiad Effaith 2024-25
Eisteddodd y dysgwr wrth fwrdd yn darllen cynllun gweithredu eco gyda staff Cadwch Gymru'n Daclus.

Dyddiadau allweddol

1987

Gwobr y Faner Las yn cael ei lansio yng Nghymru

1994

Rhaglen Eco-Sgolion yn cael ei lansio yng Nghymru

Eco-Schools flag

2002

Gwobr y Faner Werdd ar gyfer Parciau yn cael ei lansio yng Nghymru

Community Award flag flying from a tree with a green space in the background

2008

Menter Trefi Taclus yn cael ei lansio yng Nghymru

2011

Tâl am fagiau plastig untro yn cael ei gyflwyno yng Nghymru

2016

Ymgyrch Gwanwyn Glân Cymru yn cael ei lansio yng Nghymru

2017

Prosiect y Goedwig Hir yn cael ei lansio yng Nghymru

2021

Caru Cymru yn cael ei lansio, mudiad cynhwysol i ddileu sbwriel a gwastraff

Newyddion diweddaraf

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13