JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Lleoedd Lleol ar gyfer NaturMannau gwyrdd

Dros 2,000 o erddi wedi eu trawsnewid. Mwy o becynnau i’w rhoi i ffwrdd!

Rhannu

Oeddech chi’n gwybod, mae dros 2,000 o erddi wedi cael eu creu, trawsnewid, a’u gwella ers lansio cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020?

Rydym yn dathlu’r garreg filltir hon trwy roi cannoedd o erddi newydd i ffwrdd!

Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau ledled Cymru nawr wneud cais am becynnau gardd rhagdaledig, am ddim i adfywio ardaloedd segur yn erddi ffyniannus.

Cyflwyno ein pecynnau gardd newydd

Mae’r pecynnau’n amrywio o erddi bach ar raddfa lai i berllannau a thrawsnewidiadau cymunedol mawr. Mae pob un yn cynnwys planhigion brodorol, offer, deunyddiau ac adnoddau ymarferol i roi hwb i’ch prosiect.

Dyma drosolwg byr o’r pecynnau sydd ar gael am ddim:

  • Pecynnau Gardd Fach: Perffaith ar gyfer grwpiau sy’n barod i ddechrau ar brosiect garddio bach.
  • Pecynnau Gardd: Delfrydol ar gyfer sefydliadau cymunedol sy’n ymgymryd â thrawsnewidiadau mawr i erddi.
  • Pecynnau Gardd Enfawr: Wedi eu cynllunio ar gyfer y rheiny ag uchelgais mawr a gofod gwag, mawr i’w adfywio.
  • Pecynnau Adlenwi: Ar gael ar gyfer prosiectau Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn unig i wella eu man gwyrdd.
  • Pecynnau Perllan: Gwych ar gyfer cymunedau ac ysgolion sydd eisiau tyfu coed ffrwythau, plannu bylbiau, a chefnogi bywyd gwyllt gyda blychau cynefin.

Rydym yn annog cymunedau i wneud cais yn gynnar i osgoi colli’r cyfle. P’un ai eich bod eisiau tyfu eich ffrwythau a’ch llysiau eich hun, creu gofod tawel, neu hybu bioamrywiaeth, mae pecyn gardd i chi.

Gwnewch gais nawr i osgoi colli’r cyfle!

Mae’n hawdd cymryd rhan, Ewch i dudalen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar y we, dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a llenwch y ffurflen gais ar-lein, gan sicrhau eich bod yn ateb pob cwestiwn.

Gall grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint wneud cais. Mae elusennau iechyd a chlybiau ieuenctid, timau chwaraeon a sefydliadau ffydd i gyd wedi elwa dros y misoedd diwethaf.

Angen help? Mae ein Tîm Natur yma i’ch cefnogi. E-bostiwch: nature@keepwalestidy.cymru

Mae menter Cadwch Gymru’n Daclus yn rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar garreg y drws’.

Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddariadau i gyd. 

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13