Ers 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus wedi rhoi cyfle i Cadwch Gymru’n Daclus daflu goleuni ar arwyr amgylcheddol tawel ledled y wlad.
Fe wnaeth seremoni wobrwyo 2024, a noddwyd gan Wales and West Housing, ddathlu grwpiau ac unigolion o bob rhan o Gymru mewn seremoni wobrwyo fawreddog a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddydd Mercher (11 Medi), dan arweiniad y cyflwynwyr, Chris Jones, a Donna Ali.
Enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2024:
Cyfeillion Parc Nant-y-Waun Gwobr am Arwyr Natur a noddwyd gan Trafnidiaeth Cymru
Cyfeillion Llwybr Arfordir Ynys Môn Gwobr Arfordir Hardd noddwyd gan Archer Technology Group
Llangattock Litter Pickers Gwobr Gymunedol Caru Cymru a noddwyd gan Helping Hand Environmental
Adullam Homes, Sir Ddinbych Gwobr Busnes Caru Cymru a noddwyd gan Berry Global
Ysgol Pen Rhos Gwobr Arloesi Eco-Sgolion a noddwyd gan Second Life Products Wales
The Co-Star Partnership Gwobr Arloesedd Economi Gylchol a noddwyd gan CEIC
Hope St Mellons Gwobr Tyfu Bwyd Cymunedol a noddwyd gan Sefydliad Moondance
Brighter Futures Gwobr Trawsnewid Cymunedol a noddwyd gan Huws Gray
Fforwm Ieuenctid Livings Seas Gwobr Hyrwyddwr Newid Hinsawdd Ieuenctid a noddwyd gan Blake Morgan LLP
Michael Barnfather Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn a noddwyd gan Bute Energy
Cyflwynwyd y Wobr Cyflawniad Eithriadol i Michael Barnfather o Sir Fynwy. Ers dau ddegawd mae Michael wedi gweithio’n ddiflino i gadw ei gymdogaeth yn daclus, gan wynebu pob tywydd i gasglu sbwriel ar draws ardal fawr o Sir Fynwy. Yn 90 oed, mae’n parhau i syfrdanu trigolion lleol gyda’i ymdrechion a gellir ei weld yn cerdded pellteroedd hir yn rheolaidd, gan ysbrydoli teuluoedd eraill i ymuno â’i ymdrechion a chymryd rhan.
Wrth siarad yn y seremoni, dywedodd Michael ei fod wedi synnu ei fod yn mynd adref gyda dwy wobr:
Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill dim byd mewn gwirionedd, oherwydd roedd cymaint o enwebeion gwych eraill. Michael BarnfatherEnillydd Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn a Chyflawniad Eithriadol
Michael BarnfatherEnillydd Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn a Chyflawniad Eithriadol
Roedd y digwyddiad eleni yn cynnwys areithiau gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, yn ogystal â thrafodaeth ar actifiaeth gan lysgennad Cadwch Gymru’n Daclus ac aelod o’r bwrdd ieuenctid, Kate Strong ac Ela Lloyd. Darparodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp noddwr y teitl, Wales and West Housing, araith gloi cyn cyflwyno’r Wobr olaf, sef Cyflawniad Eithriadol derfynol.
Mae gan Gymru draddodiad rhyfeddol o weithredu cymunedol, ac rwy'n teimlo'n ffodus i fyw mewn gwlad sy'n cefnogi ac yn dathlu ymdrechion y rhai sy'n ysbrydoli mentrau o'r fath. Mae'n wir i ddweud na allai Cadwch Gymru'n Daclus wneud yr hyn rydym ni’n ei wneud heb waith diflino gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau fel y rhai sy'n cael eu dathlu yng Ngwobrau Cymru Daclus eleni. Mewn byd ansicr, mae angerdd ac ymrwymiad yr arwyr di-glod hyn yn rhoi gobaith go iawn, ac yn ysgogi newid cadarnhaol a diffuant yn ein cymunedau. I enillwyr 2024, estynnaf fy llongyfarchiadau cynhesaf; mae eich gwaith yn dangos y gorau o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd. Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus
10/09/2024
16/07/2024
11/07/2024
17/05/2024