Mae’n bleser gennym lansio her arloesi newydd i ysgolion wedi ei hysbrydoli gan Wobr Earthshot.
Fel rhan o Her Hinsawdd Cymru, gwahoddir ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru i gyflwyno fideos byr yn cyfleu syniadau creadigol i fynd i’r afael ag un o bum her fyd-eang, neu ‘Earthshots’: Adeiladu Byd Diwastraff, Glanhau Ein Haer, Trwsio Ein Hinsawdd, Adfywio ac Adfer Natur ac Adfywio Ein Cefnforoedd.
Bydd yn cael ei redeg mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a bydd yr ymgeiswyr terfynol ym mhob categori yn cael eu gwahodd i wobrau mawreddog yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2025.
Mae Her Hinsawdd Cymru wedi bod yn rhedeg yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ers 2021, wedi ei harwain gan Brif Weinidog Cymru a’r Aelod o’r Senedd dros y rhanbarth, Eluned Morgan.
Mae ein tîm Eco-Sgolion bellach yn rheoli’r gystadleuaeth ac yn llawn cyffro i’w gwneud yn agored i ysgolion ar draws y wlad.
Pan sefydlais brosiect Her Hinsawdd Earthshot Cymru yn 2021, roeddwn eisiau creu rhywbeth gwahanol – llwyfan fyddai’n rhyddhau dawn greadigol ac angerdd pobl ifanc yng Nghymru i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Yr hyn sy’n gwneud y prosiect hwn yn arbennig yw ei fod yn cysylltu gweithredu lleol â meddwl yn fyd-eang. Ledled Cymru, rydym wedi gweld partneriaethau anhygoel rhwng ysgolion a sefydliadau amgylcheddol, lle mae myfyrwyr nid yn unig yn dysgu am newid hinsawdd – maent yn cymryd camau gweithredu gwirioneddol yn ymwneud â’r hinsawdd bob dydd. Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan
O ystafelloedd dosbarth i gymunedau, mae pobl ifanc yng Nghymru yn wynebu her newid hinsawdd. Trwy raglen Eco-Sgolion, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud, a Her Hinsawdd Cymru yw eu cyfle i ddangos eu syniadau ar lwyfan byd-eang. Rwyf yn llawn cyffro i weld eu hatebion cyffrous, ac mae tîm Eco-Sgolion Cadwch Gymru’n Daclus yno i’w cefnogi bob cam o’r ffordd. Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Owen DerbyshirePrif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus
Yng Ngwobr Earthshot, rydym yn credu yng ngrym dawn greadigol pobl ifanc i wneud gwahaniaeth i’r byd ac rydym wedi ymrwymo i annog cenedlaethau o enillwyr Earthshot yn y dyfodol! Mae’n wych gweld y gystadleuaeth hon yn galw ar bobl ifanc yng Nghymru i weithredu a dathlu’r rheiny sydd eisoes yn gweithio i newid eu hamgylchedd er gwell. Edrychwn ymlaen at weld y fideos, pob lwc i bawb sydd yn cymryd rhan! Hannah JonesPrif Weithredwr, Gwobr Earthshot
Hannah JonesPrif Weithredwr, Gwobr Earthshot
Rydym yn chwilio am fideos creadigol, byr gan ddysgwyr 5-18 oed.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg, ac rydym yn derbyn hyd at bum cais fesul ysgol.
Mae cystadleuaeth Her Hinsawdd Cymru yn cau am 18.00 ddydd Gwener 11 Ebrill.
Ewch i dudalen Her Hinsawdd Cymru i gael yr holl fanylion ac i gofrestru eich diddordeb.
> Ewch i Her Hinsawdd Cymru
08/10/2024
11/07/2023
06/03/2023
24/11/2022