JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol

Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn cyflawni gwaith ymarferol, addysg amgylcheddol, ac yn gosod y safonau ar gyfer parciau a thraethau.

Rydym hefyd yn arbenigwyr polisi ac ymchwil, yn cefnogi’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol.

Machlud haul dros ddôl

Cymru Hardd

Ein gweledigaeth fel elusen yw am Gymru hardd y mae pawb yn gofalu amdani ac yn ei mwynhau. Mae Cymru Hardd, ein strategaeth ar gyfer 2022-2030, yn amlinellu ein cynlluniau uchelgeisiol i gyflawni’r weledigaeth hon, gan weithio’n agos gyda gwirfoddolwyr, y llywodraeth, sefydliadau corfforaethol a lleol.

Darllen ein Strategaeth

Sbwriel a gwastraff

O dan faner Caru Cymru, rydym yn arwain ymdrechion i leihau sbwriel a gwastraff, ac yn cefnogi gweithgareddau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr.

Wrth i bawb gydweithio i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn greu cymunedau cryfach, iachach a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n planed.

Darganfod mwy
Aelod o staff Cadwch Gymru’n Daclus yn codi sbwriel

Mannau gwyrdd

Rydym yn gwybod bod mannau gwyrdd o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer pobl a bywyd gwyllt, ac yn cynnig hafan hanfodol i ymlacio ac ar gyfer bioamrywiaeth.

Mae mentrau y Goedwig Hir Drefol a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn creu ac yn adfer mannau gwyrdd sydd o fudd i natur a’n cymunedau.

Darganfod mwy
Blodau gwylltion

Rhagoriaeth amgylcheddol

Mae ansawdd amgylcheddol yn greiddiol i’n pwrpas.

Rydym yn gosod y safonau’n uchel ar gyfer mannau gwyrdd a thraethau yng Nghymru trwy ein hamrywiaeth o wobrau rhyngwladol gan gynnwys, Y Faner Werdd, Y Faner Las, Gwobrau Glan Môr a’r Arfordir Gwyrdd.

Darganfod mwy
Y Faner Las eiconig yn chwifio dros draeth yng Ngheredigion

Pobl ifanc

Gwyddom drwy flaenoriaethu ymgysylltu ag ieuenctid y gallwn sicrhau dealltwriaeth gynnar o effaith hirdymor eu hymddygiad a helpu i greu etifeddiaeth well i’r wlad ac i’r blaned.

Mae bron hanner miliwn o bobl yn rhan o’n rhaglenni addysg, wedi eu hannog bob cam o’r ffordd gan ein tîm arbenigol, sy’n rhoi arweiniad, adnoddau a hyfforddiant i’w helpu i ffynnu.

Darganfod mwy
Machlud haul dros ddôl

Newyddion diweddaraf

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13