CYMERWCH GIP AR EIN RHAGLEN NEWYDD, ECO-TOTS CYMRU

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Caru CymruEco-SgolionGwirfoddoliGwobrau Baner WerddI fusnesauLleoedd Lleol ar gyfer NaturMannau gwyrddPobl ifancRhagoriaeth amgylcheddolSbwriel a gwastraff

Dathlu Enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2025

Rhannu

Ers 1990, mae Gwobrau Cymru Daclus wedi rhoi cyfle i Cadwch Gymru’n Daclus dynnu sylw at arwyr amgylcheddol ar draws y wlad.

Dathlodd seremoni wobrwyo 2025, a noddwyd gan Dai Wales and West, grwpiau ac unigolion ledled Cymru mewn seremoni wobrwyo flaenllaw a gynhaliwyd yn Llandudno ar ddydd Iau 2 Hydref, gyda Dafydd Wyn o S4C yn cyflwyno.

Enillwyr Gwobrau Cymru Daclus 2025 yw:

Tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu, Coleg Gŵyr Abertawe
Gwobr Natur yn y Gymuned wedi ei noddi gan Drafnidiaeth Cymru

Cadwch Y Fenni’n Daclus, Sir Fynwy
Gwobr Cymunedau wedi ei noddi gan Helping Hand Environmental

Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug, Ceredigion
Gwobr Uno dros Effaith Amgylcheddol wedi ei noddi gan Huws Gray

Ysgol Crug Glas, Abertawe
Gwobr Matt Bunt am Ragoriaeth EcoSgolion wedi ei noddi gan Eversheds Sutherland

Community Heart Productions, Sir y Fflint
Gwobr Tyfu Bwyd Cymunedol wedi ei noddi gan Moondance Foundation

Ysgol Arbennig Pen y Cwm, Blaenau Gwent
Gwobr Trawsnewid Cymunedol wedi ei noddi gan Clwyd Alyn

James Howes, Sir y Fflint
Gwobr Gwirfoddolwr/Gwirfoddolwyr Ifanc y Flwyddyn wedi ei noddi gan Bute Energy

Eric Edwards, Sir Fynwy
Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn wedi ei noddi gan Archer Technology Group

Cyflwynwyd y Wobr Cyflawniad Eithriadol i Cadwch Y Fenni’n Daclus. Ers ail-lansio yn 2019, mae Cadwch Y Fenni’n Daclus wedi mynd o nerth i nerth, gyda mwy na 60 o aelodau gweithredol yn casglu bron 90 o fagiau o sbwriel bob mis. O strydoedd i barciau, i afonydd a lonydd cefn, mae Cadwch Y Fenni’n Daclus yn mynd i’r afael â mannau gwael, yn cefnogi Cymru yn ei Blodau, ac yn gweithio’n agos gyda chynghorau lleol, ysgolion, a grwpiau cymunedol. Mae eu hymdrechion nid yn unig yn cadw’r Fenni a’r cymunedau cyfagos yn lân, ond mae hefyd yn meithrin balchder, cysylltiad, ac ymwybyddiaeth amgylcheddol.

Mae Gwobrau Cymru Daclus yn dathlu ymrwymiad eithriadol pobl ledled Cymru sy’n gweithio’n ddiflino i ddiogelu a gwella’r mannau yr ydym yn eu galw’n gartref. Ar adeg heriol iawn, mae eu hymrwymiad yn atgof pwerus bod newid yn dechrau ar garreg y drws – ac y gall gweithredu lleol ffurfio’r byd y tu hwnt iddo. Llongyfarchiadau gwresog i’n holl fuddugwyr, sydd yn dangos y gorau o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda’n gilydd.

Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13