Syrthiwch mewn cariad â Chymru ar Ddydd Santes Dwynwen eleni – fersiwn Cymru o Ddydd Sant Ffolant.
Ar ddiwrnod mwyaf rhamantus y flwyddyn yng Nghymru, byddwn yn rhannu’r cariad ac yn dathlu holl wirfoddolwyr, arwyr sbwriel a grwpiau cymunedol anhygoel Caru Cymru sydd yn helpu i gadw’n gwlad yn hardd.
Nod Caru Cymru yw ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Ers lansio Caru Cymru ym mis Mawrth 2021, mae gennym 1,540 o arwyr sbwriel newydd, 239 o grwpiau cymunedol, 133 o hybiau codi sbwriel sydd ar agor ac wedi cynnal 10,854 o ddigwyddiadau glanhau.
Wrth i bawb gydweithio i greu amgylchedd glân a diogel, gallwn greu cymunedau cryfach, iachach a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n planed ar Ddydd Santes Dwynwen eleni a phob diwrnod arall o’r flwyddyn.
Os ydych yn caru Cymru gymaint â ni, byddwch yn rhan o fudiad Caru Cymru.
Mae pobl yn ganolog i Caru Cymru. Ymunwch â Grŵp Cymunedol Cadwch Gymru’n Daclus sydd newydd ei lansio ar Facebook i rannu eich straeon a’ch lluniau.
Mae Caru Cymru’n swnio’n wych ym mhob iaith.
30/01/2023
18/01/2023
13/12/2022
01/12/2022