CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
EraillPobl ifanc

Cyflwyno Eco-Tots Cymru: ysbrydoli cenhedlaeth ieuengaf Cymru

Rhannu

Heddiw (dydd Mawrth 26 Mai) mae Eco-Tots Cymru yn lansio -rhaglen gyffrous a grëwyd yn arbennig ar gyfer meithrinfeydd a lleoliadau sy’n gweithio gyda phlant dan bum mlwydd oed. 

Mae Eco-Tots Cymru yn cynnig dull rhad ac am ddim, deniadol a hyblyg o addysg cynaliadwyedd i leoliadau’r blynyddoedd cynnar. Mae wedi’i gynllunio i helpu meithrin cysylltiad gydol oes â natur o gamau cynnar iawn dysgu.  

Dathlodd seren y West End, Sophie Jenkins, lansiad Eco-Tots Cymru yn Rachael’s Playhouse yn Hirwaun, ger Aberdâr – un o 18 o leoliadau ledled Cymru sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o brofi’r rhaglen. Fel mam i ddau fachgen ifanc, mae Sophie’n deall pwysigrwydd rhoi cyfle i blant gysylltu â natur yn gynnar mewn bywyd.  

“Rydw i mor falch o fod yn rhan o Eco-Tots Cymru. Rydym ni angen mentrau fel hyn i helpu cenedlaethau'r dyfodol i archwilio, deall a gofalu am y byd natur o'u cwmpas. Mae'n wych gweld Cadwch Gymru'n Daclus yn rhoi cyfle i blant ifanc ledled Cymru ddysgu am gynaliadwyedd drwy chwarae ac ymgysylltu â natur mor gynnar yn eu bywydau.”

Sophie Jenkins

Wedi’i ddylunio gydag arbenigwyr blynyddoedd cynnar 

Wedi’i ariannu gan Sefydliad Moondance, mae Eco-Tots Cymru wedi’i ddylunio mewn cydweithrediad ag arbenigwyr blynyddoedd cynnar ledled Cymru. Mae’n cynnig ystod eang o adnoddau dwyieithog rhad ac am ddim, gan gynnwys caneuon, gweithgareddau ymarferol ac arweiniad y gellir eu teilwra i oedrannau a lleoliadau gwahanol.  

Wrth wraidd Eco-Tots Cymru mae chwe thema dychmygus: Ceidwad Ynni, Arbed ac Ailddefnyddio, Dechrau o Hedyn, Tîm Taclus, Coed Campus a Bywyd Gwyllt Gwych – pob un yn amlygu ffyrdd gwahanol y gallwn ni ofalu am ein planed. 

Gall lleoliadau sy’n cymryd rhan weithio tuag at Wobr Eco-Tots Cymru, sy’n dathlu arfer blynyddoedd cynnar cynaliadwy o ansawdd uchel. Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn gobeithio y bydd hwn yn dod yn nod dibynadwy o ragoriaeth ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar. 

“Mae'r arferion sy’n cael eu ffurfio ym mlynyddoedd cyntaf plentyn yn llywio sut maen nhw’n ymgysylltu â'r byd am oes - dyna yw'r sylfaen mae Eco-Tots Cymru wedi'i hadeiladu arni. Drwy sicrhau bod plant yn dechrau dysgu am fyd natur ar y cam hwn, rydym ni’n rhoi'r dechrau gorau posibl iddynt mewn bywyd. Mae’n fuddsoddiad yn eu dyfodol nhw, ac mewn dyfodol gwell i amgylchedd Cymru y byddant yn ei etifeddu ryw ddydd.”

Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Dysgu mwy 

Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru, ewch i’r adran Eco-Tots newydd sbon ar y wefan.   

Ewch i Eco-Tots 

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13