JOIWCH EIN GWEFAN NEWYDD!

English Chwilio... Ein gwaith

Rydym yn gweithredu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac mae ein gwaith yn amrywiol iawn.

Rydym yn gweithredu’n ymarferol, yn cyflwyno addysg amgylcheddol, hyfforddiant, gwasanaethau busnes ac atebion amgylcheddol ar hyd a lled Cymru.

Darganfod mwy
Sbwriel a gwastraff
Mannau gwyrdd
Rhagoriaeth amgylcheddol
Pobl ifanc
Cymerwch ran

Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Rydym yn elusen, sy’n golygu ein bod yn dibynnu ar garedigrwydd, ewyllys da a chefnogaeth y cyhoedd a’r partneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw.

Rhagor o wybodaeth
Unigolion
Grwpiau cymunedol
Addysg
Busnes a gweithleoedd
Cynghorau ac awdurdodau lleol
Eco-SgolionPobl ifanc

Mae Her Hinsawdd Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2026!

Rhannu

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi dychweliad Her Hinsawdd Cymru, her arloesi genedlaethol gyffrous i ysgolion ledled Cymru, wedi’i hysbrydoli gan Wobr Earthshot. 

Gwahoddir dysgwyr 5–18 oed i gymryd rhan trwy greu fideos byr, gwreiddiol sy’n arddangos eu syniadau mwyaf dychmygus ac ymarferol i helpu i fynd i’r afael ag un o bum her fyd-eang, neu ‘Earthshots’: Adeiladu Byd Diwastraff, Glanhau Ein Haer, Trwsio Ein Hinsawdd, Adfywio ac Adfer Natur, ac Adfywio Ein Cefnforoedd. 

Mudiad cenedlaethol cynyddol 

Ar ôl llwyddiant anhygoel cystadleuaeth eleni, mae Her Hinsawdd Cymru 2026 yn parhau i rymuso pobl ifanc i archwilio materion amgylcheddol a rhannu atebion a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn eu hysgolion, eu cymunedau, a thu hwnt. 

Wedi’i chyflwyno gan Eco-Sgolion Cymru yn Cadwch Gymru’n Daclus, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Gwobr Earthshot, mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle unigryw i ddysgwyr gyfuno creadigrwydd, gwaith tîm, ac addysg gynaliadwyedd. 

Dathlu arloesedd ac effaith 

Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori Earthshot yn cael eu gwahodd i seremoni wobrwyo arbennig yn haf 2026, lle bydd eu syniadau’n cael eu dathlu a’u rhannu ag ysgolion ledled Cymru.  

Rwyf wrth fy modd y bydd Her Hinsawdd Cymru yn dychwelyd yn 2026. Eleni, cawsom ein syfrdanu gan greadigrwydd a phenderfyniad pobl ifanc ledled Cymru, ac alla i ddim aros i weld sut maen nhw'n adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Mae'r her yn rhoi cyfle i ddysgwyr droi eu syniadau'n weithredu a rhannu eu hatebion ar lwyfan cenedlaethol.

Yn Cadwch Gymru'n Daclus, trwy'r rhaglen Eco-Sgolion, rydym yn falch o chwarae rhan gefnogol fach wrth iddynt arwain y ffordd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Owen Derbyshire Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus

Sut i gymryd rhan 

Rydym yn chwilio am fideos byr, creadigol gan ddysgwyr 5–18 oed. 

Croesewir ceisiadau yn Saesneg neu’n Gymraeg, a gall pob ysgol gyflwyno hyd at bum cais. 

Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb ar ein gwefan. 

Ewch i Her Hinsawdd Cymru

Rhannu

Parhewch i ddarllen...

Gweld y cyfan
Cadwch Gymru’n Daclus yn Gwmni Preifat wedi ei Gyfyngu trwy Warant Rhif Cofrestru Cwmni: 4011164 Rhif Cofrestru Elusen: 1082058 Rhif Cofrestru TAW: 850 3958 13