Mae’n siŵr y byddwch wedi sylwi bod Cadwch Gymru’n Daclus yn angerddol am ddileu sbwriel.
Dyma pam rydym yn gwneud newid pwysig i’r ffordd yr ydym yn cysylltu â chi ar-lein.
Ar 24 Ionawr, bydd Cadwch Gymru’n Daclus yn postio ei neges olaf ar X (Twitter yn flaenorol).
Mae’r penderfyniad hwn yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad i gynhwysiant, parch a chyfathrebu ar sail tystiolaeth—gwerthoedd nad ydynt, yn ein barn ni, yn cael eu cefnogi ar X bellach, wrth i’r llwyfan barhau i alluogi’r defnydd o rethreg niweidiol.
Yn lle hynny, rydym yn canolbwyntio ar gynyddu ein presenoldeb ar lwyfannau sy’n adlewyrchiad o’n gwerthoedd cadarnhaol a chefnogol. Gallwch gadw mewn cysylltiad â ni ar Facebook, Instagram, a LinkedIn, yn ogystal â’n cyfrif newydd ar Bluesky, fydd yn cael ei lansio ar 24 Ionawr.
Rydym yn llawn cyffro i barhau i rannu diweddariadau, straeon a chyfleoedd i gymryd rhan trwy’r llwyfannau hyn. P’un ai’n brosiectau cymunedol i ddod, mentrau newydd cyffrous, neu awgrymiadau defnyddiol i wneud gwahaniaeth yn eich amgylchedd lleol, byddwn yno i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a’ch ysbrydoli.
Mae ein cymuned ar-lein yn rhan hanfodol o’n cenhadaeth i greu Cymru lanach, wyrddach, felly gobeithio byddwch yn parhau i’n dilyn ni ar ein sianeli ac yn ymuno â ni yn ein hanturiaethau newydd ar Bluesky.
Dewch i ni gadw’r sgwrs i fynd – yn ddiogel ac yn gadarnhaol.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus!
18/10/2024
29/04/2024
12/03/2024
30/10/2023