JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruEco-SgolionGwirfoddoliGwobrau Baner WerddI fusnesauLleoedd Lleol ar gyfer NaturMannau gwyrddPobl ifancRhagoriaeth amgylcheddolSbwriel a gwastraff

Datganiad CDE Cadwch Gymru’n Daclus Tachwedd 2024

Rhannu

Datganiad gan Cadwch Gymru’n Daclus ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymuno â’r cynllun CDE ar draws y DU

Nôl yn 2006, galwodd Cadwch Gymru’n Daclus am Gynllun Dychwelyd Ernes (CDE) gorfodol ar gyfer cynwysyddion diodydd plastig, gwydr a metel. Ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn dal wedi ein siomi gyda phenderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chynnwys gwydr yn eu cynlluniau.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i adael CDE Llywodraeth y DU, gan eu galluogi i weithredu cynllun sy’n cyd-fynd ag uchelgais mentrus Cymru ar gyfer ailgylchu ac ailddefnyddio. Mae Cymru yn parhau i arwain lle mae eraill ar ei hôl hi, yn hyrwyddo system gyflawn sydd yn atgyfnerthu ein henw da fel arweinwyr ailgylchu byd-eang.

Er bod yr oedi’n rhwystredig, y penderfyniad hwn yw’r un cywir i Gymru yn yr hirdymor. Gyda rhai o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd, byddai mabwysiadu system nad yw’n cynnwys gwydr nid yn unig yn cynnig gwerth gwael am arian ond hefyd yn lleihau effaith bosibl y cynllun yn sylweddol.

Mae CDE wedi ei ddylunio’n dda yn dda i natur, yn dda i gymunedau, ac yn dda i economi’r dyfodol. Dewch i ni gyflawni hynny.

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13